Anuna De Wever
Mae Anuna De Wever (ganwyd 16 Mehefin 2001) yn ymgyrchydd hinsawdd yng Ngwlad Belg ac roedd yn un o'r bobl mwyaf blaenllaw yn streic y mudiad hinsawdd Fridays for Future (Gwener y Dyfodol) yng Ngwlad Belg. Mae De Wever yn nodi ei bod yn anneuaidd ac yn defnyddio'r rhagenw "hi".[1]
Anuna De Wever | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mehefin 2001 Mortsel |
Man preswyl | Mortsel, Berchem |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymgyrchydd hinsawdd |
Adnabyddus am | Ni yw'r hinsawdd |
Mudiad | Amgylcheddaeth |
Tad | Hardwin De Wever |
Mam | Katrien Van der Heyden |
Magwraeth ac ysgol
golyguGanwyd De Wever ym Mortsel, Gwlad Belg. Gyda Kyra Gantois ac Adélaïde Charlier, daeth De Wever yn un o ffigurau mwyaf blaenllaw streic ysgolion y wlad dros weithredu i atal newid hinsawdd.[2] O ganlyniad, o Chwefror i Fai 2019 roedd ganddi golofn wythnosol yn y cylchgrawn HUMO.
Yn dilyn y streiciau ysgol yng Ngwlad Belg roedd yn rhaid i'r gweinidog Fflemaidd Joke Schauvliege ymddiswyddo ar ôl honni ar gam fod gan Wasanaeth Diogelwch Gwladwriaeth Gwlad Belg wybodaeth yn nodi bod y streic hinsawdd yn sefydliad peryglys, gwleidyddol.[3][4]
Ymgyrchu
golyguArweiniodd gwahaniaethau personol at ageniad o fewn mudiad Ieuenctid dros Hinsawdd Gwlad Belg, gydag ymadawiad y cyd-sylfaenydd Kyra Gantois yn Awst 2019.[5]
Ymddangosodd De Wever yng ngŵyl gerddoriaeth Pukkelpop 2019 pan geisiodd ennyn diddordeb y gynulleidfa i dynnu sylw at faterion yr hinsawdd. Roedd yr alwad hon wedi gwylltio rhai o wylwyr a ddechreuodd aflonyddu ar ei grŵp o ymgyrchwyr, yn hyrddio poteli o wrin atynt, ac yn eu dilyn yn ôl i'w maes pebyll, yn gan fygwth eu lladd; dinistrwyd eu pabell nes i'r cwmni diogelwch ymyrryd.[6] Oherwydd bod yr ymosodwyr wedi bod yn cario amrywiad o Faner Fflandrys a oedd yn cael ei ffafrio gan elfennau de pellaf y Mudiad Fflandrys, gwaharddodd y trefnwyr faneri o'r digwyddiad, gan atafaelu 20 ohonyn nhw.[7][8]
Yn Hydref 2019, hwyliodd De Wever gydag ymgyrchwyr yn erbyn newid hinsawdd ifanc eraill ar y Regina Maris ar gyfer taith draws-Iwerydd carbon isel i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2019 yn Santiago, Chile.[9]
Yn Chwefror 2020, ar ôl dychwelyd o Dde America, cawsant abrofiad gwaith gyda'r Gynghrair Rydd Gwyrddion-Ewropeaidd yn Senedd Ewrop, heb ddod yn aelod o'r blaid.[10]
Gwobrau
golygu- Yn Mai 2019, derbyniodd De Wever a Kyra Gantois Wobr Ark Prize of the Free Word.[11]
- Ym Medi 2019, derbyniodd De Wever ac Adélaïde Charlier Wobr Llysgennad Cydwybod Amnest Rhyngwladol Gwlad Belg ar ran Youth for Climate.[12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "A Huge Climate Change Movement Led By Teenage Girls Is Sweeping Europe. And It's Coming To The US Next". BuzzFeed News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-20.
- ↑ "Belgium climate protests". BBC News. 2019-01-31. Cyrchwyd 2019-06-25.
- ↑ Daniel Boffey (5 Chwefror 2019). "Belgian minister resigns over school-strike conspiracy claims". The Guardian.
- ↑ "Belgian minister Schauvliege resigns over 'school protest plot'". BBC News. 2019-02-06. Cyrchwyd 2019-06-25.
- ↑ Eline Bergmans (26 Awst 2019). "'Het boterde al maanden niet meer tussen Anuna en mij'". De Standaard.
- ↑ "Anuna De Wever harassed and threatened with death at Pukkelpop". The Brussels Times. 16 Awst 2019.
- ↑ Amber Janssens; Rik Arnoudt (16 Awst 2019). "Pukkelpop onderzoekt incident op camping na klimaatactie met Anuna De Wever". VRT Nieuws.
- ↑ Michaël Torfs (17 Awst 2019). "Climate activist Anuna De Wever targeted in Pukkelpop incident, "black" Flemish lion flags seized". VRT Nieuws.
- ↑ Jennifer Rankin (2 Hydref 2019). "Activists set sail across the Atlantic to Chile to demand curbs on flying". The Guardian.
- ↑ "Anuna De Wever loopt stage bij Europese groenen: "Het is de link tussen het straatprotest en de seat at the table"". Het Laatste Nieuws.
- ↑ "Anuna De Wever en Kyra Gantois ontvangen Arkprijs". Het Nieuwsblad. 30 Mai 2019.
- ↑ "The voices of Brussels' Global Climate strike". The Brussels Times. 23 Medi 2019.