Antony Hewish
Astroffisegwr o Loegr oedd Antony Hewish (11 Mai 1924 – 13 Medi 2021) a enillodd Wobr Ffiseg Nobel ym 1974 am ddarganfod pylser, sef sêr radio curiadol.
Antony Hewish | |
---|---|
Ganwyd | Antony Hewish 11 Mai 1924 Fowey |
Bu farw | 13 Medi 2021 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | seryddwr, astroffisegydd, ffisegydd, academydd |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Gwobr Ffiseg Nobel, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Albert A. Michelson, Gwobr Holweck, Medal Hughes, Medal Eddington, Medal Karl Schwarzschild |
Ganed yn Fowey, Cernyw, a mynychodd Goleg y Brenin yn Taunton. Aeth i Goleg Gonville a Caius, Caergrawnt, ym 1942 i astudio ffiseg, ac o 1943 i 1946 fe'i galwyd i fwrw ei wasanaeth milwrol yn gweithio i'r Sefydliad Awyrennau Brenhinol yn Farnborough a'r Sefydliad Ymchwil Telegyfathrebu yn Malvern. Dychwelodd i Brifysgol Caergrawnt ym 1946, ac wedi iddo dderbyn ei radd ym 1948 ymunodd â thîm ymchwil Martin Ryle yn Labordy Cavendish. Enillodd Hewish ei ddoethuriaeth ym 1952 a fe'i penodwyd yn Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Gonville a Caius, ac ym 1961 fe'i trosglwyddwyd i Goleg Churchill i gymryd swydd Cyfarwyddwr Astudiaethau Ffiseg. Cafodd ei brofiad cyntaf o radio-seryddiaeth wrth ei waith yn datblygu dyfeisiau gwrthfesurau radar awyrennol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]
Ar gychwyn ei yrfa, ymchwiliai i ffyrdd o fesur gronynnau wedi'u gwefru. Hewish oedd y gwyddonydd cyntaf i ddefnyddio fflachiadau sêr radio i fesur uchder a dimensiynau'r cymylau plasma yn yr ïonosffer, a fe ddefnyddiodd dechneg debyg i fesur gwynt yr haul.[1] Wrth ei waith yn Arsyllfa Radio-Seryddiaeth Mullard (MRAO) o 1965 i 1967, datblygodd fath newydd o delesgop radio i astudio fflachiadau galaethau radio. Sylwodd un o'i fyfyrwyr ôl-raddedig, Jocelyn Bell, ar signalau rhyfedd drwy'r telesgop, a chydweithiodd y ddau i geisio canfod ffynhonnell y curiadau hyn. Ym 1968 cyhoeddodd Hewish ei ymchwil ragarweiniol, gan ysgogi dadl ym myd seryddiaeth dros ffynonellau'r "pylser". O'r diwedd, cytunwyd bod y signalau yn tarddu o sêr niwtron yn troi'n gyflym iawn.
Darlithiodd Hewish ar bwnc ffiseg yng Nghaergrawnt hyd at ei benodi'n ddarllenydd ym 1969. Fe'i dyrchafwyd yn athro radio-seryddiaeth yn Labordy Cavendish ym 1971. Dyfarnwyd Gwobr Ffiseg Nobel i Hewish a Syr Martin Ryle ym 1974 "am eu ymchwil arloesol mewn astroffiseg radio: Ryle am ei arsylwadau a'i ddyfeisiau, yn enwedig y dechneg synthesis agorfa, a Hewish am ei ran benderfynol wrth ddarganfod pylser".[2] Hwn oedd y tro cyntaf i'r wobr gael ei roi am seryddiaeth arsylwadol.[3] Cafodd y wobr ei beirniadu gan rai, gan gynnwys y seryddwr Fred Hoyle, am gydnabod Hewish yn hytrach na Jocelyn Bell.[4] Yn sgil salwch Ryle ym 1977 fe gymerai Hewish awenau'r adran radio-seryddiaeth yng Nghaergrawnt. Gwasanaethodd hefyd yn bennaeth ar MRAO o 1982 i 1988, ac ymddeolodd o'i swydd athro ym 1989. Bu farw yn 2021 yn 97 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Professor Antony Hewish, astronomer who jointly won the Nobel Prize for the discovery of pulsars – obituary", The Daily Telegraph (16 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Medi 2021.
- ↑ (Saesneg) "The Nobel Prize in Physics 1974", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 30 Medi 2021.
- ↑ (Saesneg) Antony Hewish. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Medi 2021.
- ↑ (Saesneg) Nicholas Wade, "Antony Hewish, Astronomer Honored for the Discovery of Pulsars, Dies at 97", The New York Times (17 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Medi 2021.