Croeso i'r Pwll Tywod! golygu

Haia les! Croeso atom! Neu rhag ofn dy fod o gefndir gwyddonol: Croeso atom NI! Rwan ta, mi wnest ti arbrofi yn y Pwll Tywod, ac roedd dy arbrawf (an-wyddonol) yn ardderchog!!!! Yn anffodus fe ddaeth person / rollbacker o'r Iseldiroedd (sef Defnyddiwr:Wiki13 gan wrthdroi dy olygiadau - y cnaf bach! Ga i ymddiheuro am hyn; dw i ddim yn meddwl ei fod yn deall ystyr y gair "Pwll Tywod" ac ar ben hyn, mae o'n newydd iawn yn ei swydd yn chwilio am fandaliaid. Mae'n gret cael cefnogaeth y swyddogion yma ond weithiau (ia - dim ond weithiau!) mae nhw'n gwneud y faux pas mwyaf uffernol! Erbyn rwan dw i wedi dadwneud ei olygiadau o, felly - ymlaen! Roedd o'n llygad ei le yn dadwneud dy olygiadau, ond dylai fod wedi aros mwy na munud!!! Cofion cynnes atat! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:39, 7 Medi 2012 (UTC)Ateb

Dw i wedi dadwneud golygiad Wiki13 y bore ma, felly dos yn ol i'r Wicipedia:Pwll tywod a mi weli'r hyn wnest ti ei ysgrifennu! Mae'n mynd i fod yn erthygl wych! ON Gelli arwyddo dy waith drwy deipio pedwar tilde "~": llawer haws. Hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 03:20, 8 Medi 2012 (UTC)Ateb

Cofnodion hen amser yng Nghoedpoeth golygu

Diddorol iawn ydy'r tamed am Goedpoeth, Les. Rwyt ti'n gofyn a ydy o'n addas ar gyfer Wicipedia? Faset ti'n ei gynnwys yn y Brittanica? Byddai'n syniad efallai i ti gael cip ar Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia a hwn ar en: Wikipedia:What Wikipedia is not. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:23, 13 Medi 2012 (UTC)Ateb

Sori am sticio fy mhig mawr i mewn, ond gwelais dy neges ar dudalen sgwrs Llywelyn a meddwl bod yr hanes yn ddiddorol iawn, ond i ateb dy gwestiwn ynglyn a'i le ar Wicipedia, faswn i'n deud na. Fel ti'n siwr wedi sylwi erbyn hyn, mae yna lot o wybodaeth cyfoethog o hanes Cymru sydd ddim yn cael ei gofnodi ar-lein a dwi'n ofni byddwn ni ar ein colled yn y dyfodol. Mae gwir angen cofnodi straeon fel hyn ar-lein, ond ble? Efallai bod o'n dod o dan orchwyl prosiectau Casgliad y Werin.
Yn y cyfamser, a dw i'n gobeithio nad oes ots gyda ti, dwi wedi creu is-dudalen yn defnyddo dy enw defnyddiwr di: Defnyddiwr:Lesbardd/Ffeiliau Dewi Humphreys a rhoi dolen ato ar dy dudalen defnyddiwr. Mae hyn bach yn ddigwyilydd ohonof, gan mai dy fusnes di yw beth sy'n cael ei osod yno. Ffordd arall o wneud yn siwr bod pethau fel hyn ddim yn diflannu yw creu tudalen gwe/dogfen GoogleDocs a'i wneud yn gyhoeddus.
Yn yr un modd, tra dw i'n gweld erthyglau am gymdeihtasu llên a chymdeithasau hanes lleol yn addas yma, nid dyma'r lle i nodi eu rhaglenni blynyddol ac enw swyddogion - dyna'r math o bethau dylai fod ar eu gwefannau.... (ond ti'n gywbod hynny dwi'n siwr, ac yn lle anobeithio arnynt fel fi, ti'n rhoi'r manylion ar dy wefan dy hun a bod yn proactive!). Basai gwybod mwy am y cymdeithasau yma'n dda - pryd sefydlwyd nhw, gan bwy, aelodau anwog/adnabyddus.
Diolch yn fawr am dy holl gyfraniadau hyd yma gyda llaw.--Ben Bore (sgwrs) 20:51, 13 Medi 2012 (UTC)Ateb
Cytuno. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:44, 14 Medi 2012 (UTC)Ateb

Diolch am roi cofnodion Dewi Humphreys ar gadw ac ar goedd. Nain i mi oedd Elizabeth Jones (Arnold y mab canol oedd nhad) ac mae hi'n rhyfedd "clywed" nain yn ailadrodd hanesion roeddwn i wedi anghofio mod i'n cofio. Am wn i "Cymro da" oedd taid, nid "Cymro du". Roedd o'n fab i John Jones haliwr, ddaeth i'r Calch o Chirbury; roedd John hyd y gwn i yn ddi-Gymraeg hyd ei fedd, felly mi fyddai'r sylw am ei fab yn un priodol. Geraint Rhydychen (sgwrs) 00:11, 3 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Dw i wedi newid Cymro du i fod yn Gymro da; mae'n gwneud mwy o synnwyr. Gwnaf basio dy nodyn ymlaen at Mari Wasiuk (merch Dewi), a gwneith hi ei basio ymlaen at ei mam, Moira. Ces i'r gwybodaeth i gyd ohoni hi; mae hi'n cadw'r holl hanes Dewi mewn bagiau siopau.Lesbardd (sgwrs)
Roeddwn i yn yr ysgol efo Mari: cofiwch fi ati. Chwith gen i glywed y newyddion dros yr haf Geraint Rhydychen (sgwrs) 15:29, 3 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Delweddau / Ffotograffau Gwyl Tegeingl golygu

Mae gan yr Wyl stoc werthfawr o ffotograffau ac mae nhw, diolch i ti, wedi rhoi CC-BY-SA ar waelod eu gwefan. Be ydy'r siawn y medrwn ddarbwyllo'r ffotograffydd i roi rhai ansawdd uchel neu high-res ar y safle fel y gallem ni eu defnyddio. Byddem yn rhoi enw a dolen i wefan allanol y ffotograffydd, wrth gwrs, fel ffynhonnell. Byddai hyn hefyd yn torri tir newydd o ran cymdeithasau Cymraeg ac yn cyfoethoci Wicipedia-bach-ni! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:50, 14 Medi 2012 (UTC)Ateb


Rheilffrodd Y Trallwng golygu

Er gwybodaeth, mae'r erthygl Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion mewn bodolaeth yn barod. Dw i ddim yn 100% os mai'r un rheilffordd ydy hwn a'r un ti'n dechrau ei greu yn dy dudalen priffil. Os ddim, beth am ddefnyddio erthyglau rheilffyrdd sy'n bodoli'n barod fel sail creu erthygl - fe all arbed ychydig o waith!--92.245.247.100 11:22, 17 Medi 2012 (UTC)Ateb

Gŵyl Cadi Ha golygu

Mae dy erthygl Gŵyl Cadi Ha yn wych iawn! Bendigedig. Oes yna luniau'n rhywle o'r dawnswyr wyneb duon? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:53, 30 Medi 2012 (UTC)Ateb

Amgueddfa Atgofion Digidol golygu

Haia Les. Edrych ar Defnyddiwr:Ben Bore/Amgueddfa Atgofion: mae'n swnio fel prosiect cyffrous iawn - addas ar gyfer y math o waith rwyt ti wedi bod yn ei wneud yng nghylch Coedpoeth. Sgwn i fyddai Menter Iaith Wrecsam yn fodlon trafod prosiect tebyg? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:47, 9 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Gwybodlen Auckland golygu

Dw i wedi mewnforio Nodion y wybolen ar gyfer Auckland. Mae trefn yr enw/ansoddair Uchaf elevation yn dal i beri problem i mi. Dw i'n siwr y gwneith Glenn neu Adam ddatrus y broblem yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:21, 19 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Whaw! Delweddau gwych!!! golygu

