Dyneiddiaeth y Dadeni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Gwrthdröwyd
Llinell 1:
[[Delwedd:Da Vinci Vitruve Luc Viatour.jpg|bawd|Darluniad gan [[Leonardo da Vinci]] o'r "dyn Fitrwfaidd" (''L'uomo vitruviano'', tua 1490) sydd yn dangos cydberthynas rhwng mesuriadau'r corff a [[geometreg]], gan dynnu ar waith y pensaer Rhufeinig [[Vitruvius]].]]
Prif fudiad deallusol [[y Dadeni Dysg]] oedd '''dyneiddiaeth y Dadeni''' a oedd yn adfer syniadau'r oes glasurol yn Ewrop, hynny yw yr hen [[Groeg yr henfyd|Roegiaid]] a'r [[Rhufain hynafol|Rhufeiniaid]]. Astudiaethau dyneiddiol (''studia humanitatis'') oedd yr enw ar bynciau [[gramadeg]] (yn hanesyddol, [[gramadeg Lladin]]), [[rhethreg]], [[athroniaeth foesol]], [[barddoniaeth]], ac [[hanes]], term sydd yn debyg i'r [[dyniaethau]] heddiw. Dechreuodd yn [[yr Eidal]] yn y 14g fel ymateb i ddysgeidiaeth yr [[ysgolaeth|athronwyr ysgolaidd]], a oedd yn rheoli'r prifysgolion [[Cristnogaeth|Cristnogol]] yn [[yr Oesoedd Canol]], ac ymledodd ar draws [[Gorllewin Ewrop]] yn y 15g a'r 16g. Credasant y dyneiddwyr bod clasuriaeth yn fwy perthnasol i brofiadau pob dydd nac astudiaethau haniaethol y prifysgolion, megis [[rhesymeg]], [[metaffiseg]], ac [[athroniaeth naturiol]], a bod gwersi'r hen Roegwyr a Rhufeiniaid o fudd felly i'r dosbarthiadau llywodraethol. Nod y dyneiddwyr oedd adfywio ysgolheictod clasurol ac i efelychu delfrydau a themâu'r hen wareiddiadau.
 
Mae'n debyg i ddyneiddiaeth ymddangos o ganlyniad i dwf [[dinas-wladwriaeth]]au yng ngogledd a chanolbarth yr Eidal yn [[yr Oesoedd Canol Diweddar]]. Nid oedd hen arferion a diwylliant y glerigiaeth a'r pendefigion milwrol yn addas at y drefn ddinesig newydd. Dechreuodd yr adfywiad clasurol yn [[llenyddiaeth y Dadeni#Yr Eidal|llên yr Eidalwyr]], yng ngwaith beirdd megis [[Dante Alighieri]] a [[Francesco Petrarca]] a dynasant ar themâu ac arddulliau [[llenyddiaeth Ladin]] hynafol. Erbyn diwedd y 14g roedd dyneiddiaeth yn fudiad deallusol y tu hwnt i lenyddiaeth, a chafodd ddylanwad ar y gyfraith, diplomyddiaeth, a byd masnach drwy lythyrau, areithiau, a dogfennau Lladin. Bu rhai dyneiddwyr, megis [[Coluccio Salutati]] a [[Leonardo Bruni]] yn [[Fflorens]], yn efelychu [[gweriniaetholdeb]] [[aristocratiaeth|aristocrataidd]] yn ôl [[Cicero]] a gwleidyddion Rhufeinig eraill, ond yn gyffredinol nid oedd dyneiddiaeth yn ideoleg weriniaethol na breniniaethol.<ref name=HDR>Charles G. Nauert, ''Historical Dictionary of the Renaissance'' (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 201–4.</ref>