Poliomyelitis
Haint a ledaenir gan firws yw Poliomyelitis, a elwir yn polio fel rheol. Daw'r enw o'r Groeg πολίός, ("llwyd") a µυελός, yn cyfeirio at fadruddyn y cefn.
Math o gyfrwng | clefyd heintus, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | clefyd heintus firol, niwropatheg amgantol, clefyd niwronau motor caffaeledig, clefyd heintus firol y brif system nerfol, clefyd heintus enterofirws, clefyd, pandemic and epidemic-prone diseases |
Symptomau | Parlys, y dwymyn, chwydu |
Achos | Poliovirus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nid yw tua 90% o'r bobl sy'n cael feirws polio yn teimlo unrhyw effaith o gwbl. Os yw'r firws yn cyrraedd y gwaed, gwelir amrywiol effeithiau. Mewn tua 1% o'r achosion mae'r firws yn cyrraedd y system nerfau, ac yna gwelir effeithiau megis parlys, yn aml ar y coesau.
Y cyntaf i adnabod yr afiechyd oedd Jakob Heine yn 1840. Daeth polio yn fwy cyffredin yn yr 20g, hyd nes i Jonas Salk ddarganfod brech ar ei gyfer yn 1952. Erbyn hyn mae bron wedi diflannu o'r gwledydd datblygedig, ond yn parhau'n broblem mewn rhannau o'r trydydd byd.