Fridays for Future

Mudiad rhyngwladol i ddisgyblion ysgol yw School Strike for Climate (SS4C) (Swedeg gwreiddiol: Skolstrejk för klimatet), a elwir hefyd yn Fridays for Future (FFF), Youth for Climate, Streic Hinsawdd neu'n Streic Ieuenctid ar gyfer Hinsawdd. Mae aelodau'r mudiad yn gadael eu hysgolion bob dosbarthiadau dydd Gwener i gymryd rhan mewn gwrthdystiadau i fynnu fod arweinyddion y byd yn gweithredu i atal newid hinsawdd ac i'r diwydiant tanwydd ffosil drosglwyddo i ynni adnewyddadwy.

Fridays for Future
Enghraifft o'r canlynolmudiad cymdeithasol, prosiect Edit this on Wikidata
Mathmudiad hinsawdd, mudiad ieuenctid, school strike, student movement, climate strike Edit this on Wikidata
Idioleggwleidyddiaeth werdd, Amgylcheddaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu20 Awst 2018 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysFridays for Future Sweden, Fridays for Future Russia, Fridays for Future Germany, Fridays for Future Ukraine Edit this on Wikidata
SylfaenyddGreta Thunberg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.fridaysforfuture.org, https://fridaysforfuturebrasil.org, https://fridaysforfuture.de/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dechreuodd cyhoeddusrwydd a threfnu eang ar ôl i’r disgybl o Sweden, Greta Thunberg, gynnal protest yn Awst 2018 y tu allan i Riksdag (senedd) Sweden, gan ddal arwydd a oedd yn datgan: "Skolstrejk för klimatet" ("Streic ysgol dros yr hinsawdd").[1][2]

Cynhaliwyd streic fyd-eang ar 15 Mawrth 2019 gyda dros miliwn o streicwyr mewn 2,200 o ysgolion, a drefnwyd mewn 125 o wledydd.[3][4][5] Ar 24 Mai 2019, cynhaliwyd yr ail streic fyd-eang, lle gwelwyd 1,600 o brotestiadau ar draws 150 o wledydd a channoedd o filoedd o wrthdystwyr. Amserwyd y digwyddiadau i gyd-fynd ag Etholiad Senedd Ewrop, 2019.[6][7][8][9]

Roedd Global Week for Future 2019 yn gyfres o 4,500 o streiciau ar draws dros 150 o wledydd, bob dydd Gwener rhwng 20 Medi a dydd Gwener 27 Medi. Dyma streiciau hinsawdd mwyaf yn hanes y byd, casglodd streiciau 20 Medi oddeutu 4 miliwn o wrthdystwyr, llawer ohonynt yn blant ysgol, gan gynnwys 1.4 miliwn yn yr Almaen.[10] Ar 27 Medi, amcangyfrifwyd bod dwy filiwn o bobl wedi cymryd rhan mewn gwrthdystiadau ledled y byd, gan gynnwys dros filiwn o wrthdystwyr yn yr Eidal a channoedd o filoedd o wrthdystwyr yng Nghanada.[11][12][13]

Greta Thunberg, 2018 golygu

 
Greta Thunberg o flaen senedd Sweden yn Stockholm, Awst 2018
 
Beic ymgyrchydd yn Stockholm ar 11 Medi 2018: "Rhaid trin y newid hinsawdd hwn fel argyfwng! Yr hinsawdd yw'r mater etholiad pwysicaf! "

Ar 20 Awst 2018, penderfynodd ymgyrchydd hinsawdd Sweden, Greta Thunberg,[14] yn ei 9fed blwyddyn ysgol (Blwyddyn 8 yng Nghymru), i beidio â mynychu ysgol tan etholiad cyffredinol Sweden 2018 ar 9 Medi ar ôl haf cynnes iawn a thanau gwyllt yn Sweden.[15] Dywedodd iddi gael ei hysbrydoli gan yr actifyddion yn eu harddegau ynddisgyblion Ysgol Uwchradd Marjory Stoneman Douglas yn Parkland, Florida, a drefnodd y <i>March for Our Lives</i>.[16][17]

Protestiodd Thunberg trwy eistedd y tu allan i'r Riksdag bob dydd yn ystod oriau ysgol.[18] Galwodd ar Lywodraeth Sweden i leihau allyriadau carbon fel a fynnwyd yng Nghytundeb Paris. Ar 7 Medi, ychydig cyn yr etholiadau cyffredinol, cyhoeddodd y byddai'n parhau i streicio bob dydd Gwener nes bod Sweden yn cyd-fynd â Chytundeb Paris. Bathodd y slogan Fridays For Future, a enillodd sylw ledled y byd, ac a ysbrydolodd fyfyrwyr ysgol ledled y byd i gymryd rhan mewn streiciau.[19]

