Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Helô 'na. Bydda i'n logio i mewn i Wicipedia o bryd i'w gilydd i ysgrifennu rhyw erthygl ar bwnc ieithyddol neu i olygu erthyglau eraill. Byddai'n wych gweld y safle Cymraeg yn datblygu i mewn i ffynhonnell gwybodaeth ddiddorol a defnyddiol fel sydd mewn ieithoedd eraill, sy'n ateb cwestiynau fel:
 
*Mae'r [http://en.wikipedia.org/wiki/Norwegian_phonology#Pulmonic_ingressive/ erthygl hon] yn dweud bod y gair Norwyeg ''ja'' "ie" yn cael ei ynganu'n fewngyrchol. Oes ymchwil wedi'i wneud ar y '''sain fewngyrchol''' mae rhai o siaradwyr y Gogledd yn ei gwneud ar ddiwedd brawddegau weithiau?
 
*Pam mae <y> Gymraeg yn cael ei hynganu'n [ə] ond pan sonnir am y llythyren ei hyn bydd llawer yn dweud '''[ɜː]'''? Dylanwad Saesneg? Ond sut, pam, o ble?
*Ydy Cymraeg safonol yn defnyddio dwy system wahanol o sillafu bellach? Sef, yr un draddodiadol e.e. Mae < i> yn hir mewn geiriau unsill o flaen <n> ac <l> e.e. <min, hin, llin> ac felly <pin> /piːn/ (yn hytrach na < pîn> hŷn), ac un newydd sy'n torri rheolau'r un draddodiadol, e.e. <bin> /bɪn/, felly ai /vi:n/ o <min> neu /vɪn/ o <bin> yw <fin>? Ydy'r system newydd yn cael ei defnyddio mewn geiriau lletchwith i ddechrau ac yna maent yn cael eu safoni yn nes ymlaen, e.e. <pìn> /pɪn/ lle cafwyd <pin> gynt? Beth am eiriau fel <cracyr> ac *<albym> /krakər, albəm/ nid, fel y bydden nhw yn ôl y system draddodiadol, /krakɨr, albɨm/ neu /krakɪr, albɪm/?
 
*Ydy Cymraeg safonol yn defnyddio '''dwy system wahanol''' o sillafu bellach? Sef, yr un draddodiadol e.e. Mae < i> yn hir mewn geiriau unsill o flaen <n> ac <l> e.e. <min, hin, llin> ac felly <pin> /piːn/ (yn hytrach na < pîn> hŷn), ac un newydd sy'n torri rheolau'r un draddodiadol, e.e. <bin> /bɪn/, felly ai /vi:n/ o <min> neu /vɪn/ o <bin> yw <fin>? Ydy'r system newydd yn cael ei defnyddio mewn geiriau lletchwith i ddechrau ac yna maent yn cael eu safoni yn nes ymlaen, e.e. < pìn> /pɪn/ lle cafwyd <pin> gynt? Beth am eiriau fel <cracyr> ac *<albym> /krakər, albəm/ nid, fel y bydden nhw yn ôl y system draddodiadol, /krakɨr, albɨm/ neu /krakɪr, albɪm/?
*Oes ymchwil ar hyd sillafau acennog mewn geiriau lluosill Cymraeg. Rwy'n dod o'r de ac mae llafariaid lled-hir ynghanol geiriau gyda fi, felly dyma'r hyn sy'n dod allan o fy ngheg i fel arfer (rwy'n credu!):
 
*Oes rhywun wedi astudio amlder ynganu /r/ Gymraeg yn '''[ʀ~ʁ]'''? Beth am /ɬ/ yn '''[ç]''' a geir mewn rhai geiriau gan rai?
 
*Oes ymchwil ar '''hyd sillafau acennog''' mewn geiriau lluosill Cymraeg. Rwy'n dod o'r de ac mae llafariaid lled-hir ynghanol geiriau gyda fi, felly dyma'r hyn sy'n dod allan o fy ngheg i fel arfer (rwy'n credu!):
{| class="wikitable"
|-