Ewrop: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Gwrthdröwyd Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 4:
 
Un o'r saith [[cyfandir]] yw '''Ewrop'''. Mae o'n gyfandir o safbwynt [[daearyddiaeth ddynol|diwylliannol a gwleidyddol]] yn hytrach nag o ran [[daearyddiaeth ffisegol]]. Yn ffisegol ac yn [[daeareg|ddaearegol]], mae Ewrop yn [[isgyfandir]] neu'n [[penrhyn|benrhyn]] mawr, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf gorllewinol o [[Ewrasia]]. Tua'r gogledd ceir [[Cefnfor yr Arctig]], i'r gorllewin [[Cefnfor Iwerydd]] ac i'r de ceir y [[Môr Canoldir]] a'r [[Cawcasws]]. Mae ffin Ewrop i'r dwyrain yn amhendant, ond yn draddodiadol ystyrir [[Mynyddoedd yr Wral]] a [[Môr Caspia]] i'r de-ddwyrain fel y ffin dwyreiniol. Ystyrir y mynyddoedd hyn gan y rhan fwyaf o ddaearyddwyr fel y tirffurf daearyddol a thectonig sy'n gwahanu [[Asia]] oddi wrth Ewrop.
 
[[File:Sentiero_del_Viandante_DSC_6340_(14020554463).jpg|thumb|Y golygfa fwyaf eiconig o Lyn Como o [[Sentiero del Viandante]] yn [[Lierna]] sy'n edrych tuag at Bellagio]]
 
Ewrop yw'r cyfandir lleiaf ond un yn nhermau [[arwynebedd]], ac mae ganddo tua 10,790,000 km² (4,170,000 mi sg) neu 7.1% o arwynebedd y [[Daear|Ddaear]], gydag [[Awstralia]] yn unig yn llai na hi. Yn nhermau [[poblogaeth]], dyma'r trydydd cyfandir mwyaf (mae poblogaeth [[Asia]] ac [[Affrica]] yn fwy). Mae gan Ewrop boblogaeth o {{Poblogaeth WD}}, neu tua 11% o boblogaeth y byd.