Safbwynt mewn diwinyddiaeth Gristnogol yw Antinomiaeth. Hawlir fod dysgeidiaeth yr Efengylau yn dangos nad oes rhaid ufuddhau i ddeddfau (Groeg: nomos) y wladwriaeth a bod gwneud hynny yn gallu amharu ar y gobaith o gael iachawdwriaeth i'r enaid.

Mae pleidwyr Antinomiaeth yn tynnu ar gyfeiriadau at ddeddfau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y Testament Newydd sy'n awgrymu'n gryf nad yw'r credadyn yn rhwymedig wrth ddeddfau dyn ond wrth ddeddf uwch Crist. Gwrthodir Antinomiaeth gan y mwyafrif o ddiwinyddion.

Ffynhonnell golygu

  • Alan Richardson (gol.), A Dictionary of Christian Theology (SCM, Llundain, 1979)


  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.