Antonio de Guevara

Llenor ac esgob Sbaenaidd oedd Antonio de Guevara (tua 14803 Ebrill 1545) a fu'n bregethwr llys yng nghyfnod y Brenin Carlos I.

Antonio de Guevara
Portread o Antonio de Guevara o'r 16g.
Ganwydc. 1480 Edit this on Wikidata
Treceño Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ebrill 1545 Edit this on Wikidata
Mondoñedo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, hanesydd, offeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddBishop of Guadix-Baza, Bishop of Mondoñedo Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed yn Treceño, ar arfordir gorllewinol Cantabria, a chafodd ei fagu yn llys Fernando ac Isabel. Gwasanaethodd yn was bach i'r Don Juan, Tywysog Astwries, hyd at ei farwolaeth ym 1497. Ymunodd Guevara ag Urdd Sant Ffransis ym 1504 a chafodd ei benodi'n bregethwr y llys ym 1521 a'r croniclydd brenhinol ym 1526. Gwasanaethodd yn Esgob Guadix o 1528 i 1537, ac yn Esgob Mondoñedo, ar gyrion Mynyddoedd Cantabria, o 1537 hyd at ei farwolaeth.[1]

Campwaith Guevara ydy'r gwaith didactig Reloj de príncipes o libro aureo del emperador Marco Aurelio (1529), esiampl o lyfr drych. Cafodd ei gyfieithu i sawl iaith arall a bu'n hynod o ddylanwadol ar draws Ewrop yn yr 16g. Byddai Guevara yn ffug-briodoli nifer o rannau'r gwaith i Marcus Aurelius, Ymerawdwr Rhufain yn yr 2g. Ymhlith ei weithiau eraill mae Epístolas familiares (1539–42), Menosprecio de corte y alabanza de aldea (1539), a La década de Césares (1539). Rhethregwr ac ewffiwydd oedd Guevara, a oedd yn ysgrifennu ar fân-bynciau er mwyn ymarfer ei ryddiaith ffraeth a chywrain.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Antonio de Guevara. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Hydref 2021.