Shwmae, Craigysgafn! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. | Welcome message in English | ||
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma. | |||
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 132,509 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg. | |||
Y Caffi Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia. |
Cymorth Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia. | ||
Porth y Gymuned Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth sydd angen gwneud yma. |
Golygu ac Arddull Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau. | ||
Hawlfraint Y rheolau hawlfraint yma. |
Cymorth iaith Cymorth gyda'r iaith Gymraeg. | ||
Polisïau a Chanllawiau Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned. |
Cwestiynau Cyffredin Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr. | ||
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial, a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio. |
Y Pum Colofn Egwyddorion sylfaenol y prosiect. | ||
Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".
|
CroesoGolygu
Braf dy weld yn golygu Wicipedia Cymraeg a chroeso atom. Cofia fod gennym ni, ers tro bellach, reol fod yn rhaid i'r erthyglau fod o leiaf dwy baragraff o hyd, gyda gwybodlen neu tabl. Wnei di ehangu'r rhai hynny ti wedi eu creu os gweli di yn dda. Mae dyfnder neu 'depth' yr erthyglau yn cael ei fesur, ac ar hyn o bryd mae'r Gymraeg yn reit uchel ar y rhestr. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:51, 8 Mawrth 2017 (UTC)
- Cytuno'n llwyr! Achos heddiw oedd Diwrnod Rhyngwladol y Merched roeddwn i eisiau i gychwyn nifer o erthyglau ar gyfansoddwyr benywaidd er mwyn ei ddathlu. Dw i'n bwriadu gwneud mwy i nhw yn fuan! Craigysgafn (sgwrs) 21:56, 8 Mawrth 2017 (UTC)
DiolchGolygu
Yes, you won't be able to do deletions until you become an administrator but that can't be far off if you stay with us a bit longer. Deb (sgwrs) 12:02, 10 Ebrill 2017 (UTC)
Gwybodlen llyfrGolygu
That's very odd. I looked at it but I can't see anything different about it. Llywelyn 2000 is more likely to be able to diagnose it than I am. Deb (sgwrs) 18:18, 12 Mai 2017 (UTC)
You are invited!Golygu
You are invited... | |
---|---|
The Celtic Knot: Wikipedia Language Conference - Programme now live.
|
Stinglehammer (sgwrs) 22:37, 22 Mai 2017 (UTC)
Sefydlu grwp swyddogol Wikimedia CymruGolygu
Rhag ofn na welais ti'r sgwrs - mae cais di neud i ffurfio grwp swyddogol fel y Basgiaid. Beth am ychwanegu dy sylwadau? Wicipedia:Y Caffi#Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:17, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
Bendigedig!Golygu
Carwn, yn syml, nodi fy ngwerthfawrogiad o'th waith caled, cyson a phwysig ar Wicipedia. Rhois drefn ar y manion dibwys, pwysig! Gwych iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:38, 23 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Diolch, Robin. Mae hynny'n golygu llawer i mi. Ar hyn o bryd, dw i ddim yn gallu dweud fy meddwl i yn y Gymraeg fel yr hoffwn. (Ond dw i'n gwella yn gyflym!) Dw i ddim yn gallu ysgrifennu'r math o erthyglau estynedig sydd eu hangen. Felly, am y tro, dw i wedi penderfynu cyfrannu drwy wneud llawer o welliannau bychain. Bydda i'n cadw 'nhrwyn ar y maen! --Craigysgafn (sgwrs) 14:18, 23 Gorffennaf 2017 (UTC)
Golygiadau bachGolygu
Helo David. Diolch am dy holl waith cywiro. Os wyt ti'n gwneud cywiriadau bach fel cywiro sillafu, dolenni neu gywiro fformat ydi'n bosib i ti nodi nhw fel "golygiad bychan". Mae'n llawer haws hidlo nhw allan wedyn o'r rhestr faith o olygiadau sy'n cael eu gwneud. Diolch! --Dafyddt (sgwrs) 10:57, 26 Gorffennaf 2017 (UTC)
- Diolch, Dafydd. Bydda i'n ceisio cofio i wneud hynny. --Craigysgafn (sgwrs) 17:30, 26 Gorffennaf 2017 (UTC)
Dolen GwalesGolygu
Haia. Yn dy olygiad o Stagio Dre, dw i ddim yn siwr pam dy fod wedi newid y ddolen a oedd yn mynd i'r wybodaeth Gymraeg ar Gwales i -> ddolen i'r wybodaeth Saesneg? Llithriad bach yn siwr o fod? Gyda llaw, mae na lawer o wybodaeth y gelli ei gopio o wefan Gwales, gan eu bod wedi rhoi'r hawl i ni wneud hynny. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:26, 28 Awst 2017 (UTC)