Newydd weldy delweddau rwyt ti'n eu huwchlwytho... bendigedig!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:36, 19 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Mae Cas yn ffotograffydd ardderchog, ac mae ganddi hi lot o luniau da; mae hi'n byw ym Mhontardawe (efo'r dyn sy'n gweithio a'r odliadur newydd) ac yn mynychu digwyddiadau gwerinol yn Ne Cymru; mae hi'n paratoi dyddiadur o weithgareddau ar gyfer y wasg yn Ne Cymru ac ar gyfer Frank Hennessey hefyd, ac yn paratoi hysbysebion ar gyfer Taplas - mae hi wedi dod yn arbenigwraig ar ffotosiop. Gobeithio mod i'n gallu ei pherswadio i anfon mwy o luniau, ond mae hi'n brysur iawn.Lesbardd (sgwrs) 13:54, 19 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Os wyt ti isio help i'w huwchlwytho, rho wybod! Gyda llaw, os oes ganddi dros 40 fe all defnyddwyr Comin wneud y gwaith drosom! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:52, 21 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Sut basai hynny'n gweithio? Y mwyafrif y gwaith sy gen i yw dewis y sawl basai'n ddefnyddiol, ailenwi'r lluniau (mae lluniau wedi dod o bob un o'r cyfranwyr efo rhifau wedi rhoi gan y camera) ac ychwanegu disgrifiad - pwy sy yn y llun ac efo pa band, er enghraifft. Dw i ddim yn gwybod pa fath o drefn sy gan Cas; mae gen i miloedd o luniau wedi tynnu ar fy nheithiau dros y byd Saesneg yn perfformio (y mwyafrif yn drenau neu dirlun); mae rhai ohonynt yn addas i Wicipedia, ond fel arfer dw i wedi anelu am greu darn o gelf yn hytrach na ddarlun ffeithiol. Eto, basai dewis a disgrifio'r lluniau y tasg mwyaf.Lesbardd (sgwrs) 14:09, 21 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Cofia roi dolen i wefan Llinos ar y lluniau! Ynglyn a'r uchod: petai'r wybodaeth sy'n cyd-fynd a'r lluniau fel meta tags, mi fyddai'n broses hawdd, ond, fel y dywedi - y gwaith mwyaf fyddai sgwennu pytiau i fynd efo'r lluniau! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:21, 28 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Oes ffordd i ychwanegu dolen i'r lluniau sy wedi cael ei huwchlwytho'n barod (Neu wyt ti wedi gwneud hynny'n? Gwna i gofio yn y dyfodol. Dw i'n hapus i roi pwt bach o luniau i fyny pob dydd, ynghanol gwneud pwt bach o bobeth arall.Lesbardd (sgwrs) 12:34, 28 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Cyfeiriadau golygu

Diolch am dy waith parhaol yma, ond alli di plîs roi cyfeiriadau annibynol i gefnogi beth sy'n cael ei ddweud mewn erthygl. Tydy cyfeirio at wefannau personol gwrthrych yr erthygl ei hun ddim yn ddigonol, gan na ellir sichrau eu bod yn ddiduedd nac yn wrthrychol. Dwi wedi ychwanegu rhai at erthygl Saith Seren a Gwenan Gibbard ([http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Gwenan_Gibbard&diff=1315265&oldid=1315226 wele'r newidiadu yma) I osod cyfeiriadau o fewn erthygl, yn arbennig i brofi rhywbeth o fewn brawddeg pendol, dylid defnyddio'r cod '<ref></ref>' ar ddiwedd y frawddeg yn dilyn ar y atalnod llawn. Dyma enghraifft:

Cafwyd niferoedd uwch na'r arfer i Wyl Tegeingl 2013.*<ref>{{dyf gwe|url=http://www.gwefan.com|teitl=500,000 yn mynychu Gwyl Tegeingl|awdur= Enw'r Awdur|cyhoeddwr=BBC Cymru|dyddiad=12 Awst 2013}}</ref>

Os nad yw'n hysbys pwy sgwennodd erthygl neu ei ddyddiad cyhoeddi, gad y blwch fel 'awdur=|'. Os yn cyferio at dudalen o fewn gwefan yn hytrach nag erthygl ar wefan newyddion, gellir defnyddio manylion cyfeirio llai manwl (e.e.), ond mae eisiau trio cynnwys teitl y dudalen, rhag ofn i'r wybodaeth ddiflannu/symud ac achosi link rot (a la BBC).

Hefyd, er mwyn i restr cyfeiriadau ymddangos yn rhywle ar yr erthygl (at y diwedd i fod), rhaid hefyd cynnwys y cod '{{cyfeiriadau}}'. Sori am swnio'n pedantig! --Ben Bore (sgwrs) 15:54, 30 Hydref 2012 (UTC) oce; gwna' i drio.Lesbardd (sgwrs) 16:59, 30 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Yn niwl Llyn Tegid! golygu

Haia; cymer olwg ar Sgwrs:Rheilffordd Llyn Tegid os gweli di'n dda. - Llywelyn2000 (sgwrs) 08:10, 3 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

Bwlch Arthur golygu

Dw i wedi newid enw'r erthygl i Arthur's Pass (gweler sgwrs) ac wedi creu Bwlch Arthur (gwahaniaethu).--Ben Bore (sgwrs) 10:25, 18 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

Y fannod o flaen enw afon golygu

GYda llaw, sdim eisiau'r fannod o flaen enw afon (er bod llawer yn meddwl bod).

