Baner Fflandrys
Baner Fflandrys, a elwir fel arfer y Llew Fflemeg neu Llew Fflandrys (Iseldireg: Vlaamse Leeuw), yw baner y Gymuned Fflandrys (Cultuurraad voor de Nederlandse Cultuurgemeenschap) a Rhanbarth Fflandrys (sef y rhan Iseldireg ei hiaith sy'n rhan o Wlad Belg). Mabwysiadwyd y faner yn swyddogol fel baner Cyngor Cymuned Ddiwylliannol yr iaith Iseldireg ym 1973, ac yn ddiweddarach, ym 1985, fel baner senedd Cymuned Fflandrys.[1][2][3][4] Seiliwyd y faner ar hen arfbais sir Fflandrys ac mae'n faner i rheini sy'n uniaethu â hanes a hunaniaeth Iseldireg ei hiaith Fflandrys ac i genedlaetholwyr Fflemeg.
Dyluniad
golyguDisgrifiad y faner:
Or, a lion rampant armed and langued Gules; Geel met een zwarte leeuw, rood geklauwd en getongd (Llain melyn gyda llew du rhemp, crafanc a thafod goch) [3][4]
Mae'r llew yn cael ei ddarlunio yn sefyll ar ei goesau ôl ac wedi'i grafangu, yn wynebu'r mast ar y faner. Cymhareb agwedd y faner yw 2:3 (fel un Iseldiroedd, mae hyn yn wahanol i faner Gwlad Belg (sydd yn siâp fwy sgwâr, cymesuredd, 13:15), ond mae'r fformat arferol ledled y byd (yn ymarferol, mae baner Gwlad Belg hefyd fel arfer yn cael ei harddangos yn yr un fformat).
Ysbrydolwyd y faner swyddogol gan ddarlun o law herald arfau anhysbys a drafftiwr mewn llyfr arfau o'r cyfnod 1560-1570. Hyd yn oed yn fwy nag yn y Gelre Wapenboek, mae'n amlwg y gellir adnabod y ddelwedd fel llew, gyda manau datblygedig. Gwnaed y dyluniad mewn cydweithrediad â'r Cyngor Heraldaidd Fflandrys, (Vlaamse Heraldische Raad).[5]
Mae lliw y crafangau a'r tafod ar y faner a'r arfbais swyddogol, fel y dywedwyd, yn goch (neu'r gules mewn herodraeth). Fodd bynnag, mae llawer o fewn mudiad cenedlaethol Fflandrys dim ond yn arddel baner gyda llew ddu yn unig.[6] Mae'n well gan y mudiad Fflandrys faner yma gyda thafod du a chrafangau du ond arddelir hefyd gan fudiadau a grwpiau anghenedlaetholgar megis cymdeithas foduro Fflandrys, y Vlaamse Tooeristenbond / Vlaamse Automobilistenbond.[7] Gelwir y fersiwn hon o faner y Llew hefyd yn faner frwydr, neu cad-faner, (Vlaamse strijdvlag) Fflandrys.
Er y cysylltir baner y llew du gan nifer gyda'r asgell dde genedlaetholaidd, ond nid yw hynny' gywir, ac fe arddelir y faner gan ystod eang o'r Vlaamse Beweging, y mudiad cenedlaethol.[8]
Poblogeiddio'r Faner Du a Melyn
golyguSefydlwyd grŵp "Vlaanderen Vladgt" gan Ivan Mertens yn 2001 er mwyn poblogeiddio baner blaen llew ddu ar gefndir melyn ac er mwyn "rhoi Fflandrys ar y map".[9]
Wedi ei hysbrydoli gan gefnogwyr a gwladgarwyr gwledydd eraill fel Llydaw ac Iwerddon oedd yn chwifio eu baneri cenedlaethol mewn digwyddiadau torfol a chwaraeon, penderfynodd Mertens fabwysiadu'r un arfer ar gyfer baner Fflandrys. Teimlai hefyd, wedi gweithio dramor, bod nifer o Fflemiaid yn dawedog neu'n swil o ddweud mai Fflemiaid oeddynt (yn hytrach na Belgiaid) a bod angen newid hyn.