- Mae'n ddrwg gen i! Diolch am sylwi ar hynny! Na, doeddwn i ddim yn bwriadu newid i fersiwn Saesneg y dudalen. Roeddwn i'n ceisio symleiddio'r URL i dudalen Gwales, ac wnes i ddim sylweddoli bod hyn yn arwain i'r fersiwn Saesneg. Beth bynnag, bydda i'n mynd yn ôl i ddiwygio'r dudalen yn y ffordd yr oeddwn i'n bwriadu. Dw i'n gobeithio y bydd hyn yn iawn. --Craigysgafn (sgwrs) 08:43, 28 Awst 2017 (UTC)
Hlo Brian! :)Golygu
For a moment there, I nearly mistook you for a vandal! :-) Deb (sgwrs) 13:31, 8 Medi 2017 (UTC)
- Yes, well. It was a bit of a puzzler to figure out how to name the article. This might be why it wasn't created 3 years ago when the image was uploaded from Gwales. ;-) --Craigysgafn (sgwrs) 14:54, 8 Medi 2017 (UTC)
Gair o werthfawrogiadGolygu
Dim ond gair sydyn i ddweud fy mod yn gwerthfawrogi'n fawr y gwaith rwyt yn ei wneud - y manion, dibwys, pwysig! Rwyt ti'n llnau llawer o bethau y dylwn fod wedi'u gwneud! Pe baet yn nes, mi brynwn baned i ti, neu beint! Wel gwely pia hi rwan. Nos da, a diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 23:47, 19 Hydref 2017 (UTC)
- Diolch, Robin. Efallai y byddwn ni'n cael y cyfle i gwrdd cyn bo hir! Ar ôl hanner can mlynedd o fyw fel Cymro ar wasgar, dw i'n dod adre. Mae fy ngwraig Jenny a finnau'n bwriadu symud i Aberystwyth. Fe wnaethon ni roi ein tŷ yma ar werth ddoe. Rydym ni'n gyffrous iawn! --Craigysgafn (sgwrs) 10:16, 20 Hydref 2017 (UTC)
Metropol... MetroGolygu
Rwyt ti'n gywir yn ramadegol gyda 'Sir fetropolitanaidd yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr yw...' ond efallai y daw dydd y bydd y Gymraeg yn fwy llithrig, yn ddigon ystwyth i ddweud 'Sir fetro yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr yw...' ond byddai angen erthygl yn egluro beth yw 'metropolitania' a bod 'fetropolitan' = 'metro' (!) cyn y gallem wneud hynny! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:09, 6 Tachwedd 2017 (UTC)
- Diolch am dy gyngor. Does gen i ddim barn am y derminoleg. Mae'n anodd dod o hyd i'r pethau hyn. Mi wnes i gael "sir fetropolitanaidd" o ddogfen swyddogol Llywodraeth y DU. --Craigysgafn (sgwrs) 11:47, 6 Tachwedd 2017 (UTC)
CroestyGolygu
nos da ... rwy'n gweithio yn y wici llydaweg ... dwi ddin yn gallu ffeindio rhai geiriai yn fy ngeiriadur : beth ydy croesty yn gymraeg? Bianchi-Bihan (sgwrs) 22:14, 18 Tachwedd 2017 (UTC)
- Ar ôl y Geiriadur Prifysgol Cymru, "croesty" = "Tŷ croes, tŷ a darnau croes iddo, tŷ’n sefyll yn groes i dai eraill; adeilad croesffurf; ystafell yn taflu allan o ystlys tŷ; capel a chroes ynddo" / "house having parts standing athwart or crosswise, house standing crosswise to other houses; cruciform building; chapel containing a crucifix". Ond dw i ddim yn arbenigwr ar y pwnc hwn! --Craigysgafn (sgwrs) 23:20, 18 Tachwedd 2017 (UTC)
Diolch yn fawr : dyna'r Geiriadur rwi eisau cael , yntefe? Bianchi-Bihan (sgwrs) 09:08, 19 Tachwedd 2017 (UTC)
- Croeso! Mae'r Geiriadur Prifysgol Cymru ar gael am ddim ar-lein. --Craigysgafn (sgwrs) 10:30, 19 Tachwedd 2017 (UTC)
RequestGolygu
Can you expand the articles I created and edited? Thanks. Also, some like Liv and Maddie, Charlotte's Web (ffilm 1973), and Charlotte's Web 2: Wilbur's Great Adventure need help with the translations. 2602:306:83A9:3D00:A8A4:6254:D4D2:E18D 23:28, 26 Rhagfyr 2017 (UTC)
Golygu
Hello! The Wikimedia Foundation is asking for your feedback in a survey. We want to know how well we are supporting your work on and off wiki, and how we can change or improve things in the future. The opinions you share will directly affect the current and future work of the Wikimedia Foundation. You have been randomly selected to take this survey as we would like to hear from your Wikimedia community. The survey is available in various languages and will take between 20 and 40 minutes.
