Iaith macaronig

Llenyddiaeth, cerddoriaeth neu iaith lafar sy'n cymsygu ieithoedd yn yr un frawddeg.

Iaith macaronig yw unrhyw fynegiant sy'n defnyddio cymysgedd o ieithoedd,[1] yn enwedig geiriau dwyieithog neu sefyllfaoedd lle mae'r ieithoedd yn cael eu defnyddio fel arall yn yr un cyd-destun (yn hytrach na bod segmentau arwahanol o destun mewn ieithoedd gwahanol yn unig). Mae geiriau hybrid i bob pwrpas yn "facaronig yn fewnol". Mewn iaith lafar, mae newid côd yn defnyddio mwy nag un iaith neu dafodiaith o fewn yr un sgwrs.[2]

Iaith macaronig
Enghraifft o'r canlynolstylistic device Edit this on Wikidata
Mathiaith Edit this on Wikidata
Paul Fürst, Der Doctor Schnabel von Rom. Engrafiad copr o Doctor Schnabel [h.y. "Dr Pigyn"], meddyg pla yn Rhufain 17g, gyda cherdd facaronig ddychanol Lladin ac Almaeneg (‘Vos Creditis, als eine Fabel, / quod scribitur vom Doctor Schnabel’).
Clawr albwm 'Gwentian' gan fand gwerin Yr Hwntws sy'n canu caneuon macaronig fel Bachgen Bach o Dincer a Chân Merthyr

Ceir enghreifftiau o iaith macaronig yn y Gymraeg ers canrifoedd ac enghreifftiau lu mewn llenyddiaeth, dramâu, canu gwerin a chanu cyfoes Cymraeg o iaith macaronig. Gellir trafod pryd bod iaith macaronig yn Gymraeg yn llifo i'r hyn a elwir yn Wenglish neu "Cymraeg sathredig" a dirywiad iaith.

Etymoleg golygu

Daw'r gair "macaronig" o'r macaronicus Lladin Newydd, sy'n dod o'r maccarone Eidalaidd, neu "twmplen", sy'n cael ei ystyried yn fwyd gwerinol bras. Mae'n ddirmygus ar y cyfan ac fe'i defnyddir pan fydd gan gymysgu ieithoedd fwriad neu effaith ddoniol neu ddychanol ond fe'i cymhwysir weithiau at lenyddiaeth cymysgiaith fwy difrifol.

Mae Lladin Macaronic yn arbennig yn jargon cymysg sy'n cynnwys geiriau brodorol sy'n rhoi terfyniadau Lladin neu eiriau Lladin wedi'u cymysgu â'r frodorol mewn pastiche.

Hanes golygu

Dichon bod elfen o iaith macaronig wedi bod yn rhan o unrhyw broses mewn shifft ieithyddol a dirywiad iaith. Gellir ei chofnodi yn Ewrop drwy sylwi ar y defnydd o ieithoedd frodorol yn cropian fewn i destunau yn yr iaith Ladin, sef prif iaith ysgrifenedig yr Oesoedd Canol. Gwelir hyn mewn ieithoedd a ddatblygodd o'r iaith Ladin, lle'r oedd yr awdur, o bosib heb fod yn ymwybodol neu'n hyddysg yn y gwahaniaeth rhwng Lladin a'i iaith Ladin newydd (yr hyn a ddaeth yn Eidaleg, Ffrangeg ayyb) ac ieithoedd a ddatblygodd yn annibynnol o'r Lladin e.e. Cymraeg, Iseldireg, Saesneg.

Geiriau Lladin-gwerinol cymysg yn Ewrop yr Oesoedd Canol golygu

Mae’n debyg bod testunau a oedd yn cymysgu Lladin ac iaith frodorol yn codi ledled Ewrop ar ddiwedd yr Oesoedd Canol — cyfnod pan oedd Lladin yn dal i fod yn iaith waith ysgolheigion, clerigwyr a myfyrwyr prifysgol, ond yn colli tir i frodorol ymhlith beirdd, gweinidogion a storïwyr.

Ceir enghraifft gynnar o 1130, yn llyfr Efengyl Abaty Munsterbilzen. Mae'r frawddeg ganlynol yn cymysgu Hen Iseldireg hwyr a Lladin:

Tesi samanunga oedd edele unde scona
et omnium virtutum pleiter plenater

A Gyfieithu: "Yr oedd y gymydogaeth hon yn fonheddig a phur, ac yn gwbl lawn o bob rhinwedd".

Mae'r Carmina Burana (a gasglwyd c.1230) yn cynnwys nifer o gerddi sy'n cymysgu Lladin ag Almaeneg neu Ffrangeg Canoloesol. Enghraifft adnabyddus arall yw pennill cyntaf y garol enwog In Dulci Jubilo, yr oedd ei fersiwn wreiddiol (a ysgrifennwyd tua 1328) â Lladin wedi'i chymysgu ag Almaeneg, gydag awgrym o Roeg. Er bod gan rai o'r gweithiau cynnar hynny fwriad doniol clir, mae llawer yn defnyddio'r gymysgedd iaith i greu effaith delynegol.

