Wiliam I, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
gwybodlen
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=cenedl galwedigaeth partner swydd teulu|dateformat=dmy}}
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| suppressfields= cenedl galwedigaeth partner swydd teulu
| dateformat = dmy
}}
Bu '''Wiliam I''' (glasenw: "Gwilym y Gorchfygwr") yn frenin Lloegr o [[14 Hydref]] [[1066]] hyd at ei farw ar [[9 Medi]] [[1087]].
 
Bu '''Wiliam I''' (glasenw: "''Gwilym y Gorchfygwr"'' neu ''Wiliam y Concwerwr'') yn frenin [[Lloegr]] o [[14 Hydref]] [[1066]] hyd at ei farwfarwolaeth ar [[9 Medi]] [[1087]].
Cafodd ei eni tua 1028 yn [[:en:Falaise, Calvados|Falaise]], [[Normandi]], yn fab gordderch i [[Robert, Dug Normandi]]. Ei wraig oedd [[Matilda o Fflandrys]]. Cipiodd Wiliam goron Lloegr ym [[Brwydr Hastings|mrwydr Hastings]] ar 14 Hydref 1066.
 
 
Wiliam oedd Brenin [[Normaniaid|Normanaidd]] cyntaf Lloegr. Roedd yn ddisgynnydd i'r arweinydd [[Llychlynwyr|Llychlynnaidd]], [[Rolo]], ac yn Ddug Normandi ers 1035.<ref>{{Cite web|title=William I [known as William the Conqueror] (1027/8–1087), king of England and duke of Normandy|url=https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-29448|website=Oxford Dictionary of National Biography|access-date=2020-09-08|doi=10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-29448|language=en}}</ref> Roedd ei afael ar [[Normandi]] yn gadarn erbyn 1060, wedi brwydr hir yn ceisio sefydlogi ei afael ar yr orsedd. Lansiodd ymdrech i reoli Lloegr chwe blynedd yn ddiweddarach, pan drechodd [[Harold II, brenin Lloegr|Harold, Brenin Lloegr]], ym [[Brwydr Hastings|Mrwydr Hastings]] yn 1066.
 
Wiliam oedd mab Robert I, Dug Normandi, a anwyd i'w feistres Herleva. Yn ystod ei blentyndod a’i ieuenctid, bu brwydro rhwng aelodau gwahanol deuluoedd aristocrataidd Normandi er mwyn ennill rheolaeth dros y Dug pan oedd yn blentyn. Yn 1047, llwyddodd Wiliam i chwalu gwrthryfel a rhoddodd hyn y cyfle iddo sefydlogi ei awdurdod dros y ddugiaeth, proses na chwblhaodd tan tua 1060. Rhoddodd ei briodas yn y 1050au â Matilda o Fflandrys gefnogwyr pwerus iddo yn [[Fflandrys]], a oedd yn ffinio ar Normandi. Erbyn ei briodas, roedd Wiliam wedi trefnu pwy fyddai’n eu penodi i swyddi pwysig fel esgobion ac abadau yn yr Eglwys Normanaidd. Galluogodd ei bŵer iddo ehangu ei orwelion, ac o ganlyniad sefydlogodd ei awdurdod dros [[Maine (Ffrainc)|Maine]] yn 1062, a oedd hefyd yn ffinio ar Normandi.
 
Yn y 1050au a dechrau’r 1060au, daeth i'r amlwg bod Wiliam yn ymgeisydd oedd â hawl ar orsedd Lloegr, a oedd ar y pryd ym meddiant [[Edward y Cyffeswr]], ei gefnder cyntaf. Roedd ymgeiswyr posibl eraill hefyd, gan gynnwys yr iarll Seisnig, Harold Godwinson, a enwyd gan Edward y Cyffeswr ar ei wely angau fel ei olynydd yn Ionawr 1066. Er hynny, dadleuodd Wiliam fod Edward wedi addo’r goron iddo ef, a bod Harold Godwinson wedi tyngu ei gefnogaeth i'w hawl ar y goron. Ar sail hynny, penderfynodd Wiliam adeiladu fflyd fawr o longau a goresgyn Lloegr yn 1066. Cafodd fuddugoliaeth gadarn yn erbyn Harold Godwinson ym Mrwydr Hastings, lle lladdwyd Harold ar 14 Hydref 1066. Wedi sawl brwydr arall, coronwyd Wiliam yn Frenin Lloegr ar Ddiwrnod Nadolig 1066 yn Llundain. Bu nifer o wrthryfeloedd aflwyddiannus yn erbyn Wiliam fel brenin, ond erbyn 1075 roedd gafael gadarn gan Wiliam ar Loegr, a galluogodd hyn iddo i dreulio’r mwyafrif o’i deyrnasiad ar gyfandir [[Ewrop]].
 
