Matthias, Ymerawdwr Glân Rhufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
B s |
||
Llinell 4:
Ganed yn [[Fienna]] i Maximilian (mab hynaf [[Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig]]) a'i wraig Maria. Daeth Maximilian yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig ym 1564. Bu farw Maximilian ym 1576, a fe'i olynwyd gan frawd hŷn Matthias, [[Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Rudolf II]]. Aeth Matthias i'r [[Iseldiroedd Sbaenaidd]] ym 1577 i olynu Johann o Awstria yn llywodraethwr dros y taleithiau hynny. Nid oedd yn disgleirio wrth lywodraethu, a methodd i drefnu cyfaddawd rhwng lluoedd Catholig Sbaen a'r Protestaniaid dan [[Wiliam o Oren]] cyn iddo ddychwelyd i Awstria ym 1581.<ref name=EB/>
Fe'i penodwyd yn Llywodraethwr Awstria ym 1593 gan yr Ymerawdwr Rudolf, ac yn y swydd honno bu'n cefnogi [[y Gwrth-Ddiwygiad]] ac yn gostegu sawl gwrthryfel gan werinwyr [[Protestannaidd]] yn y cyfnod 1595–97. Bu'r ymgyrch hon yn newid mawr i bolisi Maximilian o gymodi rhwng yr Eglwys Gatholig a'r enwadau Protestannaidd. Bu Matthias hefyd yn rheoli lluoedd yr ymerodraeth yn erbyn yr [[Yr Ymerodraeth Otomanaidd|Otomaniaid]]
Esgynnodd Matthias i orsedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn sgil marwolaeth Rudolf ym 1612. Roedd ei deyrnasiad yn gyfnod digyffro ar y cyfan, ac enciliodd yr ymerawdwr o fywyd cyhoeddus yn niwedd ei oes gan roi grym yn nwylo'i brif gynghorwr, Melchior Klesl. Methiant a fu'r ymdrechion i gymodi'r Catholigion a'r Protestaniaid yn y cynulliad ymerodrol. Tyfodd gwrthwynebiad yn erbyn Matthias ymhlith y Protestaniaid, a sbardunwyd [[y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain]] (1618–48) gan wrthryfel ym Mohemia. Bu farw Matthias yn Fienna yn 62 oed a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei gefnder [[Ferdinand II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Ferdinand II]].<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Matthias |teitl=Matthias (Holy Roman emperor) |dyddiadcyrchiad=12 Ebrill 2020 }}</ref>
|