Anwen Francis
sgriptiwr a aned yn 1979
Awdures plant Cymraeg ydy Anwen Francis (ganwyd 16 Ionawr 1979, Aberteifi, Ceredigion). Mae hefyd yn ysgrifennu colofnau'n rheolaidd ar gyfer cylchgronau marchogaeth a phapurau wythnosol. Mynychodd Ysgol Plant Bach Aberteifi, Ysgol Gynradd Aberteifi, Ysgol Uwchradd Aberteifi a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Gweithiodd i'r BBC fel gohebydd am chwe mlynedd cyn symyd i weithio i Gyngor Sir Ceredigion fel Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol. Bellach mae'n gweithio fel Cyfieithydd i Adran y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Me'n feirniad ceffylau ac yn cystadlu ar draws Cymru a Lloegr.
Anwen Francis | |
---|---|
Ganwyd | 16 Ionawr 1979 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | sgriptiwr |
Llyfryddiaeth
golygu- Siani'r Shetland (Gwasg Gomer, 2005)
- Campau Siani'r Shetland (Gwasg Gomer, 2007)
- Nadolig Llawen Siani (Gwasg Gomer, 2007)
- Siani'r Shetland: Siani ar Garlam (Gwasg Gomer, 2007)
- Siani'r Shetland: Siani'n Achub y Dydd (Gwasg Gomer, 2007)
- Siani'r Shetland: Siani am Byth! (Gwasg Gomer, 2009)
- Y Rali Fawr (Gwasg Gomer, 2012)
Cyfeiriadau
golygu- Coladwyd y llyfryddiaeth o wefan gwales.com