Twf y mudiad, 2019 golygu

Dechreuwyd trefnu streiciau ledled y byd, wedi'u hysbrydoli gan Thunberg, gan ddechrau yn Nhachwedd 2018. Yn Awstralia, dechreuodd miloedd o fyfyrwyr streicio ar ddydd Gwener, gan anwybyddu galwad y Prif Weinidog Scott Morrison am "fwy o ddysgu mewn ysgolion a llai o actifiaeth".[20] Wedi'u hysbrydoli gan Gynhadledd Newid Hinsawdd COP24 yn Katowice, Gwlad Pwyl, parhaodd streiciau o leiaf mewn 270 o ddinasoedd[21] yn Rhagfyr mewn gwledydd ledled y byd, gan gynnwys Iwerddon, Awstralia, Awstria,[22] Gwlad Belg, Cymru, Canada,[23] yr Iseldiroedd, yr Almaen, y Ffindir, Denmarc, Japan, y Swistir,[24][25] yr Alban, yr Unol Daleithiau a Lloegr.[26]

 
Bolzano, 15 Chwefror 2019

Ymatebion ysgolion, gwleidyddion a rhieni golygu

Mae'r streiciau wedi cael eu canmol a'u beirniadu gan oedolion mewn swyddi awdurdodol. Yn yr Undeb Ewropeaidd, cafodd y mudiad gefnogaeth sylweddol gan y blaid pan-Ewropeaidd Volt Europa a rannodd, yn ôl adroddiad gan Parents for Future cyn Etholiadau Ewropeaidd 2019, holl gyhoeddiadau Fridays For Future ym mis Ebrill 2019.[27]

Mae gwleidyddion Ceidwadol yn y Deyrnas Unedig ac Awstralia wedi disgrifio’r streiciau fel triwantiaeth; a chosbwyd rhai disgyblion a;u harestio am streicio neu arddangos baneri.[28][29] Beirniadodd Prif Weinidog y DU Theresa May y streiciau fel "gwastraff amser".[30] Lleisiodd Jeremy Corbyn, cyn arweinydd y Blaid Lafur ac Arweinydd yr Wrthblaid ei gefnogaeth i’r streiciau,[31][32][33] fel y gwnaeth arweinwyr pleidiau eraill Cymru a'r DU.[34][35]

Sensoriaeth golygu

India golygu

Yng Ngorffennaf 2020, cafodd gwefan Fridays for Future ei gau i lawr gan Lywodraeth India. Roedd y grwpiau'n arwain ymgyrch yn erbyn Drafft EIA newydd a dadleuol a gynigiwyd gan Lywodraeth India hefyd.[36]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Swedish 15-year-old who's cutting class to fight the climate crisis". The Guardian. London, United Kingdom. 1 Medi 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-04. Cyrchwyd 1 Medi 2018.
  2. "The youth have seen enough". Greenpeace International. 4 Ionawr 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-21. Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
  3. "School climate strikes: 1.4 million people took part, say campaigners". 19 Mawrth 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-07. Cyrchwyd 19 Mawrth 2019.
  4. "Climate strikes held around the world – as it happened". The Guardian. 15 Mawrth 2019. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-16. Cyrchwyd 16 Mawrth 2019.
  5. "Photos: kids in 123 countries went on strike to protect the climate". 15 Mawrth 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-20. Cyrchwyd 16 Mawrth 2019.
  6. "Students walk out in global climate strike". BBC. 24 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mai 2019. Cyrchwyd 24 Mai 2019.
  7. "'We're one, we're back': Pupils renew world climate action strike". Al Jazeera. 24 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mai 2019. Cyrchwyd 24 Mai 2019.
  8. Gerretsen, Isabelle (24 Mai 2019). "Global Climate Strike: Record number of students walk out". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Medi 2019. Cyrchwyd 20 Medi 2019.
  9. "Students From 1,600 Cities Just Walked Out of School to Protest Climate Change. It Could Be Greta Thunberg's Biggest Strike Yet". Time. 24 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2019. Cyrchwyd 27 Mai 2019.
  10. Largest climate strike:
  11. Taylor, Matthew; Watts, Jonathan; Bartlett, John (27 Medi 2019). "Climate crisis: 6 million people join latest wave of global protests". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-08. Cyrchwyd 28 Medi 2019.
  12. "Fridays for future, al via i cortei in 180 città italiane: 'Siamo più di un milione'" [Fridays for future, kids in the streets in 180 Italian cities: 'We're more than a million']. la Repubblica. 27 Medi 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-21. Cyrchwyd 27 Medi 2019.
  13. Murphy, Jessica (27 Medi 2019). "Hundreds of thousands join Canada climate strikes". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-17. Cyrchwyd 28 Medi 2019.
  14. "How teenage girls defied skeptics to build a new climate movement". CNN. 13 Chwefror 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Chwefror 2019. Cyrchwyd 28 Chwefror 2019.
  15. "The Swedish 15-year-old who's cutting class to fight the climate crisis". The Guardian. London, United Kingdom. 1 Medi 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-04. Cyrchwyd 1 Medi 2018.Crouch, David (2018-09-01). "The Swedish 15-year-old who's cutting class to fight the climate crisis". The Guardian. London, United Kingdom. Archived from the original on 2019-01-04. Retrieved 2018-09-01.
  16. "Teen activist on climate change: If we don't do anything right now, we're screwed". CNN. 23 December 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-15. Cyrchwyd 10 Chwefror 2019.
  17. "The Guardian view on teenage activists: protesters not puppets – Editorial". The Guardian. 7 Chwefror 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-11. Cyrchwyd 11 Chwefror 2019.
  18. "The Fifteen-Year-Old Climate Activist Who Is Demanding a New Kind of Politics". The New Yorker. 2 Hydref 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-05. Cyrchwyd 2019-01-18.
  19. "'Our leaders are like children,' school strike founder tells climate summit". The Guardian. 4 December 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-02. Cyrchwyd 2019-01-18.
  20. "Australian school children defy prime minister with climate strike". CNN. 30 Tachwedd 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Chwefror 2019.
  21. "'Our leaders are like children,' school strike founder tells climate summit". The Guardian. 4 December 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-02. Cyrchwyd 2019-01-18."'Our leaders are like children,' school strike founder tells climate summit". The Guardian. 2018-12-04. Archived from the original on 2019-01-02. Retrieved 2019-01-18.
  22. "FridaysforFuture Vienna". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-25. Cyrchwyd 29 December 2018.
  23. "Metro Vancouver students cut class to demand action on climate change". CBC News. 7 December 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-21. Cyrchwyd 2019-01-18.
  24. "More than 1,000 Swiss pupils strike over climate". Swissinfo. 21 December 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-20. Cyrchwyd 2019-01-18.
  25. "La "grève du climat" rassemble des centaines d'étudiants alémaniques". RTS Info (yn Ffrangeg). 22 December 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-10. Cyrchwyd 2019-01-18. ["Climate strike" brings together hundreds of German-speaking students]
  26. "Klimatmanifestation över hela landet: "Ödesfråga"". Expressen (yn Swedeg). 30 Tachwedd 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-31. Cyrchwyd 2019-01-18.
  27. Parents For Future Karlsruhe (15 Awst 2019). "Parents For Future: Antworten der Parteien". klimawahl-2019.eu (yn Almaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-22. Cyrchwyd 2019-08-14.
  28. Josh Barrie (21 Mehefin 2019). "Three schoolgirls have been banned from their end of year prom after going on a climate emergency march". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-22. Cyrchwyd 2019-06-22.
  29. Charlotte England (12 April 2019). "School Climate Strikes: Tens of Thousands of Children Skip Class in Third National Action". RightsInfo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-22. Cyrchwyd 2019-06-22.
  30. McGuinness, Alan (15 Chwefror 2019). "Theresa Mai criticises pupils missing school to protest over climate change". sky news. Sky UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-17. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
  31. "How have key MPs responded to Greta Thunberg and the climate protests?". edie.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-04. Cyrchwyd 26 Hydref 2020.
  32. @ (15 Chwefror 2019). "Climate change is the greatest threat that we all face but it is the school kids of today whose futures are most on the line. They are right to feel let down by the generation before them and it's inspiring to see them making their voice heard today.#SchoolStrike4Climate" (Trydariad) – drwy Twitter.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  33. @ (12 April 2019). "I support the young people striking today and thank them for taking action. We urgently need to decarbonise the economy, invest in green jobs to rebuild our communities, and protect those most vulnerable to the impacts of climate change" (Trydariad) – drwy Twitter.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  34. Corbyn, Jeremy; Sturgeon, Nicola; Cable, Vince; Berry, Siân (15 Mawrth 2019). "Do UK politicians support the climate strike? Party leaders respond | Jeremy Corbyn and others". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-23. Cyrchwyd 9 Mai 2019.
  35. "If children don't join the climate strike, their schools are underachieving". The Guardian. 14 Mawrth 2019. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-02. Cyrchwyd 11 April 2019.
  36. "Environmental Websites Leading The Movement Against India's Controversial New Proposal Are Blocked". Vice. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-15. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2020.