Awdures ac academydd Llydaweg yw Annaig Renault, a anwyd yn Neuilly-sur-Seine (Hauts-de-Seine) ger Paris ym 1946. Bu'n byw ym Mharis tan 1967 cyn symud i Lydaw a pherfformio gyda'r grwp Telennoù Bleimor. Aeth ymlaen i redeg ganolfan ddiwylliannol yn La Briantais, ger Sant-Maloù, ac i fod yn gyfrifol am Skol-Uhel ar Vro, corff diwylliannol mawr yn Llydaw. Mae hi wedi cyfrannu nifer o erthyglau i'r cylchgrawn llenyddol Llydaweg Skrid ac eraill. Hi oedd y wraig gyntaf i ysgrifennu nofel llawn yn y Llydaweg. Cwblhaodd ei PhD dan y llenor Yann-Bêr Pirioù ar destun Gwaith Maodez Glanndour.

Annaig Renault
GanwydAnnick Marie Renée Renault Edit this on Wikidata
4 Awst 1946 Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ionawr 2012 Edit this on Wikidata
Roazhon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol 2 Rennes, Llydaw Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Yann-Ber Piriou Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr, telynor, canwr, awdur storiau byrion, bardd, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata

Gwaith golygu

Cyfieithiadau i'r Gymraeg golygu

Cyfeiriadau golygu

Cyfweliad teledu 9m yn Ffrangeg efo Annaig yn adroddAr Men Du gan Per-Jakez Helias a chanu An Hini a Garan https://www.youtube.com/watch?time_continue=167&v=TGb9OovxPHQ

Obituary saesneg ac erthyglau eraill https://abp.bzh/death-of-annaig-renault-a-writer-in-breton-language-24516