Anne Griffith-Jones

Addysgwyr o Gymru oedd Anne Laugharne Phillips Griffith-Jones OBE (15 Ebrill 18901973) a sefydlodd Ysgol Darparol Tanglin Singapôr, sydd erbyn hyn yn cael ei adnabod fel Ysgol Ymddiriedolaeth Tanglin.

Anne Griffith-Jones
Ganwyd15 Ebrill 1890 Edit this on Wikidata
Sir Benfro Edit this on Wikidata
Bu farw1973 Edit this on Wikidata
Ipoh Edit this on Wikidata
Man preswylBrinchang Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetheducation activist Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Blynyddoedd cynnar

golygu

Ganwyd Griffith-Jones yn Sir Benfro, Cymru, hi oedd yr ieuangaf o 13 o blant ac roedd yn ferch i bargyfreithiwr Cymraeg. Roedd hi, yn o gystal a nifer o fenywod ei chyfnod, heb unrhyw gymwysterau swyddogol. Yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf, gwasanaethodd fel swyddog lles mewn ffatri arfau rhyfel yng Nghymru, derbyniodd dyfarniad Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) am ei gwaith.

Ym 1923, aeth Griffith-Jones i Singapôr i treulio tair mis o wyliau gyda'i brawd, Oswald Phillips ("O.P.") Griffith-Jones. Ar ôl ei gwyliau, penderfynodd aros yn Singapôr er mwyn ymroi ei bywyd i addysgu plant alltud, gan sefydlu Ysgol Darparol Tanglin (a ddaeth yn Ysgol Ymddiriedolaeth Tanglin nes ymlaen).

 
Portread Teulu c. 1912. Miss Griffith-Jones gyda'i rhieni a'i chwaer hyn Nettie. Mae "Miss Griff" yn sefyll yr ail o'r chwith. Ffotograff: Ysgol Ymddiriedolaeth Tanglin.

Pan agorwyd yr ysgol am y tro cyntaf ym mis Mawrth 1925, roedd yn gweithredu allan o ddau caban tu fel i gyffiniau Clwb Tanglin. Cychwynnodd gyda pum disgybl ond fe dyfodd yn gyflym ac ym mhen dim roedd yna 50. Gwasanaethodd yr ysgol anghenion plant hyd at 8 blwydd oedd.

Ar y pryd, roedd nifer o alltudwyr Prydeinig yn byw yn Singapor yn gorfod anfon eu plant nôl i Brydain er mwyn iddynt fynychu ysgolion preswyl o oedran ifanc. Golygwyd hyn y byddent wedi gwahanu wrth eu plant am gyfnodau hir.

Gwelodd Griffith-Jones yr angen i ddarparu addysg Prydeinig yn Singapôr fel bod y rhieni yn gallu gohirio anfon eu plant i ysgolion preswyl tan iddynt fod ychydig yn hyn.[1]

A BETTER CHOICE
She (Griffith-Jones) was largely responsible for European children being able to remain with their parents in Malaya several years longer than was possible in pre-war days.
Straits Budget, 9 Mawrth 1939[2]

Ym 1934,[3] agorwyd ail ysgol, Ysgol Breswyl Tanglin yn ucheldiroedd Cameron (sydd yn rhan o Orllewin Malaysia erbyn hyn). Bwriad yr ail ysgol oedd i wasanaethu fel dewis arall i deuluoedd alltudiol oedd yn byw yn yr ardal cyfagosa byddai fel arall yn gorfod anfon eu plant i ysgolion preswyl ym Mhrydain Fawr

Roedd nifer o'r plant a fynychwyd yr ysgol yn Singapôr wedi mynd ymlaen at yr ysgol breswyl yn ucheldiroedd Cameron, oedd yn gwasanaethu anghenion plant hyd at 13 blwydd oed.

Yn y ddwy ysgol, roedd pwyslais mawr ar yr Ymerodraeth Brydeinig. Roedd bechgyn yn bwriadu mynd i ysgolion yn dysgu chwarae pêl-droed; byddai Griffith-Jones yn cymryd y llinell flaen ar hyd y cae yn dangos iddynt sut oedd basio'r bêl. Yn ogystal i hyn, dangosodd hi iddynt sut oedd chwarae criced, esboniodd hi'r "bastwn syth" a'r gwaith troed ar y crych.

Yr Ail Ryfel Byd

golygu
 
Ysgol Breswyl Tanglin, Ucheldiroedd Cameron: Griffith-Jones (rhes gefn, pumed o'r chwith) gyda'i staff a disgyblion tu allan i brif adeilad yr ysgol. Ffotograff: Ysgol Ymddiriedolaeth Tanglin

Parhaodd y ddwy ysgol i dyfu hyd at doriad Yr Ail Ryfel Byd (1942–1945). Gorfododd meddiannaeth Siapan ar Benrhin Malay i'r ddwy ysgol i gau.

