Geisha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 2:
[[Delwedd:Geisha-fullheight.jpg|200px|bawd|Dwy twristiaid wedi'u gwisgo fel ''maiko'', Kyoto]]
[[Delwedd:Fumino misedashi full height.jpg|200px|bawd|Real ''maiko'', Kyoto]]
 
Mae '''geisha''' ([[Siapaneg]]: 芸者, ''Geisha'') neu '''geiko''' (芸妓, ''Geiko'') yn ddiddanwyr benywaidd, traddodiadol [[Siapan]]eaidd. Mae eu sgiliau'n cynnwys perfformio celfyddydol Siapaneaidd, megis cerddoriaeth glasurol a dawns. Yn groes i'r gred gyffredin, nid [[puteiniaid]] yw geisha.
 
Llinell 13 ⟶ 14:
Yn draddodiadol, mae'r geisha yn dechreu eu hyfforddiant pan maent yn ifanc iawn. Er bod rhai merched wedi cael eu gwerthu i dai geisha ("okiya") pan yn blant, nid oedd hyn yn gyffredin mewn ardaloedd parchus. Yn aml byddai merched i geisha yn cael eu magu fel geisha eu hunain, fel arfer fel yr olynydd ("atotori" sy'n golygu etifedd) neu rôl-merch ("musume-bun") i'r okiya.
 
Galwyd y cam cyntaf yn yr hyfforddiant yn shikomi. Pan fyddai merched yn cyrraedd yn yr okiya am y tro cyntaf, byddent yn gweithio fel morynion ac yn gorfod gwneud nifer o dasgau angenrheidiol. Byddai'r gwaith yn anodd a'r nod oedd i wthio'r merched hyd eithaf eu gallu. Byddai shikomi ieuengaf y tŷ yn gorfod aros i fyny'n hwyr yn yny nos tan bod y geisha hynaf a mwyaf profiadol yn dychwelyd o'i hapwyntiadau a gallai hyn fod hyd at ddau neu dri yn y bore. Yn ystod y cyfnod hwn o hyfforddiant, byddai'r shikomi yn mynd i wersi yn ysgol geisha y hanamachi (ardal y geisha). Mae'r traddodiad hwn yn parhau tan heddiw er mwyn i'r merched ymgyfarwyddo â thafodiaith draddodiadol, traddodiadau a gwisg y "karyūkai."
 
Pan fyddai'r ferch o dan hyfforddiant yn brofiadol gyda chelfyddydau'r geisha ac wedi pasio'r arholiad dawns anodd a therfynol, byddai'n cael ei dyrchafu i'r ail lefel o hyfforddiant: minarai. Ni fyddai disgwyl i'r minarai wneud gwaith tŷ. Mae cyfnod y minerai yn canolbwyntio ar hyfforddiant cyhoeddus. Er bod minarai yn mynychu ozashiki (gwleddau lle mae'r gwestai yn cael eu gofalu amdano gan y geisha) nid ydynt yn cymryd rhan ar lefel uwch. Mae eu kimono, sydd yn fwy cymhleth na kimono'r maiko, yn gwneud y siarad drostynt. Gellir llogi minarai ar gyfer partïon ond gan amlaf maent yn westai sydd heb gael eu gwahodd i'r parti a gynhelir gan eu onee-san ("chwaer fawr": mentor y Minarai). Serch hynny, cânt groeso cynnes. Codant dâl o 1/3. Gan amlaf, mae'r minarai yn gweithio gyda thŷ tê penodol (a elwir "minarai-jaya") gan ddysgu wrth yr "okaa-san" (perchennog benywaidd y tŷ) Nid yw'r sgiliau yma'n cael eu dysgu mewn ysgolion a dim ond trwy gymryd rhan ac ymarfer y gellir meithrin y sgiliau fel sgyrsio a hapchwarae. Mae'r cyfnod hwn yn para am tua mis yn unig.