Sarn Mellteyrn

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan yn Llŷn yw Sarn Mellteyrn("Cymorth – Sain" ynganiad ) (ffurf amgen: Sarn Meyllteyrn), a leolir ar y B4413 rhwng Pwllheli i'r dwyrain ac Aberdaron i'r gorllewin, ar ben gorllewinol penrhyn Llŷn. Y pentrefi cyfagos yw Bryncroes a Botwnnog i'r de a Tudweiliog i'r gogledd.

Sarn Mellteyrn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBotwnnog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.86°N 4.62°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH239324 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Rhed afon Soch drwy'r pentref ar ei ffordd i Abersoch. Mae'r pentref yn gorwedd mewn cwm bychan gyda Mynydd Rhiw i'r de, Mynydd Cefnamlwch i'r gogledd a bryn Carn Fadryn i'r gogledd-ddwyrain.

Mae tafarn y Tŷ Newydd yn y pentref yn llwyfan boblogaidd i gerddoriaeth Gymraeg. Ymysg y bandiau sy'n chwarae yno'n aml mae Cowbois Rhos Botwnnog, sydd â chysylltiad agos â'r ardal. Mae'n debyg mai Tŷ Newydd oedd man geni y label recordiau Sbrigyn Ymborth.

Sarn Mellteyrn tua 1885.
Sarn Mellteyrn

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau golygu