You can find more information about this survey on the project page and see how your feedback helps the Wikimedia Foundation support editors like you. This survey is hosted by a third-party service and governed by this privacy statement (in English). Please visit our frequently asked questions page to find more information about this survey. If you need additional help, or if you wish to opt-out of future communications about this survey, send an email through the EmailUser feature to WMF Surveys to remove you from the list.
Thank you!
Golygu
Every response for this survey can help the Wikimedia Foundation improve your experience on the Wikimedia projects. So far, we have heard from just 29% of Wikimedia contributors. The survey is available in various languages and will take between 20 and 40 minutes to be completed. Take the survey now.
If you have already taken the survey, we are sorry you've received this reminder. We have design the survey to make it impossible to identify which users have taken the survey, so we have to send reminders to everyone. If you wish to opt-out of the next reminder or any other survey, send an email through EmailUser feature to WMF Surveys. You can also send any questions you have to this user email. Learn more about this survey on the project page. This survey is hosted by a third-party service and governed by this Wikimedia Foundation privacy statement. Thanks!
Your feedback matters: Final reminder to take the global Wikimedia surveyGolygu
Hello! This is a final reminder that the Wikimedia Foundation survey will close on 23 April, 2018 (07:00 UTC). The survey is available in various languages and will take between 20 and 40 minutes. Take the survey now.
If you already took the survey - thank you! We will not bother you again. We have designed the survey to make it impossible to identify which users have taken the survey, so we have to send reminders to everyone. To opt-out of future surveys, send an email through EmailUser feature to WMF Surveys. You can also send any questions you have to this user email. Learn more about this survey on the project page. This survey is hosted by a third-party service and governed by this Wikimedia Foundation privacy statement.
Enwau gwledyddGolygu
Dwi'n sylwi fod nifer o ddoleni pêl-droed wedi eu newid er mwyn newid sillafiadau'r gwledydd. Tydw i ddim yn siwr am nifer fawr o'r sillafiadau newydd a bod yn hollol onest - oes 'na restr safonol o'r enwau dylid eu defnyddio? Blogdroed (sgwrs) 11:33, 7 Gorffennaf 2018 (UTC)
- Dw i wedi bod yn ceisio gwneud sillafu enwau gwledydd yn fwy cyson. Dros y blynyddoedd, defnyddiwyd pob math o amrywiadau. Ro'n i'n dod o hyd pethau fel "Fietnam", "Vietnam", "Viet Nam", "Fiet Nam", "Fiet-nam" mewn amrywiol erthyglau; gredais i ddim bod amrywiadau o'r math hwn o gymorth i unrhyw un. Felly, dw i wedi newid cyfeiriadau i gyfateb i deitl y brif erthygl am y wlad dan sylw. Ar ben hynny, mae 'na'r erthygl Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg, sy'n rhestru'r amrywiadau a'r "Fersiwn Wicipedia". Dyna'r "restr safonol" mae'n debyg.
- Wel, dyna'r syniad. Ro'n i eisiau tacluso ychydig. Do'n i ddim yn bwriadu cyflwyno unrhyw enwau "newydd". Mae'n llawer o waith, ac mae llawer i'w wneud o hyd. Mae'n bosibl fy mod i wedi gwneud camgymeriadau yn rhywle wrth gwrs. Hefyd mae'n bosib bod rhai dewisiadau gwael wedi cael eu gwneud ar gyfer enwau gwledydd yn y prif erthyglau. (Dw i ddim yn gwybod: do'n i ddim yn gwneud y dewisiadau hynny.)
- Pa enwau gwledydd yn arbennig wyt ti'n meddwl yn achosi problemau? Gad i ni geisio eu datrys. Craigysgafn (sgwrs) 22:08, 7 Gorffennaf 2018 (UTC)
Help plis!Golygu
Helo! Tybed a wnei di ystyried rhoi chydig o help i mi. Mae angen rhoi'r wybodlen newydd ar bob erthygl sydd a geotag ee pentrefi, cromlechi, afonydd... Ond efallai fod gen ti dy agenda! Byddai'n help mawr! 3 ohonom sydd wrthi, ac mae na filoedd! Sian EJ (sgwrs) 11:31, 11 Rhagfyr 2018 (UTC)
Croeso nol!Golygu
Haia gyfaill a chroeso nol! Gobeithio i ti gael seibiant gwerth chweil!
Yn dy absenoldeb, mi ffindiais ffordd o ychwanegu 'Ardaloedd' (Districts) ac 'Awdurdodau Unedol' (unitary Authorities) ar drefi a phentrefi Lloegr, felly cymer olwg ar Categori:Ardaloedd An-fetropolitan.
