Anna Blos
Awdures o'r Almaen oedd Anna Blos (4 Awst 1866 - 27 Ebrill 1933) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd ac ymgyrchydd dros hawliau menywod.[1][2]
Anna Blos | |
---|---|
Ganwyd | 4 Awst 1866 Legnica |
Bu farw | 27 Ebrill 1933 Stuttgart |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor |
Swydd | member of the German Reichstag |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen |
Ganed Anna Berta Antonia Blos yn Legnica yn ne-orllewin Gwlad Pwyl a bu farw yn Stuttgart. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Humboldt, Berlin.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd a Democrataidd yr Almaen.
Ar ôl mynychu Ysgol i ferched, gyda seminarau gan yr athro Prinzeß-Wilhelm-Stift yn Karlsruhe, astudiodd Blos, a oedd yn gredwr Protestannaidd, hanes, llenyddiaeth ac ieithoedd ym Mhrifysgol Humboldt yn Berlin. Yna gweithiodd fel uwch-ddalithydd yn y brifysgol. Roedd Anna Blos yn aelod o fwrdd ysgol Stuttgart ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd y fenyw gyntaf yn yr Almaen i swydd cynghorydd ysgol lleol.[3]
Fel ymgyrchydd dros hawliau menywod a chefnogwr brwd rhoi'r bleidlais i fenywod (etholfrain), daeth Anna Blos yn arweinydd yng Nghymdeithas Pleidleisio Menywod Württemberg. Sefydlodd Gymdeithas Gwragedd Stuttgart yn Stuttgart a hi oedd ei chadeirydd cyntaf. Mae hi hefyd wedi gweithio mewn amryw o sefydliadau di-elw.
Cyhoeddiadau
golygu- Philipp Buonarroti: Babeuf und die Verschwörung für die Gleichheit, mit dem durch sie veranlassten Prozeß und den Belegstucken.
- Ein vergessener Frauenanwalt. Die neue Zeit Wochenschrift der deutschen Sozialdemokratie. 29.1910-1911, 2. Band (1911), Heft 43, S. 751–756. Digitalisat
- Krieg und Schule. Korrespondenz“, Berlin-Karlshorst 1915. MDZ Reader
- Kommunale Frauenarbeit im Kriege. Verlag für Sozialwissenschaften, Berlin 1917.
- Frauen des Jahres 1848, in: Illustrierte Reichsbanner-Zeitung, 12 (1927).
- Wilhelm Blos. In: Jahrbuch des Historischen Vereins Alt- Wertheim. Wertheim 1927, S. S. 41–45.
- Frauen der 1848er Revolution in Deutschland. Zehn Lebensbilder und ein Vorwort. Kaden & Comp., Dresden 1928.
- Frauen in Schwaben. Fünfzehn Lebensbilder. Silberburg, Stuttgart 1929.
- Die Frauenfrage im Lichte des Sozialismus, Kaden, Dresden 1930.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: "Anna Blos". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Anna Blos". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwL