Ar Log

band Cymraeg

Grŵp cerddoriaeth gwerin o Gymru yw Ar Log.

Goreuon Ar Log, clawr albwm
Goreuon Ar Log, clawr albwm

Sefydlwyd y grŵp yn 1976, gyda Dave Burns (gitar), Dafydd Roberts (telyn deires, ffliwt), Gwyndaf Roberts (telyn ben glin a gitar bâs) a Iolo Jones (ffidil). Daethpwyd a hwy at ei gilydd gan Fwrdd Twristiaeth Cymru, oedd yn awyddus i gael grŵp yn perfformio cerddoriaeth werin draddodiadol Cymru yn Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient y flwyddyn honno. Yno, daethant i gysylltiad a'r grŵp Gwyddelig The Dubliners, a awgrymodd y dylent aros gyda'i gilydd a throi'n broffesiynol.

Mae aelodau'r grŵp wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd. Yn y 1980au roedd ganddynt gysylltiad agos a Dafydd Iwan, a buont ar ddwy daith gydag ef yn 1982 a 1983. Roedd y gyntaf, Taith 700, yn nodi 700 mlwyddiant marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1282.

Mae Ar Log wedi rhyddhau 1 sengl, 9 albwm a 3 casgliad o 1978 i 2024. Hefyd, mae Ar Log wedi rhyddhau 2 sengl, 2 albwm ac 1 casgliad gyda Dafydd Iwan o 1982 i 2022.

Disgyddiaeth

golygu

Senglau

golygu
Enw Blwyddyn Label
The Carmarthen Oak 1980 Dingle's Records

Albymau

golygu
Enw Blwyddyn Label
Ar Log 1978 Dingle's Records
Ar Log II 1980 Dingle's Records
Ar Log III 1981 Dingle's Records
Meillionen 1983 Dingle's Records
Pedwar IV 1984 Recordiau Ar Log
Ar Log V 1988 Sain
Ar Log VI 1996 Sain
Saith VII 2018 Sain
Y Ddwy Chwaer/The Two Sisters 2024 Sain
Ar Log VIII 2026 Sain

Casgliadau

golygu
Enw Blwyddyn Label
o IV i V 1991 Sain
Ar Log: I-III: 1976-1981 2001 Sain
Goreuon Ar Log 2007 Sain
Enw Blwyddyn Label Math
Cerddwn Ymlaen 1982 Sain Sengl
Rhwng Hwyl a Thaith 1982 Sain Albwm
Yma o Hyd 1983 Sain Albwm
Rhwng Hwyl a Thaith ac Yma o Hyd 1993 Sain Casgliad
Yma o Hyd - Cwpan y Byd (Gyda "Y Wal Goch") 2022 Sain Sengl

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato