Rhisiart Hincks
Bu Rhisiart Hincks yn athro Llydaweg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Brodor o Gaerlŷr, Lloegr, yw Hincks. Dysgodd Gymraeg drwy ddilyn y llyfr Teach Yourself Welsh gan J. T. Bowen a T. J. Rhys Jones, a thrwy wrando ar gyrsiau radio’r BBC (Welsh for Beginners a Cam Ymlaen).
Bywyd
golyguRhoddodd ei gyfnod fel myfyriwr yn neuaddau Cymraeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gyfle iddo ymdrochi yn yr iaith. Y pryd hynny, arferid aros mewn neuadd Gymraeg am gyfnod o dair blynedd. Graddiodd yn Aberystwyth gyda B.A. mewn llenyddiaeth Gymraeg ac yna cwblhaodd M.A. ar fywyd a gwaith E. Prosser Rhys, a Doethuriaeth mewn Hanes Ysgolheictod Llydaweg.
Fe'i penodwyd yn diwtor yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y bu'n darlithio ar hanes y Gymraeg ac yn dysgu Llydaweg Modern drwy gyfrwng y Gymraeg, hyd nes iddo ymddeol yn 2014. Yn 2007 fe’i hanrhydeddwyd ag Urzh an Ermin (Urdd y Carlwm) gan Skol-Uhel ar Vro / Institut Culturel de Bretagne. Bu'n cyfrannu i’r cylchgrawn Llydaweg Al Lanv (Kemper)'am nifer o flynyddoedd. Deil yn weithgar gyda Chymdeithas Cymru-Llydaw. Wedi ymddeol, mae wedi ymroi i ddysgu Gwyddeleg.
Bu bob amser yn cefnogi annibyniaeth i bob un o'r gwledydd Celtaidd ac yn llwyr wrthwynebu grymoedd yr asgell dde mewn gwleidyddiaeth. Teimla hefyd yn gryf yn erbyn y diwydiant niwclear, gan gynnwys ynni niwclear.
Gwaith
golygu- E.Prosser Rhys 1901-45, Llandysul, 1980
- Geriadur kembraeg-brezhoneg/Geiriadur Cymraeg-Llydaweg, Mouladurioù Hor Yezh, Lesneven, 1991; eil emb. 1997
- Alc'hwez d'ar c'hembraeg/Allwedd i'r Gymraeg, Plufur, 1992
- Geiriau Llydaweg a Fabwysiadwyd gan y Geiriadurwyr Thomas Jones, Iolo Morganwg, William Owen Pughe ac eraill, Aberystwyth, 1993
- I Gadw Mamiaith mor Hen, Llandysul, 1995
- Per Denez, I arall Fyd, troet gant Rhisiart Hinks diwar En tu all d'an douar hag an neñv, Llanrwst, 1997
- Yr Iaith Lenyddol fel Bwch Dihangol yng Nghymru ac yn Llydaw/The Literary Language as a Scapegoat in Wales and in Brittany, Aberystwyth, 2000
- Kentelioù Brezhoneg Diazez/Cwrs Llydaweg Sylfaenol, Aberystwyth, 2001
- Geriadurig Brezhoneg-Kembraeg, Yoran Embanner
- Bezañ beleg a zo kargus / Koulz ’vel bezañ relijiuz (Roazhon, 2007)
- Pawb yn ei Baradwys ei hun / Y Dref a’r Ddinas mewn Barddoniaeth Lydaweg (Roazhon, 2007)
- 'Heb Fenthyca Cymaint a sill ar Neb o Ieithoedd y Byd' Cymysgiaith a Phuryddiaeth... (Aberystwyth, 2007).
- Erthyglau a chyfieithiadau niferus yn Al Lanv ac yn Breizh-Llydaw, a chyfieithiadau o'r Llydaweg ac o'r Fasgeg yn Taliesin * Ar Gelaouennerez cyfieithiad o nofel Wyddeleg, An tIriseoir, gan Michelle Nic Pháidin (An Alarc'h Embannadurioù, 2020) * Cyfres o wersi i ddysgu Llydaweg, drwy gyfrwng y Gymraeg: https://youtube.com/playlist?list=PLWqSyLwXlxuwwAkdqKy2kN6GBofMSEM-o * Cyfres o wersi i ddysgu Cymraeg, drwy gyfrwng yr Wyddeleg: https://youtube.com/playlist?list=PLWqSyLwXlxuyllYkpMWBrx8f9nLe9b9e1
Lluniau
golygu- Mae ganddo gasgliad o luniau ar Flickr [1]