Ysgythrwr o Fflandrys oedd Anthony Cardon (1 Mai 177216 Ebrill 1813) a wnaeth ei yrfa yn Lloegr a oedd yn nodedig fel darluniwr llyfrau. Cafodd ei eni ym Mrwsel yn 1772 a bu farw yn Llundain.[1][2]

Anthony Cardon
Ganwyd1 Mai 1772 Edit this on Wikidata
Dinas Brwsel Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1813 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethengrafwr, arlunydd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
TadAntoine Cardon Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Anthony Cardon ym Mrwsel tua 1772. Roedd yn fab a disgybl i'r peintiwr Fflemig, Antoine Alexandre Joseph Cardon (1765–1822). Derbyniodd wobrau yn yr Academi ym Mrwsel. Yn ystod y trafferthion yn yr Iseldiroedd cyn Ymgyrch Fflandrys 1793, aeth Cardon yn ŵr ifanc 17 oed, i Loegr, gyda llythyr o gyflwyniad i Paul Colnaghi, a roddodd gyflogaeth iddo. Derbyniodd ei addysg gelf gynnar yn Ysgolion yr Academi Frenhinol a bu'n astudio am dair blynedd o dan ei gyfaill Luigi Schiavonetti.

Ei brif gyfrwng oedd ysgythriad dotwaith a daeth yn un o brif ddehonglwr yr arddull yn ystod ei oes. Fe'i cofir orau am yr ysgythriadau a ddefnyddiwyd i ddarlunio llyfrau. Ymhlith rhai o'r teitlau y bu Cardon yn ysgythru yn cynnwys: Essays After Cartoons Raphael Windsor gan Nicholas Joseph Ruyssen ac Anthony Cardon, a gyhoeddwyd ym 1798 ac argraffiad 1811 o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a gyhoeddwyd gan F. & C. Rivington yn Llundain. Gwnaeth Cardon hefyd ysgythru portreadau o George III a chyfoeswyr amlwg.

Bu'n aelod cynnar o'r Gymdeithas Chalcograffig ac yn aelod o Gymdeithas Annog y Celfyddydau a derbyniodd ei fedal aur am ei ysgythriad o Frwydr Alexandria ym 1807.

Bu farw Cardon ar 17 Chwefror 1813, yn London Street, Fitzroy Square. Cafodd ei fab, Philip Cardon, ei hyfforddi fel ysgythrwr a bu farw tua 1817. Mae enghreifftiau o waith Cardon i'w gweld yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain, yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa Victoria ac Albert, Llyfrgell ac Amgueddfa Morgan ac yn y llyfrau a ddarluniodd, mae llawer ohonynt mewn casgliadau amgueddfa a llyfrgell.

Mae yna enghreifftiau o waith Anthony Cardon yng nghasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd yng nghasgliad Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.

Oriel golygu

Dyma ddetholiad o weithiau gan Anthony Cardon:

Cyfeiriadau golygu

  1. Monkhouse, W. (3 Ionawr 2008). "Cardon, Anthony (1772–1813), engraver and print publisher". Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 6 Chwefror 2019, o http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-4614
  2. Alexander, D. (1 Ionawr 2003). "Cardon, Anthony". Grove Art Online. Adalwyd 6 Chwefror 2019, o http://www.oxfordartonline.com/groveart/view/10.1093/gao/9781884446054.001.0001/oao-9781884446054-e-7000014012