Iaith Macaronig Cymraeg golygu

 
Meredydd Evans a gofnododd gân facaronig Bachgen Bach o Dincer wedi iddo glywed Ifan O. Williams yn ei chanu

Ceir enghreifftiau mynych o iaith macaronig mewn cyd-destun Gymraeg fel arfer gyda Saesneg yn iaith arall. Datblygodd caneuon macaronig yn ystod y chwyldro diwydiannol pan unodd Cymry Cymraeg â gweithwyr mudol i ffurfio caneuon dwyieithog.[3]

Cerddoriaeth Gwerin golygu

Gwelir elfennau o eiriau macaronig mewn canu gwerin Cymraeg o'r 19g.

  • Bachgen Bach o Dincer - Cofnodwyd y gân hon gan Meredydd Evans wedi iddo glywed Ifan O. Williams yn ei chanu, a gasglodd hi gan hen ŵr ym Mhenmaenmawr
  • Cân Merthyr cân werin am ddyn sy'n briod â gwraig sy'n ei reoli ac yn pennu i ble mae'n mynd, wedi'i arfogi â lletwad cawl pren, yn gwrthod rhoi tybaco iddo ac yn bwyta'r cig tra'n ei orfodi ef i fwyta cawl. Caiff y gân ei chanu gan sawl grŵp gwerin Cymreig gan gynnwys Yr Hwntws, Pigyn Clust a Meredydd Evans:[4]
Ye lads all thro' the country,
Gwrandewch ar hyn o stori. x2
You better go dros ben y graig x2
Then go with gwraig i'r gwely.
My wife did send me waerad
Down to the River Deifad.x2
I told her I wouldn't go, x2
She knock me with the lletwad.
My wife did send me i weithio
Without a bit of bacco; x2
She got plenty in the house x2
Ni chawn i ounce ohono.
My wife did go to dinner,
Cig moch a phalfais wether; x2 [ysgwydd oen]
She eat the cig, give me the cawl, x2
A dyna' i chi ddiawl o bardner.
Ar y ffordd wrth fynd i Rymni
Very-well-a-done, Jim Cro,
Cwrddyd wnes â dyn a mwnci,
Very-well-a-done, Jim Cro,
Yn dod adre yn lled anhwylus,
Very-well-a-done, Jim Cro,
Wedi wado naw o Badis,
Victoria, Victoria,
Very-well-a-done, Jim Cro,

Cerddoriaeth Pop Cymraeg golygu

Ceir enghreifftiau lu o ganeuon gyda geiriau macaronig mewn canu Roc Cymraeg a'r Sîn Roc Gymraeg. Mae'r defnydd o'r Saesneg mewn caneuon Cymraeg yn adlewyrchiad nid o ddiffyg rhuglder siaradwyr Cymraeg yn y Saesneg, sef, efallai'r rheswm dros ganeuon macaronig yn 19g, ond yn hytrach, efallai, bwriad i gyrraedd cynulleidfa nad sy'n rhugl yn y Gymraeg (yn hytrach nag nid yn rhugl yn y Saesneg). Efallai, hefyd, bod elfen o wrthryfela yn erbyn yr hyn a dybir yn rheolau iaith.

Un enghraifft ymysg llawer o ganeuon macaronig yw caneuon yr artist Sage Todz. Mae ei gân Rownd a Rownd[7] yn ddwyieithog a chyfyd y cwestiwn pryd mae cân, neu darn o waith, yn ddwyieithog yn hytrach na macaronig?

Pennill gyntaf Rownd a Rownd

Ma'n dod rhy hawdd, dwi'm yn son am TGAU, pan dwi'n :deud bo fi'n ace’ior prawf
Cadw bol and dwylo’n llawn
Nofio drwy’r casineb heb y poen dwi'n anghyflawn
Eisau’r cerddi chwyddo’n fawr, gwylia fi fel rownd a rownd
Life goes round and round
Some of the biggest talents have grown up in the smallest towns
You're only finding diamonds, when your face is in the ground
Grimey scenes means grimey sounds
Angen pres sy’n dod cyfiawn
Angen pres sy’n dod cyfiawn

Cyfeiriadau golygu

  1. "Macaronic". Oxford Dictionary of English. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 October 2015.
  2. "Definition of Macaronic". dictionary.reference.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 April 2012. Cyrchwyd 12 June 2012.
  3. "Ten of the best: A history of Welsh folk music tradition". BBC News (yn Saesneg). 2013-10-24. Cyrchwyd 2022-04-27.
  4. "Calenick​ C​â​n Merthyr Map Rus". Iona Celtic Music. Cyrchwyd 14 Chwefror 2024. zero width space character in |title= at position 9 (help)
  5. "Ar Y Ffordd wrth Fynd i Rymni". Peoples Collection Wales. Cyrchwyd 2024-02-14.
  6. "Mwy o Dribannau a Cherddi Eraill am ein Hardal" (PDF). Papur Bro CwmNi. 2021. t. 3. Cyrchwyd 14 Chwefror 2024.
  7. "Rownd a Rownd". Lŵp. 1 Ebrill 2022.

Dolenni allanol golygu