Anhwylder Dadbersonoli a Dadwireddu
Mae Anhwylder Dadbersonoli a Dadwireddu yn digwydd pan fyddwch chi o hyd, neu yn aml, yn teimlo eich bod yn gwylio eich hun o du allan i’ch corff, neu yn teimlo nad yw pethau o’ch cwmpas yn real, neu’r ddau. Gall teimladau dadbersonoli a dadwireddu fod yn drallodus a gall deimlo fel petaech yn byw mewn breuddwyd.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylderau Datgysylltol, amhersonoliaeth |
Symptomau
golyguYn ystod cyfnodau o ddadbersonoli a dadwireddu, rydych chi’n ymwybodol bod eich teimlad o ddatgysylltu yn deimlad yn unig yn hytrach nag yn realiti. Gall profiadau a theimladau’r anhwylder fod yn anodd eu disgrifio. Gall boeni eich bod yn “mynd yn wallgof” eich gwneud yn bryderus a gwneud i chi wirio eich bod yn bodoli, a cheisio penderfynu beth sy’n real. Gall cyfnodau o dadbersonoli-dadwireddu barhau am oriau, dyddiau, wythnosau neu hyd yn oed misoedd. Gyda rhai pobl, gallai’r cyfnodau hyn fod yn barhaus, neu waethygu gydag amser.
Dadbersonoli
golygu- Teimlo eich bod wedi eich gwahanu oddi wrth eich corff
- Teimlo eich bod y tu allan i’ch corff yn edrych ar eich meddyliau, teimladau, a’ch corff – er enghraifft, fel petaech yn hofran yn yr awyr uwch eich pen
- Teimlo fel petai eich corff wedi ehangu fel ei fod yn teimlo’n fwy nag arfer, neu wedi crebachu’n fach iawn
- Teimlo fel robot neu fel nad ydych yn rheoli eich lleferydd neu symudiadau
- Dideimlad emosiynol neu gorfforol i’ch synhwyrau neu eich ymateb i’r byd o’ch cwmpas
- Teimlad nad oes emosiwn yn eich atgofion, ac efallai nad eich atgofion chi ydyn nhw
Dadwireddu
golygu- Teimlo nad ydych chi a/neu eich amgylchedd yn real
- Teimlo eich bod yn profi eich amgylchedd drwy olau tryledol, niwl neu darth
- Teimlo ar wahân o’ch amgylchiadau neu fod eich amgylchiadau yn ymddangos yn ddieithr – er enghraifft, fel petaech yn byw mewn ffilm neu freuddwyd
- Teimlo wedi eich datgysylltu yn emosiynol o bobl rydych chi’n poeni amdanynt, fel petaech chi wedi eich gwahanu gan wal o wydr
- Bod eich amgylchiadau yn ymddangos yn aneglur, yn ddi-liw, fel dau ddimensiwn neu yn artiffisial
- Ystumiad yn eich canfyddiad o amser, er enghraifft bod digwyddiadau diweddar yn teimlo yn bell yn y gorffennol[1][2][3]
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Anhwylderau Datgysylltol ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith. Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall |
- ↑ "Depersonalization-derealization disorder - Symptoms and causes". Mayo Clinic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-04.
- ↑ "Anhwylder Dadbersonoli a Dadwireddu". meddwl.org. 2021-05-16. Cyrchwyd 2022-05-04.
- ↑ https://meddwl.org/cynnwys/uploads/2021/05/wwamh-anhwylderau-gorbryder.pdf