Marcus Aurelius
Caesar Marcus Aurelius Antoninus Augustus neu Marcus Aurelius (26 Ebrill 121 – 17 Mawrth 180) oedd Ymerawdwr Rhufain o 7 Mawrth 161 hyd ei farwolaeth. Ei enw gwreiddiol oedd Marcus Annius Catilius Severus. Wedi priodi cymerodd yr enw Marcus Annius Verus. Pan gyhoeddwyd ef yn ymerawdwr galwodd ei hun yn Marcus Aurelius Antoninus. Ystyrir ef fel yr olaf o'r "Pum Ymerawdwr Da".
Marcus Aurelius | |
---|---|
Ganwyd | Marcus Catilius Severus Annius Verus 26 Ebrill 121 Rhufain |
Bu farw | 17 Mawrth 180 Vindobona |
Man preswyl | Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, athronydd, llenor, teyrn |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, quaestor |
Adnabyddus am | Meditations |
Mudiad | stoicism |
Tad | Marcus Annius Verus, Antoninus Pius |
Mam | Calvisia Domitia Lucilla |
Priod | Faustina yr Ieuengaf |
Partner | Ceionia Fabia |
Plant | Commodus, Marcus Annius Verus Caesar, Annia Aurelia Galeria Faustina, Fadilla, Lucilla, Annia Cornificia Faustina Minor, Vibia Aurelia Sabina, Titus Aurelius Fulvus Antoninus, Domitia Faustina |
Perthnasau | Malemnius |
Llinach | Antonines, Aurelies |
Yn ystod ei deyrnasiad bu raid i Marcus Aurelius ryfela'n barhaus yn erbyn gwahanol bobloedd ar ffiniau'r ymerodraeth. Ymosododd yr Almaenwyr droeon ar Gâl, ac adenillodd y Parthiaid eu nerth ac ymosod ar yr ymerodraeth. Oherwydd y problemau hyn dewisodd Lucius Verus fel cyd-ymerawdwr, hyd farwolaeth Verus yn 169.
Mae Marcus Aurelius yn adnabyddus fel awdur y Myfyrdodau, a ysgrifennodd yn yr iaith Roeg yn ystod ymgyrchoedd milwrol rhwng 170 a 180. Ystyrir y llyfr yn glasur hyd heddiw. Credir mai yn ystod ei deyrnasiad ef y bu'r cysylltiad cyntaf rhwng yr ymerodraeth Rufeinig a Tsieina yn y flwyddyn 166.
Bu farw Marcus Aurelius ar 17 Mawrth 180 yn ninas Vindobona (Fienna heddiw) tra'n ymgyrchu yn erbyn y Marcomanni. Daethpwyd a'i gorff yn ôl i Rufain i'w gladdu. Yn wahanol i'r pedwar ymeradwr o'i flaen roedd ganddo fab i'w olynu. Gwnaeth ei fab Commodus yn gyd-ymerawdwr yn 177, a dilynodd ei dad yn 180. Yn anffodus ni fu Commodus yn ymerawdwr da, ac mae rhai haneswyr yn ystyried mai marwolaeth Marcus Aurelius yn 180 oedd diwedd y Pax Romana.
Rhagflaenydd: Antoninus Pius |
Ymerawdwr Rhufain 7 Mawrth 161 – 17 Mawrth 180 gyda Lucius Verus 7 Mawrth 161 – ? Mawrth 169 gyda Commodus 177 – 17 Mawrth 180 |
Olynydd: Commodus |