Dafydd Huws (awdur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Marwolaeth
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
Awdur o [[Llanberis|Lanberis]] oedd '''Dafydd Huws''' ([[1949]] – [[15 Ebrill]] [[2020]])<ref name="golwg-566610">{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/566610-colli-dafydd-huws-dwad|teitl=Colli Dafydd Huws, ‘y Dyn Dŵad’|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=15 Ebrill 2020}}</ref> er y bu'n byw ers blynyddoedd lawer yng [[Gwaelod-y-Garth|Ngwaelod-y-Garth]] ger [[Caerdydd]]. Dechreuodd ei yrfa lenyddol fel colofnydd radio a theledu [[Y Faner]] o dan yr enw Charles Huws (1971-1982). Ef yw awdur nofelau'r Dyn Dwad. Trwy lygad ei gymeriad Goronwy Jones, creodd Huws dair nofel ôl-fodernaidd a gwleidyddol. ''[[Dyddiadur Dyn Dŵad]]'' (1978), ''[[Un Peth 'Di Priodi, Peth Arall 'Di Byw]]'' (1990) a ''[[Walia Wigli]]'' (2004) a detholiad o storiau a darllediadau yn y gyfrol ''[[Chwarter Call - Y Dyn Dŵad|Chwarter Call]]'' (2005). Rhydd nofelau Huws olwg ddychanol a gwleidyddol ar Gymru'r 70au, yr 80au, y 90au a'r Gymru fodern.
 
Ef hefyd oedd awdur ''Ser y Dociau Newydd'' (1994). Bu'n athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Illtyd Sant, Caerdydd ar gychwyn ei yrfa cyn gadael y byd addysg am y [[BBC]] i sgriptio ''[[Pobol y Cwm]]''. Parhaodd i sgriptio ar gyfer y teledu yn ogystal. Roedd Dafydd Huws yn weithgar gydag Undeb yr Ysgrifenwyr yng Nghymru.
 
Yn ei flynyddoedd olaf, roedd wedi bod yn barddoni dipyn, a cyhoeddwyd rhai darnau yn enw Goronwy Jones yng nghylchgrawn Golwg ym mis Ebrill 2017.<ref name="golwg-566610"/>
 
==Bywyd personol==