Yn ystod y rhyfel, roedd Griffith-Jones wedi ei chaethiwo gan y Siapanewyr yng Ngharchar Changi, Singapôr, a Gwersyll Heol Sime. Drwy gydol ei chaethiwed, dangosodd hi yr un priodweddau o gadw trefn a arweinyddiaeth a oedd yn rhan o'i bywyd dydd i ddydd. Yn ystod ei chaethiwed, codwyd hi i herio'r sefyllfa ac aeth ati i sefydlu ysgol ar gyfer y carcharorion eraill.

Ar ôl y rhyfel, ail-agorwyd y ddwy ysgol, ond methodd yr un yn ucheldiroedd Cameron llewyrchu. Ym 1948, bu rhaid iddo gau o ganlyniad i gychwyniad Poliomyelitis.[4] Digwyddodd caead arall yn ystod Argyfwng Malay (1948-1960). Gosodwyd yr ysgol o dan amddiffyniad arfog llawn amser ar ôl i Fyddin Rhyddhad Cenedlaethol Malay amgylchu'r ysgol. Ym 1950, gorfodwyd ei gau gan y Llywodraeth Ffederal am resymau diogelwch. Ar ôl hynny, gwerthwyd y safle i Swyddfa Rhyfel Prydain.[5]

 
"Miss Griff" mewn gwisg marchogaeth yn ucheldiroedd Cameron. (c. 1950s).

Ym 1958, ymddeolodd Griffith-Jones i ucheldiroedd Cameron a'r Uniad Prydeinig Ewropeaidd, yr Uniad Prydeinig o Singapor erbyn hyn, a cymerodd drosodd y cwmni breifat, 'Tanglin School Limited'.

 
Miss Griffith-Jones (canol) yn derbyn ei anrhegion ymddeolaeth wrth Dr Charles Wilson a Laurette Shearman, dau o ddisgyblion cyntaf Ysgol Ymddiriedolaeth Tanglin, 1957. Ffotograff: Tanglin Trust School.

Tra'n ymgartrefi ar y cyrchfan, daeth Griffith-Jones yn weithredol iawn yn chwaraeon a gwaith cymdeithasol. Am sawl mlynedd, gweithredodd fel Ysgrifennyd Eglwyd Ucheldiroedd Cameron (a elwid yn "All Soul's Church").[6]

Yng nghanol 1958, cynigiodd hi roi safle cyffiniol a'r "Slim School" blaenorol er mwyn adeiladu ysgol Sul. Ond, ar ôl trafodaethau, roedd yn ddiamau ni fyddai Llywodraeth y Genedl yn alltudio dwy o dir i'r Lluoedd Prydeinig sefydlwyd ar yr enciliad. Wedi hynny, trosglwyddwyd y tir i'r Esgobaeth Anglicanaidd gyda'r dealltwriaeth byddai eglwys fechan yn cael ei adeiladu arno. 

Cychwynnodd adeiladu'r eglwys ym 1958. Roedd sefydliad y caban Nissen[7] wedi ei gwbwlhau ym mis Medi y flwyddyn honno. Roedd yr enw 'All Soul's Church' wedi ei roi yng nghysegriad yr eglwys ar ddydd Iau, Ebrill 30ain o 1959.[8] Arweiniwyd y gwasanaethau gan y Gwir Barchedig H. W. Baines, Esgob Singapôr a Malaya.

Dyfarniadau

golygu

Derbyniwyd Griffith-Jones tair dyfarniad drwy gydol ei hoes. Ar wahan i'r Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) a derbyniwyd yn ei hugeiniau, rhoddwyd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) iddi am ei gwasanaethau i addysg. Ym 1962 cyflwynodd Swltan Pahang y dyfarniad Pingat Jasa Kebaktian am ei gwasanaeth teilwng.

Marwolaeth

golygu

Bu farw Griffith-Jones 1973 yn ysbyty gyffredinol Ipoh ar ôl dioddef trawiad difrifol. Fe'i chladdwyd yn Tapah, Perak, wrth droedfryniau ei annwyl ucheldiroedd Cameron.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Miss Griffith-Jones Leaving Tanglin School After 14 Years, Straits Budget, Dydd Iau, 9 Mawrth 1939". t. 21.
  2. "Miss Griffith-Jones Leaving Tanglin School After 14 Years, Straits Budget, Dydd Iau, 9 Mawrth 1939". t. 21.
  3. "Advertisement (Column 2), The Straits Times, 10 Mehefin 1934". t. 11.
  4. "School to Reopen, The Straits Times, 10 Mehefin 1948". t. 1 (Microfilm reel no. NL5228, National Library, Singapore).
  5. "War Office Buys School, The Straits Times, 20 November 1950". t. 8.
  6. "Letter to the editor: "INTER-DENOMINATIONAL CHURCH IN HIGHLANDS", The Straits Times, 20 September 1958". t. 10.
  7. Batumalai, Dr. S. (2007). A Bicentenary History of the Anglican Church of the Diocese of West Malaysia (1805-2005). t. 127.
  8. De Souza, Edward Roy (2010). SOLVED! The "Mysterious" Disappearance of Jim Thompson, the Legendary Thai Silk King (2nd ed). Word Association Publishers. t. 125. ISBN 978-1-59571-505-0. LCCN 2009944204.

Dolenni allanol

golygu