Mi ddechreuais drwy gategoreiddio pob pentref, gan eu cymryd o'r categori cyferbyniol ar enwici. Ond, mae llawer ar goll! Felly dw i'n gwneud rhai gyda llaw, gan ei casglu o'r erthygl gyfaerbyniol ar enwici (er nad ydy'r cats yn y fan honno). Dw i ddim yn poeni'n ormodol am y rhai sydd ar goll, gan y gallem eu hychwanegu unrhyw dro - dim ond i ni gael gafael ar restrau ohonyn nhw, a defnyddio AWB i'w gosod. Rho wybod os ti'n gweld problem, neu os oes gen ti syniad dut i'w datblygu / gwella.
ON Cymer olwg ar Wicipedia:WiciBrosiect Arabeg hefyd, efallai yr hoffet sgwennu erthygl neu ddwy? Cofion.... Llywelyn2000 (sgwrs) 10:50, 17 Ebrill 2019 (UTC)
- @Llywelyn2000: Diolch am dy gyfarchiad. Ydw, dw i'n ôl! Ces i broblemau cyfrifiadurol cyn y Nadolig, felly allwn i ddim cysylltu â Wicipedia am dipyn bach. Ac yna digwyddodd pethau eraill ... Beth bynnag, dyma fi.
- Diolch am dy waith ynghylch Lloegr. Tasg Sisyffos erchyll! Bydda i'n edrych ar y pethau hyn. I'r gad! --Craigysgafn (sgwrs) 11:54, 17 Ebrill 2019 (UTC)
- Sisyffos!!! Da ni dal ddim wedi cyrraedd y copa eto! Neu fel y dywedodd T.H. efallai, ar ddiwedd y dydd, mai'r garreg ydan ni! Ond wsti be, o leia mae ddiawl o hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:14, 17 Ebrill 2019 (UTC)
Can diolch!Golygu
Diolch am wrthdroi Lynton and Lynmouth, doeddwn i ddim wedi dileu cod Q (Belis!), nad oedd mo'i angen; felly dw i wedi gwneud hynny rwan, ac ar y Nodyn. Dylai weithio ar bob erthygl, pob lle, rwan! Cofion cynnes: Llywelyn2000 (sgwrs) 11:56, 10 Mehefin 2019 (UTC)
- Bore da'r boregodwr! Dyma fideo bach yn dangos sut i roi'r boblogaeth yn Wicidata; yna rhoi'r Nodyn yn yr erthygl i'w alw i fewn. Gobeithio y bydd yn help! Os nad, paid a phoeni: diffyg yn yr athro, nid y disgybl! Cofion... Llywelyn2000 (sgwrs) 05:27, 12 Mehefin 2019 (UTC)
- @Llywelyn2000: Nid bob bore dw i'n codi mor gynnar. Am ryw reswm allwn i ddim cysgu heddiw. Man a man defnyddio'r amser. Diolch am y fideo. Pwy fasai'n meddwl? ... Dw i'n dechrau deall prosesau Wicidata, ond bydd dy diwtorial yn ddefnyddiol! Hwyl! --Craigysgafn (sgwrs) 05:52, 12 Mehefin 2019 (UTC)
- Llwyed o wisgi cyn noshwylio fory! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:28, 12 Mehefin 2019 (UTC)
Polisi 2 baragraffGolygu
Haia gyfaill. Dw i wedi bod yn ceisio dy ddilyn er mwyn ychwanegu'r ail baragraff. Cafwyd sawl trafodaeth am hyn - ac mae'n bolisi gwethredol, er bod angen ei gynnwys yn ein polisiau. Tybed a fedri di ychwanegu ail baragraff (byr hyd yn oed), wrth fynd yn dy flaen? Mae ansawdd yr erthyglau cyn bwysiced a'r nifer, bellach. Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:23, 17 Gorffennaf 2019 (UTC)
- @Llywelyn2000: Diolch! Dwi'n deall eich pryder. Fodd bynnag ...
- (1) Galla i weld pam y daeth rheol 2 baragraff i fodolaeth, ac mae'n ganllaw defnyddiol. Allaf i ddim dod o hyd i'r lle dwedest ti wrtha i amdano y tro cyntaf, tua dwy flynedd yn ôl, ond ro'n i dan yr argraff bod Infobox yn cael ei gyfrif fel paragraff. Dwi wedi bod yn gweithredu ar y sail 'na. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai rhywbeth yn ymddangos yn "Polisïau a" yn "Porth y Gymuned".
- (2) "Mae ansawdd yr erthyglau cyn bwysiced â'r nifer". Dwi'n cytuno'n llwyr. Dwi erioed wedi chwarae'r numbers gêm.
