Chiang Kai-shek
Gwleidydd a chadfridog o Tsieina oedd Chiang Kai-shek (trawslythrennir hefyd Chiang Chieh-shih, Jiang Jieshi (蔣介石) neu Jiang Zhongzheng (蔣中正); 31 Hydref 1887 – 5 Ebrill 1975) a fu'n bennaeth ar lywodraeth Genedlaetholgar Gweriniaeth Tsieina, yn gyntaf yn nhir mawr Tsieina o 1928 i 1949 ac yna ar ynys Taiwan o 1949 hyd at ei farwolaeth ym 1975.
Chiang Kai-shek | |
---|---|
Llais | Chiang Kai-shek on the end of World War II (1945).ogg |
Ganwyd | 蔣瑞元 31 Hydref 1887 Xikou |
Bu farw | 5 Ebrill 1975 Taipei |
Dinasyddiaeth | Taiwan, Brenhinllin Qing |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | Arlywydd Gweriniaeth Tsieina, President of the National Government of the Republic of China, President of the National Government of the Republic of China, Arlywydd Gweithredwr yr Yuan, Arlywydd Gweithredwr yr Yuan, Arlywydd Gweithredwr yr Yuan, chairperson, Arlywydd Gweithredwr yr Yuan, Arlywydd Gweriniaeth Tsieina, member of the 1st National Assembly of the Republic of China, member of the Constituent National Assembly |
Cartre'r teulu | Yixing, Xuchang |
Plaid Wleidyddol | Kuomintang, Chinese Revolutionary Party |
Tad | Chiang Chao-Tsung |
Mam | Wang Caiyu |
Priod | Mao Fumei, Yao Yecheng, Chen Jieru, Soong May-ling |
Plant | Chiang Ching-Kuo, Chiang Wei-Kuo |
Perthnasau | Chiang Wei-Kuo |
Llinach | family of Chiang Kai-shek |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Grand Cross of the Order of the Bath, Urdd y Llew Gwyn, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Time Person of the Year, Urdd Teilyngdod Sifil, Urdd Brenhinol y Seraffim, Urdd Rajamitrabhorn, Urdd Leopold, Philippine Legion of Honor, Urdd y Cymylau Ffafriol, Silver Cross of the Virtuti Militari, Order of National Glory, Order of Blue Sky and White Sun, Order of the Sacred Tripod, Order of the Cloud and Banner, Order of Brilliant Star, Order of Brilliant Jade, Urdd y Baddon, Lleng Teilyngdod, Medal Gwasanaeth Neilltuol mewn Amddiffyn, Urdd Eryr Mecsico, Urdd Teilyngdod am Sefydliad Cenedlaethol, Urdd Teilyngdod Dinesig, Urdd Boyacá, Urdd yr Haul, Urdd Teilyngdod (Chili), Order of the Condor of the Andes, Order of Christopher Columbus, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Urdd Vasco Núñez de Balboa, Urdd Sikatuna, Urdd Croes y De, Urdd Goruchaf y Dadeni, Order of Merit of Duarte, Sanchez and Mella, Urdd y Quetzal, Gorchymyn Annibyniaeth Ddiwylliannol Rubén Darío, Urdd Isabel la Católica, Urdd dros ryddid, Order of the Republic of The Gambia, Urdd y Gwaredwr, Urdd Cenedlaethol er Anrhydedd, Order of the Lion, Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Order of Merit of the Federal Republic of Germany, Nishan-e-Pakistan |
llofnod | |
Chiang Kai-shek | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Tsieineeg traddodiadol | 蔣介石 / 蔣中正 | ||||||||||||
Tsieineeg syml | 蒋介石 / 蒋中正 | ||||||||||||
|
Ganed ef yn nhalaith Zhejiang yng nghyfnod brenhinllin Qing. Wedi iddo gael ei hyfforddi yn yr ysgol baratoi filwrol yn Tokyo a'r academi filwrol yn Baoding, ymunodd â lluoedd y Blaid Genedlaetholgar, dan arweiniad Sun Yat-sen. Fe'i penodwyd yn gadlywydd ar y fyddin chwyldroadol yn y 1920au, ac arweiniodd Alldaith y Gogledd yn erbyn y penaethiaid rhyfel. Yn 1925 fe olynodd Sun yn bennaeth ar y Blaid Genedlaetholgar. Ym 1927 cychwynnodd ar ymgyrch i gael gwared â chomiwnyddion o'r Blaid, a sefydlodd llywodraeth Genedlaetholgar yn Nanjing.
Yn y 1930au, bu Chiang a Wang Jingwei yn cystadlu dros reolaeth y llywodraeth Genedlaetholgar. Wynebodd fygythiad y Comiwnyddion, dan arweiniad Mao Zedong, yng nghefn gwlad Tsieina, a phenderfynodd Chiang ganolbwyntio ar y frwydr honno yn hytrach na pharatoi yn erbyn ehangiaeth Ymerodraeth Japan ym Manshwria. Yn sgil goresgyniad Tsieina gan Japan ym 1937, cytunwyd ar gadoediad rhwng y Cenedlaetholwyr a'r Comiwnyddion, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd arweiniodd Chiang y frwydr Tsieineaidd—gyda chefnogaeth Unol Daleithiau America—yn erbyn y Japaneaid.
Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd, ail-gychwynnodd y rhyfel cartref ym 1945. Etholwyd Chiang yn Arlywydd Tsieina ym 1948, ond y flwyddyn wedyn bu'r lluoedd Comiwnyddol yn drech na'r Cenedlaetholwyr ac aeth Chiang a'i lywodraeth yn alltud i ynys Taiwan. Yno, sefydlodd Chiang unbennaeth wrth-gomiwnyddol yn groes i Weriniaeth Pobl Tsieina, ac hawliodd fod y Kuomintang yn llywodraeth gyfreithlon dros Tsieina oll. Cydnabuwyd Gweriniaeth Tsieina—hynny yw, Taiwan—yn swyddogol gan y nifer fwyaf o wledydd nes i'r Cenhedloedd Unedig gydnabod Gweriniaeth Pobl Tsieina ym 1972. Yn ystod ei 26 mlynedd yn unben ar Daiwan, trodd Chiang yr ynys yn wlad ddatblygedig gydag economi gryf a chysylltiadau milwrol agos â'r Unol Daleithiau. Bu farw Chiang Kai-shek yn Taipei yn 87 oed, a fe'i olynwyd yn Arlywydd Taiwan gan ei fab Chiang Ching-kuo.
Bywyd cynnar (1887–1916)
golyguGaned Chiang Kai-shek ar 31 Hydref 1887 yn Xikou, yn nhalaith Zhejiang, yn Ymerodraeth y Qing Fawr—sef yr enw ar Tsieina dan frenhinllin y Qing—yn fab i fasnachwr halen o'r enw Jiang Suan a'i drydedd wraig Wang Caiyu.[1] Perchenogion tir digon cefnog oedd y teulu Chiang, ac un o brif deuluoedd Xikou a'r cylch, er nad oeddynt yn rhan o'r bonedd gwledig.[2] Ym 1889, symudodd y teulu i dŷ masnach deulawr yn Stryd Wu Ling, Xikou.[1]
Derbyniodd Chiang Kai-shek addysg Tsieineaidd draddodiadol, ar sail Conffiwsiaeth, dan arweiniad tiwtoriaid a oedd wedi ennill gradd y shengyuan, sef yr isaf o arholiadau'r gwasanaeth sifil ymerodrol. Honnir i Chiang ddarllen y pedwar prif lyfr yn y traddodiad Conffiwsaidd—Daxue gan Zengzi, Zhongyong gan Zisi, Lun Yu gan Conffiwsiws a'i ddisgyblion, a Mengzi gan Mengzi—erbyn 9 oed.[3] Yn 14 oed, priododd Kai-shek, yn ôl dymuniad ei fam, â Mao Fumei—merch 19 oed o bentref Yandou—rhywbryd yn nhymor y gaeaf 1901–02. Symudodd Fumei i fyw gyda'r teulu Chiang yn eu tŷ masnach, ond ni chawsant yr un plentyn am wyth mlynedd arall, felly tybir iddynt beidio â chyflawni'r briodas am amser hir.[3]
Ym 1903, safodd—a methodd—Chiang yr arholiad newydd am y gwasanaeth sifil. Ni wnaeth hynny rwystro gobeithion ei fam, a aeth ati i gofrestru ei mab ag ysgol Gonffiwsaidd o'r enw Academi Mynydd y Ffenics yn Fenghua, ar gyrion dinas Ningbo. Yno, aeth i'r afael â chwricwlwm newydd, gan gynnwys gwersi Saesneg a mathemateg yn ogystal â'r ddysgeidiaeth Gonffiwsaidd glasurol.[3] Yn Chwefror 1903, trosglwyddodd Chiang i Academi'r Saeth Euraid yn Ningbo, a thua'r cyfnod hwn fe benderfynodd gychwyn ar yrfa filwrol. Yn Chwefror 1906, dychwelodd i Fenghua wrth drosglwyddo i Academi Afon y Ddraig, wedi ei ddenu gan yr athro Gu Qinglian a oedd yn annog ei fyfyrwyr i astudio'r cadfridogion ysgolheigaidd Wang Yangming a Zeng Guofan.[4] Ychydig fisoedd wedyn, yn 18 oed, datganodd Chiang ei fod am deithio i Japan i dderbyn hyffordiant milwrol yn Tokyo, a thorodd ei blethyn hir o wallt i ffwrdd, gweithred a oedd yn sicr o godi cywilydd ar ei deulu a'i gymdogion.[5]
Fe'i derbyniwyd i'r ysgol baratoi filwrol yn Tokyo, Japan, ym 1906, ac yno cafodd ei gefnogi gan un arall o Zhejiang, Chen Qimei, i gael ei ynydu i'r Tongmenghui, cudd-blaid chwyldroadol Sun Yat-sen a oedd yn gweithredu dros ddymchwel y Qing. Yn sgil dechrau Chwyldro Xinhai yn Hydref 1911, dychwelodd Chiang i Tsieina—yn Shanghai—i frwydro dan arweiniad Chen.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Jay Taylor, The Generalissimo: Chiang Kai-shek and the Struggle for Modern China (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, 2009), t. 11.
- ↑ Taylor, The Generalissimo (2009), tt. 10–11.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Taylor, The Generalissimo (2009), t. 12.
- ↑ Taylor, The Generalissimo (2009), t. 16.
- ↑ Taylor, The Generalissimo (2009), t. 17.