Apenninau
(Ailgyfeiriad o Appenninau)
Mynyddoedd yn yr Eidal yw'r Apenninau (Eidaleg: Appennini; Lladin: Appenninus, Groeg: Απεννινος). Maent yn ymestyn ar hyd gorynys yr Eidal, o'r gogledd i'r de, am 1000 km, yn weddol agos i'r arfordir dwyreiniol. Carreg galch ydynt gan mwyaf yn ddaearegol.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Gwlad | Yr Eidal |
Uwch y môr | 2,912 metr |
Cyfesurynnau | 42.4692°N 13.5656°E |
Hyd | 1,200 cilometr |
Fe'i rhennir fel rheol yn Apenninau Gogleddol, Apenninau Canolog ac Apenninau Deheuol. Ceir y copa uchaf yn yr Apenninau Canolog, y Gran Sasso d'Italia (2,912 m). Ceir rhywfaint o fforestydd ar eu llethrau, er bod y rhain yn llai nag yn y cyfnod clasurol.