- (3) Mae'r hyn wnest ti gyda Colemore and Priors Dean yn wych. Byddwn i'n caru gwneud hynny gyda'r holl leoedd bach yn Lloegr. Ond dwi'n credu fy mod i wedi bod yn gwneud rhywbeth yr un mor bwysig ac angenrheidiol, sef gwella a chysylltu pethau sydd gynnon ni eisoes yn raddol. Wnes i greu'r erthygl ar gyfer y plwyf sifil 'ma nid achos ro'n i'n meddwl ei fod yn ddarn hanfodol o wybodaeth ynddo'i hun, ond yn hytrach achos ei fod yn ffurfio cysylltiad rhwng dwy erthygl oedd yn bodoli eisoes. Yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth gadarn (a diflas, wrth gwrs), roedd ganddi Gwybodlen, pedwar dolen i erthyglau eraill, dau gategori, a dolen i wefan allanol ddibynadwy. Roedd yn sgil-gynnyrch o'r gwaith tacluso wnes i heddiw.
- Felly heddiw (ymhlith pethau eraill) gweithiais i ar (dwi'n meddwl) 38 erthygl am leoedd yn Hampshire, gan ychwanegu a chywiro gwybodaeth. Wnes i olygu nifer go lew o'r tudalennau Wicidata cyfatebol, gan ychwanegu a chywiro gwybodaeth. Fel sgil-gynnyrch, sefydlais i dudalen Gwahaniaethu i wahaniaethu rhwng tri phentref o'r un enw, a chreu dwy dudalen newydd ar gyfer plwyfi sifil i gadw pethau'n daclus.
- (4) Mae fy meistrolaeth ar yr iaith Gymraeg yn gwella'n gyflym, ond mae hyn yn waith caled i mi!! Dwi'n ei wneud e achos mod i'n credu bydd ein gwaith yma yn Wicipedia yn bwysig i ddyfodol ein cenedl. Byddwn i wrth fy modd yn cyfrannu darnau hirach, ac yn y dyfodol bydda i'n gwneud hynny. Ond ar hyn o bryd, dwi'n credu mod i'n gwneud 'nghyfraniad pwysicaf drwy welliannau bychain i gymaint o erthyglau â phosib. Beth bynnag, weithiau dwi'n sbwylio fy hun, ac yn sgwennu pethau mae gen i ddiddordeb gwirioneddol ynddynt, fel Caprys a Pantelleria. --Craigysgafn (sgwrs) 23:08, 17 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Rwyt ti'n gwneud gwaith ardderchog gyfaill; rhad arnaf, yn wir, mefl ar fy marf am fod mor ddigywilydd! Efallai mai'r drwg yw nad oes gen i gymaint a chymaint o amser y dyddiau hyn i wneud y gwaith tŷ hanfodol ar wici yn bennaf oherwydd mod i wedi gwneud cadw'r niferoedd o erthyglau ar fenywod yn flaenoriaeth. Tybed oedd gan Sisiffos ail broblem? Treulio hanner y diwrnod yn ceisio penderfynu pa garreg fyddai nesaf i gael ei gario? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:04, 18 Gorffennaf 2019 (UTC)
GwerthfawrogiadGolygu
Gwerthfawrogiad o'th Waith Arbennig | ||||
Carwn gyflwyno'r seren hon i ti, rhen gyfaill, fel gwerthfawrogiad o'th waith arbennig, a diflino gyda'r manion: y pethau dibwys, pwysig! |
Cyflwyniad personol ydy hwn, ond gwn hefyd y bydd dy waith yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned a'r darllenwyr am flynyddoedd lawer! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:08, 18 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Beth alla'i ddweud? Ti mor garedig. --Craigysgafn (sgwrs) 08:24, 18 Gorffennaf 2019 (UTC)
Charlotte's Web (ffilm 1973)Golygu
On Charlotte's Web (ffilm 1973), there is a redlinked Category (Categori:Ffilmiau animeiddiedig Americanaidd) which needs to be replaced with Categori:Ffilmiau animeiddiedig Saesneg o'r Unol Daleithiau. This category should also replace Categori:Ffilmiau Saesneg. I can't make the change because the article is semi-protected, but you can. Could you fix it please? Also, there could possibly be more information about this movie. It is based on Gwe Gwenhwyfar by E. B. White. That novel and the movies based on it are all about a pig named Wilbur who befriends a spider named Charlotte who saves him from being slaughtered. It is a great story, highly recommended. 2602:306:83A9:3D00:B8B6:FD1A:78E1:904E 17:18, 30 Gorffennaf 2019 (UTC)
