Tim Saunders

bardd Cernyweg

Bardd yn yr iaith Gernyweg yw Tim Saunders, sy'n cyfansoddi cerddi ac yn ysgrifennu erthyglau newyddiadurol yn Gymraeg, Gwyddeleg a Llydaweg hefyd. O dras Gernywaidd, mae o'n byw yng Nghaerdydd. Mae'n cefnogi hunanlywodraeth i Gernyw.

Tim Saunders
Ganwyd7 Chwefror 1952 Edit this on Wikidata
Northumberland Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, bardd Edit this on Wikidata
PlantGwenno Saunders, Ani Glass Edit this on Wikidata

Mae'n aelod o Orsedd Cernyw, yn hanesydd llên ac yn olygydd The Wheel – blodeugerdd o gerddi Cernyweg diweddar, o 1850–1980.[1] Mae wedi cyhoeddi High tide, casgliad o'i gerddi Cernyweg ei hun o'r cyfnod 1974-1999.

Roedd merched Tim: Ani a Gwenno Saunders, yn gantorion yn y band "indie" The Pipettes, gyda Gwenno yn chwarae'r allweddau hefyd. Mae Gwenno bellach yn canu ar ei liwt ei hun ac wedi teithio'r byd yn perfformio.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Tim Saunders". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-08. Cyrchwyd 2008-12-17.

Dolenni allanol

golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.