Afon Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Mewn hanes: cabgym 'bawd' dwbwl a manion eraill, replaced: Y mae → Mae, Y mae → Mae using AWB
lluniau
Llinell 6:
==Cwrs yr afon==
[[Delwedd:Llyn Conwy.jpg|bawd|Llyn Conwy]]
[[File:Conwy02LB.jpg|bawd|250px|Yr Afon ger [[Gwarchodfa natur Conwy]] ]]
[[Delwedd:AfonConwy.jpg|bawd|Afon Conwy yn llifo dan y ddwy bont yn nhref Conwy tua'r môr]]
Mae'n tarddu tua 1,550 troedfedd uwch lefel y môr yn [[Llyn Conwy]], sydd bellach yn gronfa dŵr, ar [[Y Migneint]]. Filltir i'r de o'r llyn mae'n rhedeg dan y B4407 ac yn troi i'r gogledd i ddilyn y ffordd fel ffrwd fach trwy weundir corsiog y Migneint cyn llifo trwy [[Ysbyty Ifan]].
[[File:Conwy03LB.jpg|bawd|chwith|250px|Ffos Noddyn]]
 
O Ysbyty Ifan ymlaen mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng hen siroedd [[Sir Gaernarfon|Caernarfon]] a [[Sir Ddinbych|Dinbych]] am y rhan fwyaf o'i chwrs. Ger [[Pentrefoelas]] mae hi'n cwrdd â'r [[A5]] ac yn rhedeg heibio i erddi [[rhododendron]] y Foelas a thrwy chwm cul coediog rhwng y bryniau i'w [[aber|haber]] ag [[Afon Machno]], sy'n dod i mewn iddi o'r gorllewin o gyfeiriad [[Penmachno]]. Fymryn uwchlaw'r aber honno ceir rhaeadrau ar Afon Machno a mymryn islaw ar Afon Conwy ei hun mae: [[Rhaeadr y Graig Lwyd]] <ref>[http://llennatur.com/files/u1/Diogelu_Enwau_Lleoedd.pdf Gwefan Llên Natur]; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012</ref> yn gorwedd mewn ceunant werdd ddofn; mae ystol [[eog]]iaid yma i gynorthwyo'r eogiaid ar eu taith i fyny'r afon. Fymryn islaw eto ceir Ffos Noddyn (y ''Fairy Glen'' yn Saesneg) lle rhed yr afon trwy ceunant greigiog a choedwig [[pinwydd]] cyn derbyn dŵr [[Afon Lledr]] i'w llif.