- There is another category that could be added to it: Categori:Ffilmiau cerdd Saesneg o'r Unol Daleithiau. It is also a musical film. 2602:306:83A9:3D00:B8B6:FD1A:78E1:904E 22:56, 30 Gorffennaf 2019 (UTC)
Bore da!Golygu
Mae'r tywydd yn braf heddiw! Deb (sgwrs) 09:37, 18 Medi 2019 (UTC)
- Wel, yn wir, mae'n ddiwrnod braf yma yn Aberystwyth. Af i lawr a bwrw golwg ar y môr cyn bo hir. Popeth yn iawn? Craigysgafn (sgwrs) 09:44, 18 Medi 2019 (UTC)
- Da iawn, diolch. Deb (sgwrs) 11:51, 20 Medi 2019 (UTC)
- Mae'n ddydd hyfryd heddiw eto! Dwi'n edrych drwy'r ffenestr ar y môr glas a'r awyr heb gwmwl. Haf Bach Mihangel mewn gwirionedd. Craigysgafn (sgwrs) 12:02, 20 Medi 2019 (UTC)
- Da iawn, diolch. Deb (sgwrs) 11:51, 20 Medi 2019 (UTC)
Diolch am ddileu fandaliaethGolygu
Diolch am ddileu fandaliaeth! Os cytuni, mi awgrymaf dy fod yn cael y gallu i flocio, hefyd? Hynny yw, carwn dy gynnig yn Weinyddwr ar y wici hwn. Rho wybod! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:42, 14 Tachwedd 2019 (UTC)
- @Llywelyn2000: – Byddwn yn falch o wasanaethu'r Wici yn y fath fodd! Diolch. Craigysgafn (sgwrs) 17:48, 14 Tachwedd 2019 (UTC)
- Gweinyddwr
Yn dilyn hyn, a'r cytundeb yn y Caffi, mae gen ti rwan alluoedd Gweinyddwr, sy'n caniatau i ti flocio fandaliaid. Rho wybod os cei drafferth gyda hyn, neu os y byddi angen help. Pob hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:17, 25 Tachwedd 2019 (UTC)
- Diolch yn fawr iawn! Fe wnaf fy ngorau glas! Craigysgafn (sgwrs) 16:05, 25 Tachwedd 2019 (UTC)
Neges o werthfawrogiadGolygu
Gwerthfawrogiad o'th Waith Diflin | ||
Carwn gyflwyno'r seren hon i ti fel gwerthfawrogiad o'th waith diflin a'th ddyfalbarhad wrth olygu'r manion ar erthyglau Wicipedia. |
Trueni weld dy fod yn dewis cael seibiant o Wicipedia. Dos yn ôl yn fuan, mae dy gyfraniadau yn gymeradwy ac yn angenrheidiol. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 11:01, 12 Chwefror 2020 (UTC)
- @Adda'r Yw: Diolch o'r galon am hyn. A diolch hefyd am dy holl gyfraniadu di, sydd wedi fy ysbrydoli. Bydda i'n dychwelyd, ond ar hyn o bryd does dim angen arna i ddadleuon diangen. --Craigysgafn (sgwrs) 11:46, 12 Chwefror 2020 (UTC)
2020-06 blocageGolygu
Bonjour,
Vous savez pourquoi j'ai été bloquée dans la Wikipédia fr ? Visite fortuitement prolongée (sgwrs) 09:47, 12 Mehefin 2020 (UTC)
The Simpsons MovieGolygu
Can you translate the cast into Welsh on The Simpsons Movie? 2600:1700:53F0:AD70:3D15:9CC9:3E1:E65E 22:09, 8 Gorffennaf 2020 (UTC)
Universal Code of ConductGolygu
Hi Craigysgafn
I was asked by Wikimedia Foundation to promote this call for participation on the planned Universal Code of Conduct.
Best regards --Holder (sgwrs) 04:35, 14 Awst 2020 (UTC)
At times, our contributor communities and projects have suffered from a lack of guidelines that can help us together create an environment where free knowledge can be shared safely without fear.
There has been talk about the need for a global set of conduct rules in different communities over time. Recently, Wikimedia Foundation Board of Trustees announced a Community Culture Statement, asking for new standards to address harassment and promote inclusivity across projects. [1]
The universal code of conduct will be a binding minimum set of standards across all Wikimedia projects, and will apply to all of us, staff and volunteers alike, all around the globe.. It is of great importance that we all participate in expressing our opinions and thoughts about UCoC and its values. We should think about what we want it to cover or include and what it shouldn’t include, and how it may create difficulties or help our groups.
This is the time to talk about it. Before starting drafting the code of conduct, we would like to hear from you and to solicit the opinions and feedback of your colleagues.