Bu ymdrechion cychwynnol y Normaniaid o dan arweinyddiaeth Wiliam i reoli’r tiroedd a oedd ym meddiant rheolwyr [[Cymru]] yn fethiant i raddau. Ond wedi marwolaeth Wiliam yn 1087 dechreuodd y Normaniaid ddangos eu rheolaeth dros y Cymry, gan greu brwydr am bŵer a fyddai’n para am ganrifoedd.<ref>{{Cite book|edition=Rev. ed|title=A history of Wales|url=https://www.worldcat.org/oclc/82452313|publisher=Penguin|date=2007|location=London|isbn=0-14-028475-3|oclc=82452313|last=Davies, John, 1938-|first=|year=|pages=100-102}}</ref>
 
Nodweddwyd blynyddoedd olaf Wiliam ar yr orsedd gan drafferthion yn ei diroedd Ewropeaidd, problemau gyda’i fab, Robert, a’r Daniaid hefyd yn bygwth goresgyn Lloegr. Yn 1086, gorchmynnodd arolwg arbennig o’r holl diroedd yn Lloegr. Dyma gynnwys [[Llyfr Dydd y Farn]]. Bu farw ym Medi 1087 wrth arwain ymgyrch yng ngogledd Ffrainc, a chladdwyd ef yn [[Caen]]. Yn ystod ei deyrnasiad yn Lloegr, adeiladwyd cyfres o gestyll, sefydlwyd cenhedlaeth newydd o aristocratiaid Normanaidd ar dir Lloegr, a bu newidiadau yng nghyfansoddiad y glerigaeth yn Lloegr. Ni lwyddodd i gyfuno ei holl diroedd mewn un ymerodraeth ond ceisiodd weinyddu a rheoli pob uned yn annibynnol. Rhannwyd ei diroedd wedi ei farwolaeth: rhoddwyd Normandi i Robert, ac etifeddwyd Lloegr gan ei ail fab ganedig a oroesodd, sef [[Wiliam II, brenin Lloegr|Wiliam]].<ref>{{Cite book|edition=New ed|title=William the Conqueror : the Norman impact upon England|url=https://www.worldcat.org/oclc/793519807|publisher=Yale University Press|date=1999|location=New Haven|isbn=978-0-300-18554-6|oclc=793519807|last=Douglas, David C. (David Charles), 1898-1982,}}</ref>
 
=== Plant ===
 
=== Plant ===
* [[Robert Curthose]] (tua 1054 – 1134)
* Adelizia (neu Alys) (1055 – tua 1065)
Llinell 21 ⟶ 27:
* [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I]] (tua 1068 – 1135), brenin Lloegr 1100–1135
 
== Cyfeiriadau ==
<references />
{{dechrau-bocs}}
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Harold II, brenin Lloegr|Harold II]] | teitl = [[Brenhinoedd a breninesau Lloegr|Brenin Loegr]] | blynyddoedd = [[25 Rhagfyr]] [[1066]] – [[9 Medi]] [[1087]] | ar ôl = [[Wiliam II, brenin Lloegr|Wiliam II]]}}
{{diwedd-bocs}}
 
Llinell 33 ⟶ 41:
[[Categori:Y Normaniaid]]
[[Categori:Pobl fu farw mewn damweiniau marchogaeth]]
[[Categori:Prosiect WiciAddysg]]