Gwaed
Mae gwaed yn hylif coch sy'n cylchredeg yng ngwythiennau, rhydwelïau a chalon bodau dynol a fertebratau eraill. Mae'n cynnwys yr hylif plasma, a chelloedd sy'n llifo drwyddo: celloedd coch (erythrosytau), platennau (thrombosytau) a chelloedd gwyn (lewcosytau).
Enghraifft o'r canlynol | math o sylwedd biogenig, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | hylifau corfforol, cynnyrch anifeiliaid, sylwedd biogenig, endid anatomegol arbennig |
Lliw/iau | coch, di-liw, gwyrdd |
Rhan o | system gylchredol |
Yn cynnwys | plasma gwaed, cell goch y gwaed, cell gwaed gwyn, platennau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyma'r brif system drafnidiaeth o fewn y corff, sy'n darparu ocsigen i holl organau a chelloedd y corff. Swydd y celloedd coch yw cludo ocsigen o amgylch y corff i roi egni i'r cyhyrau. Celloedd coch yw'r unig gelloedd yn y corff sydd ddim yn cynnwys cnewyllyn. Swydd y celloedd gwyn yw ymladd heintiau a saldra sy'n ceisio ymosod ar y corff. Mae plasma yn gyfrifol am gludo carbon deuocsid.
Mae nifer o dermau meddygol yn dechrau gyda hemo- neu hemato- yn dod o'r gair hen Roeg am waed - αἷμα (haima).
Caiff gwaed ei bwmpio trwy'r corff gan y galon. Mae rhwng pedwar a hanner i bum litr o waed yng nghorff dyn cyffredin.
Lliw
golyguMae lliw gwaed dynol yn dibynnu ar faint o ocsigen sydd ynddo, oherwydd bod hyn yn effeithio ar gyflwr ocsideiddio yr atomau haearn yn yr hemoglobin – ac mae hyn yn dibynnu ar le'r gwaed yn y system gylchredol. Yn y rhydwelïau a'r capilarïau (mân-wythiennau), mae lefelau'r ocsigen yn uchel ac mae'r gwaed yn goch llachar. Yn y gwythiennau, mae'r gwaed yn cynnwys llai o ocsigen, ac mae ei liw yn goch tywyll.