In order for your voice to be heard, we encourage and invite you to read more about the universal code of conduct (UCoC) [2] and then write down your opinions or feedback on the discussion page [3]. To reduce language barriers during the process, you are welcomed to translate the universal code of conduct english main page into your respective local language [4]. You and your community may choose to provide your opinions/feedback using your local languages.
BywgraffiadGolygu
Ydych chi am i mi ychwanegu mwy o wybodaeth fel nad yw'r bio mor fyr?--Aurelio de Sandoval (sgwrs) 22:13, 25 Awst 2020 (UTC)
Valentin ElizaldeGolygu
Dywedasoch: "Pe gallech chi roi ychydig o frawddegau i ni a fyddai'n esbonio pam y dylai pobl y tu allan i Fecsico gymryd sylw ohono (a'r bobl eraill) yna byddai hynny'n wych!" Wel dylent gymryd sylw oherwydd ei fod yn un o brif arddangoswyr cerddoriaeth Mecsicanaidd, yn ychwanegol at hynny mae'n dechrau cymryd ffyniant eleni (er iddo farw 13 mlynedd yn ôl). Rwy'n gadael y ddolen i'r bywgraffiad gwreiddiol i'r Sbaeneg, mae'n fyr hefyd, dyna pam mai ychydig iawn o wybodaeth a roddais ar Wikipedia yn Gymraeg.https://es.wikipedia.org/wiki/Valent%C3%ADn_Elizalde Mae cerddoriaeth Mecsicanaidd yn dechrau cymryd ffyniant ym mron y byd i gyd, er enghraifft Christian Nodal sef arddangoswr mwyaf cyfredol y gerddoriaeth hon.
GwybodlenGolygu
Rwyf wedi rhoi'r wybodaeth oedd gennych yn y wybodlen ar yr erthygl O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards i fewn i Wicidata. Fel hyn. Caiff ei gadw'n gyfoes. Ychydyg iawn o lyfrau sgwennwyd amdanyn nhw ar Wicipedia eleni. Rhyfedd iawn! Tybed ydy'r hen Govid-19 yma yn fwy o niwsans na phryf llyfrau erbyn hyn! Diolch am eich holl waith ar Wicipedia Cymraeg! Celtica (sgwrs) 05:30, 12 Medi 2020 (UTC)
- Diolch! Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod cymaint o lyfrau Cymraeg ag eitemau WD. (Newydd gymryd golwg yno.) --Craigysgafn (sgwrs) 10:12, 12 Medi 2020 (UTC)
ElizaldeGolygu
Rwyf eisoes wedi ehangu cofiant Valentín Elizalde, os ydych chi am edrych arno https://cy.wikipedia.org/wiki/Valent%C3%ADn_Elizalde --Aurelio de Sandoval (sgwrs) 19:59, 17 Medi 2020 (UTC)
- Diolch am ehangu'r erthygl, sy'n llawer mwy defnyddiol nawr. --Craigysgafn (sgwrs) 21:08, 17 Medi 2020 (UTC)
rhywbethGolygu
Mae defnyddiwr sy ddim wedi golygu ers chwe mlynedd wedi gadael sylw eithaf amheus ar ei dudalen (gwelwch y capsiwn o dan y map o Gymru). A ddylen ni ddileu'r sylw? Sdim llawer o bwynt mewn gofyn iddo fo os neith o ddim ei weld. --Dani di Neudo (sgwrs) 18:54, 30 Hydref 2020 (UTC)
- @Dani di Neudo: Mae defnyddwyr yn rhoi pob math o nonsens ar eu tudalennau eu hunain, a dwy i ddim yn gweld bod angen gwneud unrhyw beth yn yr achos hwn. Yn ei gyd-destun, rwy'n credu bod y map i fod yn ddoniol yn hytrach nag yn sarhaus neu'n wrth-hoyw. Gobeithio nad yw'r peth yn dy ddigio. Os felly, efallai y dylet ti godi'r mater yn Y Caffi. --Craigysgafn (sgwrs) 22:54, 30 Hydref 2020 (UTC)
