Llenyddiaeth Cymru

cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth
(Ailgyfeiriad o Academi Gymreig)

Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru yw Llenyddiaeth Cymru (Saesneg: Literature Wales) ac ariannir hi yn bennaf o ffynonellau cyhoeddus. Mae'n cyflawni hyn drwy gynnal, ymhlith pethau eraill, cyrsiau, cynadleddau, darlleniadau, cystadleuthau a gweinyddu anrhydeddau (megis Llyfr y Flwyddyn). Nhw sydd hefyd yn gyfrifol am Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd. Y Prif Weithredwr ers Tachwedd 2011 yw Lleucu Siencyn[1]

Llenyddiaeth Cymru
Sefydlwyd2011
Refeniw1,053,495 punt sterling (2011)
Nifer a gyflogir
18 (2011)
Gwefanhttps://www.llenyddiaethcymru.org/ Edit this on Wikidata
Am erthygl ar lenyddiaeth Gymraeg gweler: Llenyddiaeth Gymraeg; am lenyddiaeth Saesneg Cymru gweler yma.

Hanes golygu

 
Logo diweddaraf Yr Academi Gymreig
 
Hen logo'r Academi

Sefydlwyd yr Academi Gymreig, neu'r Academi fel y'i galwyd yn gyffredinol, ym 1959 gan Bobi Jones a Waldo Williams. Dewiswyd yr ansoddair Cymreig yn hytrach na Chymraeg er sicrhau y byddai awduron Cymreig a oedd yn ysgrifennu drwy gyfrwng y Saesneg yn gallu bod yn aelodau. Ym 1968, crëwyd adran benodol i'r Saesneg gan Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd, sef Meic Stephens, ar y cyd gydag aelodau o’r Guild of Welsh Writers.

Yr Academi a gyhoeddodd Gwyddoniadur Cymru yn 2008, ac fe'i cyhoeddir yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda chefnogaeth ariannol y Loteri. Roeddent eisoes wedi cyhoeddi Geiriadur yr Academi ym 1995.

Ymunodd yr Academi â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i greu sefydliad cenedlaethol newydd a elwir Llenyddiaeth Cymru yn 2011.[2]

Gwobr Llyfr y Flwyddyn golygu

Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, i’r llyfrau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym maesydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol. Mae'r gwobrwyon yn cael eu rhoi i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr. Yn 2012, fe wobrwyir cyfrolau Cymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod 2011 o fewn tri categori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Teitl y wobr farddoniaeth Saesneg, yw Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias.

Gweithgareddau golygu

Mae eu gweithgareddau'n cynnwys;

Cyhoeddiadau golygu

Roedd yr Academi Gymreig yn cyhoeddi’r cylchgrawn llenyddol Taliesin (cylchgrawn) yn ogystal â gweithiau llenyddol gwreiddiol. Defnyddiodd yr Academi Wasg Prifysgol Cymru i gyhoeddi’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a Geiriadur yr Academi. Trwy gyfrwng Gwasg Prifysgol Rhydychen cyhoeddwyd The Oxford Companion to the Literature of Wales. Mae fersiwn diwygiedig o’r gwaith pwysig hwn ar gael bellach gan Wasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg yn 1997 a'r fersiwn newydd Saesneg yn 1998.[3]

Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig sy'n cael ei ariannu gan ffynonellau cyhoeddus (y rhan fwyaf gan Gyngor y Celfyddydau, awdurdodau lleol a nifer o ymddiriedolaethau), gan danysgrifiadau aelodau ac i raddau llai, o fasnach a gweithgarwch llenyddol. Ym mis Hydref 2022, symudwyd pencadlys Llenyddiaeth Cymru i Dŷ Newydd yn Llanystumdwy. Mae ganddi swyddfa hefyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.

Yn 2011, cymrodd Lleucu Siencyn le'r bardd a’r awdur Peter Finch fel prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

Yn 2022, cymrodd Leusa Llewelyn a Claire Furlong le Lleucu Siencyn fel prif weithredwyr.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu