Diwinyddiaeth yw'r astudiaeth neu wyddor sy'n ymdrin â natur a phriodolaethau Duw, ynghyd â'i berthynas â'r dynolryw a'r bydysawd. Er ei fod yn air a ddefnyddir weithiau yng nghyd-destun crefyddau eraill - Iddewiaeth ac Islam yn bennaf - mae'n tueddu i gael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r astudiaeth o Dduw yn y traddodiad Cristnogol yn bennaf. (Nid yw'n arfer defnyddio'r gair ar gyfer Bwdhiaeth a Hindŵaeth).

Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Chwiliwch am diwinyddiaeth
yn Wiciadur.