Anthropoleg
Astudiaeth dyn yw Anthropoleg. Daw'r gair o'r iaith Roeg: ænθrɵˈpɒlədʒi, (anthrōpos), sef 'dyn' (Sa:human) a -λογία, (logia), sef 'astudiaeth' ac a fathwyd gan François Péron pan ddaeth i gysylltiad gyda brodorion Tasmania.[1]
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd |
---|---|
Math | gwyddorau cymdeithas |
Rhan o | gwyddorau cymdeithas |
Yn cynnwys | archaeoleg, applied anthropology, anthropoleg fiolegol, Anthropoleg ddiwylliannol, linguistic anthropology |
Enw brodorol | ἄνθρωπος |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae pedair adran i'r wyddoniaeth: anthropoleg diwylliannol, anthropoleg biolegol, anthropoleg ieithyddol, a weithiau cynhwysir archaeoleg. Anthropoleg diwylliannol yw'r astudiaeth o ddiwylliant cymdeithasol cyfoes, anthropoleg biolegol yw'r astudiaeth o esblygiad dyn, anthropoleg ieithyddol yw hanes a datblygiad ieithoedd, ac archaeoleg sef olion materol dyn. Mae'r mwyafrif o'r anthropolegwyr yn cytuno taw dynion yw'r unig rywogaeth i gael diwylliant, tra bod rhai anthropolegwyr yn dweud bod diwylliant elfennol gyda epaod eraill fel tsimpansïaid.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tim Flannery, (1994) The Future Eaters: An ecological history of the Australasian lands and people Chatswood: New South Wales ISBN 0802139434
Gwyddorau cymdeithas |
---|
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg |
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg |