Ani Glass
Cantores Gymreig o dras Cernywaidd yw Anna Eiluned Saunders (ganwyd 20 Hydref 1984 yng Nghaerdydd)[angen ffynhonnell] sy'n fwy adnabyddus am ei enw llwyfan Ani Glass. Mae hi hefyd yn arlunydd a ffotograffydd.
Ani Glass | |
---|---|
Ganwyd | 1984 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Bywgraffiad
golyguEi chwaer yw'r gantores Cernywaidd-Gymreig arall, Gwenno. Ei thad yw Tim Saunders, y bardd ac ieithydd Cernyweg. Ganwyd Saunders yng Nghaerdydd.
Gyrfa gerddorol
golyguGyrfa gynnar (2004–2011)
golyguCyn ymuno â'i chwaer yn y Pipettes yn 2008, roedd hi'n aelod o'r grŵp ‘Genie Queen’, a reolwyd gan Andy McCluskey o'r grŵp Orchestral Manoeuvres in the Dark. Fel aelod o'r Pipettes, hi ysgrifennodd a recordiodd ail albwm y grŵp, Earth vs The Pipettes yn 2010.
Wedi'r Pipettes (2011–yn awr)
golyguAr ôl i'r Pipettes chwalu yn 2011 daeth yn ôl i Gaerdydd i ddechrau gweithio fel cerddor unigol. Ar ôl cyhoeddi tair cân fel lawrlwythiad digidol yn ystod 2015-6, (dewiswyd un fel cân y wythnos ar Radio Cymru) daeth ei EP cyntaf, Ffrwydrad Tawel yn 2017. Ei halbwm cyntaf a ddilynodd yn 2020, sef Mirores (Observer), gyda chaneuon yn y Gernyweg, Saesneg a Chymraeg. Enillodd wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020 yn ogystal â chyrraedd rhestr fer Gwobr Cerdd Cymraeg 2020.
Dylanwad diwylliannol
golyguUrddwyd hi fel bardd Gorsedh Kernow yn 2013 gyda'r enw barddol 'Mirores'.
Disgyddiaeth
golyguGan The Pipettes
golyguBlwyddyn | Albwm | Yn y Siart |
---|---|---|
DU | ||
2010 | Earth vs. The Pipettes | – |
Cyhoeddiadau albwm fel cantores unigol
golyguBlwyddyn | Enw | Label | Ffurf | Iaith |
---|---|---|---|---|
2020 | Mirores[1] | Recordiau Neb | Lawrlwythiad digidol, crynoddisg, feinyl | Cymraeg, Cernyweg, Saesneg |
Cyhoeddidau EP Unigol
golyguBlwyddyn | Enw | Label | Ffurf | Iaith |
---|---|---|---|---|
2015 | "Ffôl" / "Little Things" | Recordiau Neb | Lawrlwythiad digidol | Cymraeg, Saesneg |
2016 | Y Ddawns | Recordiau Neb | Lawrlwythiad digidol | Cymraeg |
2017 | Ffrwydrad Tawel | Recordiau Neb | Lawrlwythiad digidol | Cymraeg |
2018 | Peirianwaith Perffaith | Recordiau Neb | Lawrlwythiad digidol | Cymraeg |
2020 | Ynys Araul | Recordiau Neb | Lawrlwythiad digidol | Cymraeg |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gareth Kent (10 Mawrth 2020). "Album: Mirores by Ani Glass". Wales Arts Review (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Tachwedd 2020.