- Diolch am yr ymateb, ond dw i ddim am ei drafod yn y caffi. Fy mwriad oedd codi'r mater efo defnyddiwr profiadol, ond mewn ffordd mor "low key" â phosib (dyma pam defnyddiais i'r teitl "rhwybeth" er mwyn osgoi tynnu gormod o sylw ato fo). Dw i'n ymwybodol mai hiwmor oedd y bwriad, ond mae'n ymddangos ei fod wedi defnyddio'r gair "hoyw" i olygu "gwael" (gan ddisgrifio pob sir heblaw Casnewydd, o le mae ef yn dod). Felly, dewis diofal/anffodus o ansoddair oedd o (gan ddefnyddiwr oedd yn ei arddegau ar y pryd), er nad yn fwriadol sarhaus yn debygol. Ond os rwyt ti'n teimlo y dylai'r sylw gael ei adael fel y mae, ni af i ddim pellach â'r mater. --Dani di Neudo (sgwrs) 19:57, 4 Tachwedd 2020 (UTC)
- @Dani di Neudo: Diolch. Rwy'n derbyn dy bwynt di am y Caffi. Ond doeddwn i am i ti feddwl fy mod yn hawlio'r gair olaf ar y mater. Pe bai unrhyw un wedi ceisio rhoi’r fath beth ar dudalen erthygl, byddwn i wedi ei ddileu ar unwaith, ac yn ôl pob tebyg wedi blocio’r troseddwr. Ond ar ei dudalen ei hun ...? Sai'n siŵr o gwbl. --Craigysgafn (sgwrs) 20:20, 4 Tachwedd 2020 (UTC)
- Iawn. Os dwyt ti ddim yn siŵr, dw i'n awgrymu i ni adael y peth. 'Sdim angen trafodaeth fawr efo pawb. Diolch am dy amser, hwyl am y tro. --Dani di Neudo (sgwrs) 21:08, 4 Tachwedd 2020 (UTC)
- @Dani di Neudo: Diolch. Rwy'n derbyn dy bwynt di am y Caffi. Ond doeddwn i am i ti feddwl fy mod yn hawlio'r gair olaf ar y mater. Pe bai unrhyw un wedi ceisio rhoi’r fath beth ar dudalen erthygl, byddwn i wedi ei ddileu ar unwaith, ac yn ôl pob tebyg wedi blocio’r troseddwr. Ond ar ei dudalen ei hun ...? Sai'n siŵr o gwbl. --Craigysgafn (sgwrs) 20:20, 4 Tachwedd 2020 (UTC)
- Diolch am yr ymateb, ond dw i ddim am ei drafod yn y caffi. Fy mwriad oedd codi'r mater efo defnyddiwr profiadol, ond mewn ffordd mor "low key" â phosib (dyma pam defnyddiais i'r teitl "rhwybeth" er mwyn osgoi tynnu gormod o sylw ato fo). Dw i'n ymwybodol mai hiwmor oedd y bwriad, ond mae'n ymddangos ei fod wedi defnyddio'r gair "hoyw" i olygu "gwael" (gan ddisgrifio pob sir heblaw Casnewydd, o le mae ef yn dod). Felly, dewis diofal/anffodus o ansoddair oedd o (gan ddefnyddiwr oedd yn ei arddegau ar y pryd), er nad yn fwriadol sarhaus yn debygol. Ond os rwyt ti'n teimlo y dylai'r sylw gael ei adael fel y mae, ni af i ddim pellach â'r mater. --Dani di Neudo (sgwrs) 19:57, 4 Tachwedd 2020 (UTC)
Montalbano ógGolygu
Helo, mi wnes i greu'r dudalen hon trwy ei chyfieithu o'r Wyddeleg. Anghofiais gyfieithu'r teitl ac ni allaf symud iddo Montalbano ifanc--Walker Whitecker (sgwrs) 05:05, 1 Ionawr 2021 (UTC)
DerwentwaterGolygu
Wpsis! Gobeithio fy mod heb bechu gormod! Mi welais i Tweet diddorol y bore ma ac edrych i fewn i'r peth ychydig. Mae'n rhaid fod y golygydd yma hefyd, a mi wnest ei wrthdroi - yn gywir felly gan ei fod yn dweud pethau fel 'yn iaith y Saeson'. Be wnes i ei ddarganfod oedd cyfeiriad at waith yr Athro Geraint Gruffydd sy'n dweud ei bod yn bur debyg mai yr un oedd Rhaeadr Derwennydd a Lodore Falls, felly mi es ati i greu erthygl ar y rhaeadr. Gobeithio fod hyn yn iawn Craigysgafn. Croeso i chi ei newid os ydych yn anghytuno, cofia. Mae dy waith ar wicipedia'n wych iawn gyda llaw. Cofion fil - Sian EJ (sgwrs) 14:53, 9 Chwefror 2021 (UTC)
- @Sian EJ: Paid â becso! Sdim problem. Mae Rhaeadr Derwennydd yn erthygl ardderchog. Rwy'n ceisio defnyddio enwau Cymraeg am leoedd os ydyn nhw'n arddangos yn Ngeiriadur yr Academi neu'r Atlas Cymraeg ayyb, ond roedd y golygiad anhysbys y bore 'ma braidd yn ymysodol, gan newid yr enw mewn print du, ac yn siarad am "y Saeson". Ta beth, rwyt ti wedi gwella Derwentwater. Diolch! --Craigysgafn (sgwrs) 18:27, 9 Chwefror 2021 (UTC)