Angiogram coronaidd
Cynhelir angiogram coronaidd, a elwir hefyd yn brawf cathetr, dan anaesthetig lleol fel arfer. Ynghyd â darparu gwybodaeth ynghylch pwysedd gwaed y galon a pha mor dda mae'r calon yn gweithredu, gall angiogram hefyd nodi p'un ai fod y rhydwelïau coronaidd wedi culhau a pha mor ddifrifol maen nhw wedi blocio.
Math | cardiac catheterization |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math | cardiac catheterization |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn angiogram, rhoddir cathetr (tiwb hyblyg) yn y wythïen neu'r rhydweli yng nghesail y forddwyd neu'r fraich a, chan ddefnyddio pelydrau X, caiff ei dywys i mewn i'r rhydwelïau coronaidd. Caiff llifyn ei chwistrellu i'r cathetr i ddangos y rhydwelïau sy'n cyflenwi gwaed i'r galon. Tynnir nifer o luniau pelydr X, a fydd yn amlygu unrhyw flociadau. .[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|accessdate=
(help)