Gwasanaeth milwrol
Yn ei ystyr symlaf, cyfeira gwasanaeth milwrol at wasanaeth gan unigolyn neu grŵp mewn byddin neu filisia arall, boed yn swydd maent wedi'i ddewis neu o ganlyniad i gonsgripsiwn. Mae rhai gwledydd (e.e. Mecsico) yn disgwyl i bob dinesydd gyflawni rhyw faint o wasanaeth milwrol (ac eithrio achosion arbennig megis anabledd corfforol neu feddyliol neu gredoau crefyddol). Gan amlaf nid yw gwledydd sydd â milwyr gwirfoddol llawn yn galw ar ddinasyddion i gyflawni gwasanaeth milwrol, oni bai fod ganddynt argyfwng recriwtio yn ystod cyfnod o ryfel.
Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.