Daeth y baneri llew du yn digwyddiad poblogaidd a chyson ar ddigwyddiadau fel y Tour de France a'r Proms yn Llundain wrth i griw o VV chwifio'r faner. Beirniadwyd hwy ar y cychwyn am iddynt guddio golwg pobl a chamerâu teledu o'r digwyddiad a hefyd achosi niwed anfwriadol. Ond, yn ôl Mertens newidiodd yr awyrgylch yn 2006 a daeth pobl i dderbyn y faner. Mae Vlaanderen Vlagdt fel mudiad bellach wedi dod i ben yn ffurfiol yn 2010, er bod Mertens yn teimlo ei fod wedi llwyddo yn ei gennad i hybu a hyrwyddo'r Vlaamse strijdvlag gan werthu 110,000 o faneri.[9]
Protocol y faner
golyguRhaid arddangos y faner Fflemeg bob amser ar adeiladau gweinyddol mawr Gweinyddiaeth y Gymuned Fflandrysaidd a sefydliadau cyhoeddus a gwyddonol Fflandrys. Rhaid arddangos y faner hefyd ar bob adeilad cyhoeddus ar ychydig o ddyddiadau bob blwyddyn.[10] Yn ogystal, caiff unrhyw ddinesydd chwifio'r faner pryd bynnag y mae ef neu hi eisiau.[11]
Amrywiaethau
golyguBaner Swyddogol y rhanbarth hunanlywodraethol Fflandrys | |
Amrywiaeth o'r faner a ddefnyddir gan Fudiad Cenedlaethol Fflandrys sy'n hepgor y crafangau a thafod goch (sef lliwiau Gwlad Belg). Adnebir fel y strijdvlag ("cad-faner"). | |
Baner département 'Nord' yn Ffrainc sy'n cynnwys rhan a elwir yn Fflandrys Ffrengig ac a oedd, yn hanesyddol, yn rhan o Fflandrys. | |
Baner Talaith Fflandrys (862 — 1795) |
Baner Fflandrys yng Nghymru
golyguGellir gweld baner Fflandrys yn chwifio'n flynyddol fel un faneri Promenâd Aberystwyth. Mae yno fel casgliad o faneri cenhedloedd a chymunedau ieithyddol di-wladwriaeth annibynnol, ynghyd â baneri gwledydd megis Gwlad y Basg, Cernyw a Llydaw. Caiff y baneri eu codi dros gyfnod gwanwyn a haf, a'u tynnu i lawr yn ystod y gaeaf.
Mae'r faner yn debyg i fersiwn wreiddiol rfbais Ceredigion, neu'n hytrach Llew Gwaithfoed, oedd yn dylunio llew ddu ar lain felyn. Bellach mae'r baner Ceredigion wedi ei newid i fod yn lew felyn ar lain ddu.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Flandres - Vlaanderen" (yn french). Cyrchwyd October 16, 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Istasse, Cédric (July 10, 2014). "Histoire et mémoire(s): de la bataille des Éperons d'or du 11 juillet 1302 à la fête de la Communauté flamande" (PDF). Les @nalyses du Crisp en ligne (yn french). Cyrchwyd October 16, 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 3.0 3.1 "Flanders (Belgium)". Flags of the World. Cyrchwyd October 16, 2018.
- ↑ 4.0 4.1 "Bandera de Flandes". Historiadores histéricos (yn spanish). March 23, 2012. Cyrchwyd October 16, 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Vlaamse Overheid. Het wapen van de Vlaamse Gemeenschap
- ↑ https://www.knack.be/nieuws/belgie/wanneer-herovert-de-vlaamse-beweging-de-strijdvlag-uit-klauwen-van-uiterst-rechts/article-opinion-1174533.html?cookie_check=1566983315
- ↑ https://www.crwflags.com/fotw/flags/be-vlg.html
- ↑ https://www.crwflags.com/fotw/flags/be%7Dvvb.html
- ↑ 9.0 9.1 https://www.nieuwsblad.be/cnt/gse2qgkhg
- ↑ Vlaamse Overheid. Bevlagging van de openbare gebouwen Archifwyd 2019-08-17 yn y Peiriant Wayback, geraadpleegd op 17 augustus 2019.
- ↑ Flags of the World (2006): Flanders (Belgium), geraadpleegd op 17 Gorffennaf 2007.