Anghydfod Ynysoedd Senkaku
Dadl diriogaethol dros Ynysoedd Senkaku, ynysfor anghyfannedd ym Môr Dwyrain Tsieina, yw anghydfod Ynysoedd Senkaku. Mae'r anghydfod yn ymglymu Japan (sy'n rheoli'r ynysoedd), Gweriniaeth Tsieina, a Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Enghraifft o'r canlynol | dadl diriogaethol |
---|---|
Rhan o | Q114451801 |
Lleoliad | Ynysoedd Senkaku |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Ynysoedd Senkaku o bwys strategol ac economaidd, gan eu bod yn cynnwys dyfroedd llawn pysgod ac o bosib gwaddodion olew.[1]
Hawliad Japan
golyguAr 14 Ionawr 1895 cododd Japan arwydd ar yr ynysoedd yn nodi sofraniaeth Japan drostynt. Ymgorfforwyd Ynysoedd Senkaku yn rhan o Ynysoedd Nansei Shoto, a elwir heddiw yn Ynysoedd Ryukyu (rhan o dalaith Okinawa). Wedi'r Ail Ryfel Byd, ildiodd Japan ei hawliadau i nifer o diriogaethau, gan gynnwys Taiwan, yng Nghytundeb San Francisco (1951). Yn ôl y cytundeb hwn daeth Ynysoedd Nansei Shoto yn diriogaeth ymddiriedol Americanaidd, a chafodd ei dychwelyd i Japan ym 1971.[1] Yn ôl Japan, mae'r Tsieineaid dim ond wedi ymddiddori yn Ynysoedd Senkaku ers i'r posibilrwydd o gronfeydd olew dod i'r amlwg yn y 1970au.[2]
Hawliad Tsieina
golyguMae'r Tsieineaid, sy'n galw'r ynysoedd yn Ynysoedd Diaoyu, yn mynnu eu bod yn rhan o Tsieina ers oes yr henfyd, ac yn gysylltiedig â thalaith Taiwan yn hanesyddol. Cafodd Taiwan ei hildio i Japan gan Gytundeb Shimonoseki (1895) yn sgil Rhyfel Cyntaf Tsieina a Japan. Dadleua'r Tsieineaid y dylai Ynysoedd Senkaku wedi cael eu dychwelyd gyda thiriogaeth Taiwan o ganlyniad i Gytundeb San Francisco. Yn ôl Gweriniaeth Pobl Tsieina, ni wnaeth Chiang Kai-shek, arweinydd Gweriniaeth Tsieina, mynnu hyn ar y pryd gan iddo ddibynnu ar yr Unol Daleithiau am gefnogaeth i'w lywodraeth.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Q&A: China-Japan islands row. BBC (11 Medi 2012). Adalwyd ar 28 Tachwedd 2012.
- ↑ (Saesneg) Senkaku / Diaoyutai Islands. GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2012.
Darllen pellach
golygu- (Saesneg) Adnoddau ar anghydfod Ynysoedd Senkaku, GlobalSecurity.org