Ffredrig I, brenin Prwsia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B dol
Llinell 4:
Ganed yn [[Königsberg]], yn fab i Ffredrig Wiliam, Etholydd Brandenburg a Dug Prwsia, a elwir "yr Etholydd Mawr", a'i wraig Louise Henriette, Iarlles Nassau. Wedi marwolaeth ei dad yn 1688, aeth Ffredrig ati i weithredu'r polisi o ymddyrchafu Dugiaeth Prwsia, a hynny gyda chefnogaeth ei brif weinidog Eberhard von Danckelmann, a fu'n diwtor iddo pan oedd yn fachgen. Tyfodd ei fyddin a chynhaliodd lys brenhinol ysblennydd mewn ymgais i hyrwyddo'i rym. Ymgynghreiriodd ag [[Archddugiaeth Awstria]], [[Teyrnas Lloegr]], a [[Gweriniaeth yr Iseldiroedd]] yn erbyn [[Teyrnas Ffrainc]] yn niwedd yr 17g. Anfonodd Ffredrig luoedd Prwsiaidd i amddiffyn yr Iseldiroedd yn 1688 pan aeth [[Wiliam o Oren]] i dderbyn coron Loegr, a brwydrodd y Prwsiaid yn ffyddlon dros yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn Rhyfel y Gynghrair Fawr (1689–97).<ref name=Britannica/>
 
Ar 16 Tachwedd 1700, arwyddwyd Cytundeb y Goron gan Ffredrig a [[Leopold I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig]] ac Archddug Awstria, yn rhoddi caniatâd i Ffredrig goroni ei hunan yn Frenin Prwsia, a ddigwyddodd yn Königsberg ar 18 Ionawr 1701. Yn ôl telerau'r cytundeb, danfonodd Ffredrig luoedd ychwanegol i frwydro dros achos y Habsbwrgiaid yn [[Rhyfel Olyniaeth Sbaen]] (1701–14). Er i'w deyrnas brofi'n gynghreiriad ffyddlon i Awstria, gwobrwywyd dim ond ychydig o diriogaethau iddi yng Nghytundeb Utrecht (1713). Bu farw Ffredrig ym [[Berlin|Merlin]] yn 55 oed, a chafodd ei olynu yn Frenin Prwsia gan ei fab [[Ffredrig Wiliam I, brenin Prwsia|Ffredrig Wiliam]].<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Frederick-I-king-of-Prussia |teitl=Frederick I |dyddiadcyrchiad=4 Mawrth 2020 }}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==