Ar fy ffordd wrth fynd i Rymni

Cân werin draddodiadol yw Ar fy ffordd wrth fynd i Rymni (ceir hefyd Ar y ffordd wrth fynd i Rymni).

Ar fy ffordd wrth fynd i Rymni
Math o gyfrwnggwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata

Cofnodwyd y dôn a'r pennill cyntaf am y tro cyntaf mewn casgliad o ganeuon gwerin a gyflwynwyd ar gyfer Eisteddfod 1910 ym Mae Colwyn. Roedd y caneuon hyn wedi'u casglu yn Nyffryn Aeron ac yn yr ardal o gwmpas Talysarn.

Mae'r gân Ar fy ffordd wrth fynd i Rymni yn disgrifio taith ddifyr i Rymni yng Nghymoedd De Cymru. Mae'r penillion yn facaronig mewn natur, wedi eu gosod bob yn ail - yn Gymraeg a Saesneg.[1]

Pennill gyntaf y gân:[2]

Ar y ffordd wrth fynd i Rymni
Very-well-a-done, Jim Cro,
Cwrddyd wnes â dyn a mwnci,
Very-well-a-done, Jim Cro,
Yn dod adre yn lled anhwylus,
Very-well-a-done, Jim Cro,
Wedi wado naw o Badis,
Victoria, Victoria,
Very-well-a-done, Jim Cro,

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ar Y Ffordd wrth Fynd i Rymni". Peoples Collection Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-16.
  2. "Mwy o Dribannau a Cherddi Eraill am ein Hardal" (PDF). Papur Bro CwmNi. 2021. t. 3. Cyrchwyd 14 Chwefror 2024.