Anna Kamieńska
Bardd, awdur, golygydd ac actifydd o Wlad Pwyl oedd Anna Kamieńska (12 Ebrill 1920 – 10 Mai 1986). Roedd hi'n ffigwr dylanwadol drwy'r cyfnod comiwnyddol yng Ngwlad Pwyl.
Anna Kamieńska | |
---|---|
Ganwyd | 12 Ebrill 1920 Krasnystaw |
Bu farw | 10 Mai 1986 Warsaw |
Man preswyl | 13 Joteyki Street in Warsaw |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl |
Galwedigaeth | cyfieithydd, bardd, awdur plant, llenor |
Mam | Maria Szypiłło |
Priod | Jan Śpiewak |
Plant | Paweł Śpiewak |
Perthnasau | Romana Cękalska |
Gwobr/au | Marchog Urdd Polonia Restituta, Croes Aur am Deilyngdod |
Bywyd
golyguCafodd Anna Kamieńska ei geni ar 12 Ebrill 1920 yn Krasnystaw, Gwlad Pwyl. Ei rhieni oedd Tadeusz Kamienski a Maria z Cękalskich. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn ninas Lublin. Arhosai'n aml gyda'i thaid a'i nain yn nhref Świdnik gerllaw.
Bu farw'i thad yn gynnar, felly syrthiodd y baich o ofalu am y bedair merch ar ei mam. Cyfansoddodd Anna ei cherdd gyntaf yn 1936 pan oedd tua 14 oed, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn "Płomyczek" o dan nawdd Joseph Czechowicz. O 1937 ymlaen astudiodd yn Athrofa Warsaw. Yn ystod y goresgyniad Natsïaid, roedd hi'n byw yn Lublin, ac yn dysgu mewn ysgolion pentref tanddaearol. Ar ôl graddio yng Ngholeg Lublin, astudiodd ieitheg glasurol - i ddechrau ym Mhrifysgol Gatholig Lublin ac yna ym Mhrifysgol Lodz.
Roedd Kamienska'n gysylltiedig â'r cylchgrawn diwylliannol, wythnosol "Wlad", lle roedd hi'n un o'i olygyddion o 1946 -1953, a'r cylchgrawn wythnosol "Diwylliant Newydd" (golygydd barddoniaeth, 1950-1963). Yng nghanol y pumdegau, dechreuodd ysgrifennu caneuon ar gyfer pobl ifanc. Priododd y bardd a chyfieithydd Jan Śpiewak ym 1948. Cafon nhw ddau fab: Jan Leon (1949-1988 - newyddiadurwr, gwleidydd, awdur ac actifydd cymdeithasol) a Pawel (a aned yn 1951, athro cymdeithaseg ym Mhrifysgol Warsaw, ac aelod o'r Sejm (cynulliad), 2005 -2007)). Gweithiodd Anna a Jan gyda'i gilydd ar gyfieithiadau o farddoniaeth Rwseg a dramau, a golygon nhw nifer o lyfrau.
Yn Rhagfyr 1967 bu farw ei gŵr. Trodd Kamieńska at ei ffydd Gristnogol, a oedd yn ddylanwad mawr ar ei gweithiau diweddarach. Bu farw yn Warsaw, 10 Mai 1986.
Gwaith
golyguYsgrifennodd bymtheg cyfrol o farddoniaeth; dwy gyfrol o "Lyfrau nodiadau" - ei gwaith mwyaf enwog tramor, sy'n gofnod o'i darlleniadau a hunan-gwestiynu; tair cyfrol o esboniadau ar y Beibl; a chyfieithiadau o'r ieithoedd Slafeg ag o Hebraeg, Lladin a Ffrangeg.
Mae ei cherddi yn cofnodi ymdrechion i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ansicrwydd mewn dull uniongyrchol, di-sentiment. Mae'i barddoniaeth yn dal i fynegi hiwmor tawel ac ymdeimlad treiddiol o ddiolchgarwch am fodolaeth ddyn ac ar gyfer llu o greaduriaid fel draenogod, adar, ac ati.
Barddoniaeth
golygu- Wychowanie (KiW 1949)
- O szczęściu (Czytelnik 1952)
- Bicie serca (Czytelnik 1954)
- Pod chmurami (Czytelnik 1957)
- Poezje wybrane (Czytelnik 1959)
- W oku ptaka (PIW 1960)
- Źródła (PIW 1962)
- Rzeczy nietrwałe (Czytelnik 1963)
- Odwołanie mitu (PIW 1967)
- Biały rękopis (Czytelnik 1970)
- Wygnanie (PIW 1970)
- Poezje wybrane (LSW 1971)
- Herody (LSW 1972)
- Poezje wybrane (Czytelnik 1973)
- Drugie szczęście Hioba (PIW 1974)
- Milczenia (WL 1979)
- Rękopis znaleziony we śnie • Wiersze z lat 1973-1975 (Czytelnik 1978)
- Wiersze jednej nocy (LSW 1981)
- Anna Kamieńska • Wybór wierszy (Czytelnik 1982)
- Raptularz wojenny (b.w. 1982)
- Pierwszy śnieg • Świadkowie (Correspondance des Art 1983)
- W pół słowa • Wiersze z lat 1970-1980 (Czytelnik 1983
- Dwie ciemności • Wybór poezji (W drodze 1984)
- Przyjdź Królestwo (b.w. 1984)
- Nowe imię (Epideixis 1987)
- Milczenia i psalmy najmniejsze (WL 1988)
- Nie tylko o Sandomierzu (Oficyna Jędrzejowska 1990)
- Pisz o kamieniu (PAX 1995)
- Inne miejsca (W drodze 1996)
- Jasność w środku nocy (PIW 2001)
- Wiersze przemilczane (Wydawnictwo KUL 2008)
Cyfeiriadau
golygu• "Astonishments: Selected Poems of Anna Kamieńska", cyfieithu gan Grażyna Drabik a David Curzon, Gwasg Paraclete, 2007. • "Modern Poetry in Translation". Erthygl ar Anna Kamieńska. Cyfres 3, Haf 1993. t7-t43.