Gweriniaeth Genova: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat Cyn-wladwriaethau Ewrop
Tagiau: Golygiad cod 2017
B tr
Llinell 54:
Gellir olrhain hanes Genoa yn ôl i 2000 CC pryd cafodd yr ardal ger yr harbwr naturiol ei gwladychu gan forwyr [[Groegiaid|Groegaidd]]. Bu dan reolaeth [[yr Ymerodraeth Rufeinig]], Teyrnas yr [[Ostrogothiaid]], a Theyrnas y [[Lombardiaid]] cyn iddi ddod yn rhan o'r [[Ymerodraeth Garolingaidd]] yn niwedd yr 8g ac yna'n rhan o Deyrnas yr Eidal, un o diriogaethau'r [[Ymerodraeth Lân Rufeinig]]. Tyfodd Genoa yn un o brif borthladdoedd y Môr Canoldir ac erbyn yr 11g roedd teuluoedd pendefig yng nghefn gwlad Liguria yn symud i'r ddinas i atgyfnerthu eu grym gwleidyddol ac economaidd.
 
Enillodd Genoa ei annibyniaethhannibyniaeth ar yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1099 ar ffurf y ''Compagna Communis'', cynghrair o fasnachwyr a phendefigion yn cynnwys saith (yn ddiweddarach wyth) ''compagnies'' neu urdd a chanddynt lyngesau, glanfeydd, arfau, a rhandiroedd dinesig eu hunain. Yng nghyfnod cynnar y ddinas-wladwriaeth, bu cryn anghytuno rhwng yr uchelwyr ac weithiau aeth yn helyntion yn y strydoedd a brwydrau rhwng y gwahanol luoedd.<ref name=GaleGovernments>{{eicon en}} "[https://www.encyclopedia.com/history/encyclopedias-almanacs-transcripts-and-maps/republic-genoa Republic of Genoa]" yn ''Gale Encyclopedia of World History: Governments''. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 12 Mai 2020.</ref>
 
Bu Gweriniaeth Genoa ar anterth ei grym o'r 12g hyd at ei gorchfygiad gan lynges [[Gweriniaeth Fenis]] ym Mrwydr Chioggia (1380). Ildiodd ei thra-arglwyddiaeth yn y Môr Canoldir i [[Ymerodraeth Sbaen]] yn nechrau'r 16g, ac o'r cyfnod hwnnw hyd at ddiwedd y 18g llywodraethai Gweriniaeth Genoa fel [[oligarchiaeth]] dan reolaeth y bendefigaeth.<ref name=GaleGovernments/>