Daearyddiaeth ddynol

Mae daearyddiaeth ddynol yn cael ei chyfri'n un o'r 'gwyddorau cymdeithas' ac yn cynnwys astudiaeth o'r Ddaear, ei phobl a'u cymuned, eu diwylliant, economeg a sut y mae pobl yn parchu neu'n amharchu eu hamgylchedd.

Dwysedd poblogaeth yn ôl gwlad, 2006

Mae'n cynnwys agweddau dynol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol, ac economaidd, sef yr hyn a elwir yn wyddorau cymdeithas. Er nad prif canolbwynt daearyddiaeth ddynol yw tirwedd ffisegol y Ddaear (gwelwch daearyddiaeth ffisegol) mae bron yn amhosib i drafod daearyddiaeth ddynol heb gyfeirio at y tirwedd ffisegol ble mae gweithgareddau dynol yn digwydd, ac mae daearyddiaeth amgylcheddol yn ymddangos fel cyswllt pwysig rhwng y ddau.

Meysydd daearyddiaeth ddynol golygu

Meysydd Daearyddiaeth Ddynol Meysydd Cysylltiedig
Daearyddiaeth amgylcheddol Gwyddor amgylchedd
Daearyddiaeth boblogaeth Demograffeg
Daearyddiaeth drefol Astudiaethau trefol a Chynllunio
Daearyddiaeth ddatblygiad Datblygiad economaidd
Daearyddiaeth ddiwylliannol Anthropoleg a Chymdeithaseg
Daearyddiaeth economaidd Economeg
Daearyddiaeth farchnata Busnes
Daearyddiaeth iechyd Gwyddor iechyd
Daearyddiaeth filwrol Daearstrategaeth
Daearyddiaeth ffeministaidd Ffeministiaeth
Daearyddiaeth grefyddol Crefydd
Daearyddiaeth gymdeithasol Cymdeithaseg
Daearyddiaeth hanesyddol Hanes
Daearyddiaeth ieithyddol Ieithyddiaeth
Daearyddiaeth ranbarthol Rhanbarthiad
Daearyddiaeth strategol Daearstrategaeth
Daearyddiaeth wleidyddol Gwyddor gwleidyddiaeth (yn cynnwys Daearwleidyddiaeth)
Daearyddiaeth ymddygiadol Seicoleg

Gweler hefyd golygu


Gwyddorau cymdeithas
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg