Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant

Gŵyl flynyddol o gerddoriaeth a diwylliant Celtaidd a gynhelir yn ninas An Oriant (Ffrangeg: Lorient) yn Llydaw yw Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant (Ffrangeg: Festival Interceltique de Lorient; Llydaweg: Gouelioù Etrekeltiek An Oriant). Sefydlwyd yr ŵyl yn 1971.

Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant
Enghraifft o'r canlynolgŵyl gerddoriaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1970 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth Celtaidd Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
RhanbarthAn Oriant Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.festival-interceltique.bzh Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gilles Servat ar y llwyfan
Bagad Lann-Bihoué yn y Porth Pysgod
Yr Orymdaith Fawr

Cynrychiolir Llydaw, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Yr Alban, Ynys Manaw, Ynys Cape Breton, Galicia ac Asturias; felly mae diffiniad yr ŵyl o wlad Geltaidd ychydig yn ehangach na diffiniad yr Undeb Celtaidd er enghraifft. Cynhelir y rhan fwyaf o'r digwyddiadau ynghanol dinas Lorient, gyda'r digwyddiadau mwyaf yn stadiwm clwb pêl-droed FC Lorient.

Agorir yr ŵyl gyda'r Kaoteriad, swper bwyd môr traddodiadol Lydewig ac, ar y Sul, mae'r Orymdaith Fawr yn arwain trwy'r ddinas.

Mae 2008 wedi ei dynodi fel "Blwyddyn Cymru". Cynhelir yr ŵyl o 1 Awst hyd 10 Awst 2008 gyda bandiau Cymreig Calan; Carreg Lafar; Clerorfa; Crasdant; Catrin Finch; Ffynnon; Meinir Heulyn; Hen Wlad Fy Mamau; Yr Hwntws, Delyth Jenkins, Bethan Nia; Lleuwen Steffan; MC Mabon; Rag Foundation; a Toreth yn chwarae. Hefyd mae'r Chieftains (Iwerddon); Nolwenn Korbell (Llydaw); Loreena McKennitt (Canada) a Moving Heart (Iwerddon) yn berfformio.

Rhai o'r artistiaid a gymerodd ran yn 2007 oedd: Dan Ar Braz (Llydaw); Capercaillie (Yr Alban); The Dubliners (Iwerddon); Delyth Jenkins (Cymru); Luar na Lubre (Galicia); Y Moniars (Cymru); a Sinéad O'Connor (Iwerddon).

Yn 2022 gwelwyd perfformiadau gan grwpiau Cymaeg megis Alffa, Avanc, Cerys Hafana, Lily Beau, NoGood Boyo, Only Boys Aloud a Gwilym Bowen Rhys.[1] Fel rhan o'r cyfnod bu iddo recordio ffilmig gyda sianel gerddoriaeth ar-lein S4C, Lŵp, gyda'r actor o Lydaw, Azenor Kallag, yn cymharu geiriau Cymraeg a Llydaweg. Bu i'r ffilm fer dderbyn ymateb dda a llawer yn ei rannu.[2]

Nid dim ond Cerddoriaeth golygu

Yn ogystal â cherddoriaeth a dawns, ceir peth trafodaethau a sgyrsiau mwy deallusol ar natur hunaniaethau a'r ieithoedd Celtaidd. Yn 2023 bu i Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru annerch yr ŵyl i drafod strategaeth miliwn o siaradwyr Cymraeg y Llywodraeth.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. {{cite web |url=https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/cymru-yn-dychwelyd-i-ddathliad-mwyaf-y-byd-o-ddiwylliannau-celtaidd |title=Cymru yn dychwelyd i ddathliad mwyaf y byd o ddiwylliannau Celtaidd |publisher=[[Cyngor Celfyddydau Cymru |access-date=10 Awst 2022}}
  2. "Dysgu 'chydig o Lydaweg yn @FESTIVALLORIENT, gyda @GwilymBowenRhys & Azenor 🌍 #Celtic #Welsh #Breton!". TikTok Lŵp S4C. Cyrchwyd 15 Awst 2022.
  3. "Ministr kentañ Kembre : 1 million a Gembraiz o kaozeal yezh ar vro e 2050". TV Bro Kemperle. 17 Awst 2023.

Dolenni allanol golygu