Anni Llŷn
Cyflwynwraig ac awdures o Gymraes yw Anni Llŷn (ganwyd 1 Ebrill 1988). Hi oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2015 a 2017. [1]
Anni Llŷn | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1988 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, llenor |
Bywgraffiad
golyguMae'n hannu o Sarn Mellteyrn ger Pwllheli, ac aeth i Ysgol Gynradd Pont y Gof ac Ysgol Uwchradd Botwnnog. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd lle graddiodd mewn Cymraeg, cyn dilyn cwrs ôl-radd yn arbenigo mewn ysgrifennu creadigol.
Enillodd wobr Prif Lenor yn Eisteddfod yr Urdd, Eryri 2012 gyda gwaith ar y thema Egin. Mae wedi ysgrifennu nofelau antur i blant yn cynnwys Asiant A, a Nanw a Caradog Crafog Llwyd Lloerig sy'n rhan o Gyfres Lolipop o lyfrau.
Treuliodd bum mlynedd yn cyflwyno rhaglenni plant Stwnsh ar S4C. Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni teledu o Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.
Bywyd personol
golyguMae'n briod a'r cyflwynydd Tudur Phillips ac mae ganddynt un plentyn.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Anni Llŷn yw Bardd Plant Cymru , BBC Cymru Fyw, 26 Mai 2015. Cyrchwyd ar 30 Gorffennaf 2018.
- ↑ Penblwydd hapus iawn heddiw i @trydanni gwestai rhaglen @Dewi_Llwyd - digon o dynnu coes ar Ebrill 1af!.