Annie Webb Blanton

Ffeminist Americanaidd oedd Annie Webb Blanton (19 Awst 1870 - 2 Hydref 1945) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Roedd hefyd yn awdur cyfres o werslyfrau gramadeg. Etholwyd Blanton yn Uwcharolygydd Cyfarwyddyd Cyhoeddus Texas (Superintendent of Texas Public Instruction) ym 1918, gan ei gwneud y fenyw gyntaf yn Texas a etholwyd i swydd o fewn y wladwriaeth.[1][2][3][4][5]

Annie Webb Blanton
Ganwyd19 Awst 1870 Edit this on Wikidata
Houston Edit this on Wikidata
Bu farw2 Hydref 1945 Edit this on Wikidata
Austin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Texas, Austin Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Gogledd Tecsas
  • Prifysgol Texas, Austin Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Houston, Texas a bu farw yn Austin yn yr un dalaith; fe'i claddwyd ym Mynwent Oakwood.

Magwraeth golygu

Roedd Blanton yn un o saith o blant a anwyd i Thomas Lindsay Blanton ac Eugenia Webb Blanton. Roedd ganddi efaill, Fannie, a fu farw'n ifanc.[6] Gwasanaethodd ei brawd, Thomas Lindsay Blanton, fel Cyngreswr rhwng 1917 a 1936.

Mynychodd Blanton Brifysgol Texas yn Austin, gan ennill gradd mewn llenyddiaeth Saesneg ym 1899. Yn ddiweddarach mewn bywyd, dilynodd astudiaethau graddedig yn UT, gan ennill gradd meistr ym 1923. Derbyniodd radd PhD o Brifysgol Cornell ym 1927.[7]

Gwaith golygu

Erbyn iddi orffen ei gradd israddedig, roedd Blanton eisoes wedi dysgu am sawl blwyddyn mewn ysgolion gwledig ac ysgolion yn Austin, er mwyn talu am ei hyfforddiant yn y coleg. Fe’i hetholwyd yn llywydd Cymdeithas Athrawon Talaith Texas ym 1916, y fenyw gyntaf i ddal y swydd honno. Roedd Blanton yn athro-prifysgol yn yr Adran Saesneg yng Ngholeg Normal Talaith Gogledd Texas yn Denton rhwng 1901 a 1918.[8] Gwasanaethodd yng Nghyfadran Addysg Prifysgol Texas yn Austin am 22 mlynedd. Hi oedd y drydedd fenyw i ddal statws athro llawn-amser ym Mhrifysgol Texas.[9] Ym 1929,[10] sefydlodd y Delta Kappa Gamma Society International, cymdeithas broffesiynol ar gyfer uwch-addysgwyr benywaidd.[11]

Roedd yn awdur nifer o lyfrau gan gynnwys: Review Outline and Exercises in English Grammar (1903); A Handbook of Information as to Education in Texas (1923);[12] Advanced English Grammar (1928); a The Child of the Texas One-Teacher School (1936).

Personol golygu

Bu Blanton yn byw gyda'i chydweithiwr dysgu, Emma, am sawl blwyddyn. Pan symudodd Blanton i Austin, gadawodd Emma ei swydd er mwyn ei dilyn; teithiodd y ddwy gyda'i gilydd, a chynnal cynulliadau cymdeithasol yn eu cartref.[13] Bu farw Annie Webb Blanton ym 1945, yn 75 oed.

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Texas Writers of Today, by Florence Elberta Barns (1889–1957), Dallas: Tardy Publishing Co. (1935); OCLC 156500
  2. A Dictionary of North American Authors Deceased Before 1950, compiled by W. Stewart Wallace (1884–1970), Toronto: Ryerson Press (1951); OCLC 285718
  3. Who Was Who in America, (Vol. 2, 1943–1950), Chicago: A.N. Marquis Co. (1963); OCLC 68049975
  4. Who Was Who among North American Authors, 1921-1939, (Vol. 1 of 2), Detroit: Gale Research (1976); OCLC 2685994
  5. Biography Index, H.W. Wilson Co.; Nodyn:ISSN
        Vol. 1: Jan. 1946–Jul. 1949 (1949)
        Vol. 11: Medi 1976–Awst 1979 (1980); OCLC 31441150
        Vol. 12: Medi 1976–Awst 1982 (1983)
        Vol. 18: Medi 1976–Awst 1993 (1993); OCLC 59569808
        Vol. 19: Medi 1976–Awst 1994 (1994); OCLC 31703875
        Vol. 20: Medi 1976–Awst 1995 (1995); OCLC 33662886
  6. "Dr. Annie Webb Blanton". dkg.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Medi 2015. Cyrchwyd 12 Medi 2015. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  7. Debbie Mauldin Cottrell, "Annie Webb Blanton" Handbook of Texas Online (Texas State Historical Association 2014).
  8. Biographical Dictionary of American Educators (3 vols.), John F. Ohles (ed.), Westport, Connecticut: Greenwood Press (1978); OCLC 3447005
  9. Margaret C. Berry, "Annie Webb Blanton" Encyclopedia of the Great Plains (University of Nebraska 2011).
  10. "Delta Kappa Gamma National Officers Will Attend Meeting Here this Week" Pampa News (10 Hydref 1940): 1. via Newspapers.com 
  11. Annie Webb Blanton: Founder, the Delta Kappa Gamma Society, by Clara M. Parker, Literary Licensing (1949); OCLC 18390423
  12. Annie Webb Blanton, A Handbook of Information as to Education in Texas (Texas Department of Education 1923).
  13. Jackie Blount, Fit to Teach: Same-Sex Desire, Gender, and School Work in the Twentieth Century (State University of New York Press 2006): 57. ISBN 9780791462683