Ysgol Gynradd Aberteifi
Ysgol gynradd gymunedol ddwyieithog yw Ysgol Gynradd Aberteifi, a leolir yng nghanol tref Aberteifi, Ceredigion. Sefydlwyd ar ei ffurf bresennol yn 2008, wedi uniad Ysgol y Plant Bach Aberteifi ac Ysgol Iau Aberteifi, gan barhau i ddefnyddio hen adeiladau'r ddwy ysgol.
Ysgol Gynradd Aberteifi | |
---|---|
Arwyddair | Cyd Dyfu, Cyd Ddysgu |
Sefydlwyd | 2008 |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg |
Pennaeth | Donna Hanly |
Lleoliad | Napier Street, Aberteifi, Ceredigion, Cymru, SA43 1EH |
AALl | Cyngor Sir Ceredigion |
Disgyblion | 402[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 4–11 |
Lliwiau | Glas |
Gwefan | ysgolgynraddaberteifi.co.uk |
Roedd 308 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol yn 2010. Dim ond 13% o'r disgyblion ddaeth o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith. Cymraeg yw cyfrwng yr addysg hyd 5 oed, yna rhannir yr ysgol yn ddau ffrwd, un cyfrwng Saesneg gyda 5 dosbarth, ac un cyfrwng Gymraeg gyda 6 dosbarth.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Jeffrey Harries (14 Ebrill 2010). Adroddiad Adolygiad Ysgol Gynradd Gymunedol Aberteifi, 8 Chwefror 2010. Estyn. Adalwyd ar 19 Awst 2011.