Malleus Maleficarum: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{teitl italig}} {{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= }} Traethawd Lladin ar ddewiniaeth yw '''''Malleus Maleficarum''''' ("Morth...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 2:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= }}
 
Traethawd Lladin ar [[Dewiniaeth|ddewiniaeth]] yw '''''Malleus Maleficarum''''' ("Morthwyl Dewiniaid"). Fe'i hysgrifennwyd gan [[Heinrich Kramer]], [[Dominiciaid|mynach Dominicaidd]] a oedd yn aelod o'r [[Y Chwilys Rhufeinig|Chwilys]], ac a gyhoeddwyd gyntaf yn [[Speyer]], [[yr Almaen]], ym [[1487]]. Mae'n casglu ynghyd lawer iawn o wybodaeth am ddewiniaeth yn ystod y 15g, ac felly mae'n ffynhonnell hanesyddol werthfawr. Fodd bynnag, hyd yn oed yn ystod ei gyfnod ei hun roedd y llyfr yn ddadleuol. Fe'i condemniwyd gan ddiwinyddion yr Chwilys yng [[Cwlen|Nghwlen]] am fod yn argymell gweithdrefnau anfoesegol ac anghyfreithlon, ac nad oedd yn cydymffurfio ag athrawiaeth Gatholig.
 
Mae'n datgan y dylid difodi dewiniaid a dewinesau a gyda bwriad hwn mae'n datblygu theori gyfreithiol a diwinyddol fanwl o'r pwnc. Mae'n ymdrin â dewiniaeth fel [[heresi]], a oedd yn drosedd, y gellid ei herlyn mewn llysoedd seciwlar. Mae'n argymell y dylid defnyddio artaith i gael cyfaddefiadau, a'r [[Y gosb eithaf|gosb eithaf]] fel yr unig rwymedi penodol yn erbyn drygioni dewiniaeth. Ar adeg ei gyhoeddi, roedd hereticiaid yn aml yn cael eu llosgi wrth y stanc, ac roedd y llyfr yn annog yr un driniaeth â dewiniaid a gwrachod.
Llinell 13:
* [https://daten.digitale-sammlungen.de/~db/0004/bsb00043229/images/index.html?seite=00001&l=en ''Malleus Maleficarum''], argraffiad cyntaf (1487) yn Bayerische Staatsbibliothek, [[München]]
 
{{Dewiniaeth}}
{{Rheoli awdurdod}}
{{Dewiniaeth}}
 
[[Categori:Dewiniaeth]]