Diolch; mae fy nhaith o ddarganfyddiad yn parhau!Lesbardd (sgwrs) 12:17, 18 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

Afon Clywedog (Hafren) golygu

Bore da Les! Dw i wedi defnyddio'r ffoto o Afon Clywedog ar y dudalen: Afon Clywedog (Hafren). Gan fod yr afon yn llifo drwy sawl sir mae sawl erthygl arni. Ydw i wedi ei rhoi yn y lle iawn? Byddai ychwanegu'r lleoliad - lle dynnwyd y llun - o help! Mae'n llun gwych ac yn ychwanegiad gwerthfawr i unrhyw un o'r erthyglau! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:49, 5 Ebrill 2013 (UTC)Ateb

Dim y Clywedog cywir! Dw i heb ymweld â'r un sy'n ymuno â'r Hefren eto. Tynnais i lun o'r un sy'n ymuno â'r Dyfyrdwy, wedi llifo heibio Mwynglawdd a Bersham, a llawn hanes diwydiannol, heb sôn am ddigonedd o harddwch.

Mae gen i luniau o'r Clywedog arall, yn Nyffryn Clwyd; dw i'n bwriadu ychwanegu rhywbeth am Arglwyddes Bagot rhywbryd.

Les

Wiki Loves Monuments (Cystadleuaeth Rijksmonument) golygu

Dw i wedi gadael Nodyn bach ar y gystadleuaeth hon yn y Caffi. Addas iawn i ffotograffydd fel ti! Dw i'n mynd i Gaer ar y 7fed os tisio dod? Llywelyn2000 (sgwrs) 14:42, 28 Awst 2013 (UTC)Ateb

Adolygiadau Gwales golygu

Er gwybodaeth, cafwyd trafodaeth (hir!) yn Y Caffi ynglŷn â gosod adolygiadau Gwales o fewn erthylau lle cytunwyd, y gorau y gallem, na fyddem yn gwneud hyn, ond yn hytrach eu hychwanegu at y proseict Wicidestun.--Rhyswynne (sgwrs) 14:01, 14 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Mae'n ddrwg gen i. Ar ôl trafodaeth yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, es i drwy 5 erthyglau sy wedi dod o wefan Gwales efo fy nosbarth i yn Ninbych, er mwyn golygu'r adolygiadau a gobeithio rhoi sbardun i weddill y dosbarth i gyfrannu at wici. Gwnaf i eu symud nhw i wikidestun; ond sut ydwy'n creu tudalen wikidestun yn hytrach 'na thudalen wikipedia?Lesbardd (sgwrs) 15:44, 14 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Dw i'n *meddwl* y bydd Robin yn ceisio creu hyn yn awtomatig ryw ffordd, ond galli di fwrw iddi ta beth, drwy jyst creu 'erthygl' yno yn yr un modd. Ond gan bod 3,200 adolygiad, cyn i ti ddechrau, byddai'n well bod ni'n cytuno ar sut ydym am gyflwyno'r erthygl (pa arddull i'w ddefnyddio gyda phenawdau, sut gategoriau, ayyb). Bydd trafodaeth ar hyn, unai ar dudalen Sgwrs WiciBroseict Llyfrau Gwales neu ar y Wicidestun ei hun yn fuan siwr o fod. Ond mae angen gwirio'r darnau rhywbryd am wallau iaith a ffeithiol ta beth (ai dyna ydych chi weid bod yn ei wneud?), felly daliwch ati a chofnodau'r newidiadau rhywle. Falle Defnyddiwr:Lesbarth/GwirioGwales?.
Pa hwyl eich dau? Diolch Les am fynd ati efo'r criw! Bendigedig! Y farn (er, heb benderfyniad terfynol) yn y caffi oedd rhoi'r adolygiadau (yn union fel ag y mae nhw ar Wicidestun), ond caniatau cynnwys rhannau diduedd ar Wicipedia. Fel y dywedodd Llofiwr: Dwi'n gweld syniad Adam o roi'r adolygiadau ar Wicidestun ac yna defnyddio'r rhannau ohonynt sy'n ateb anghenion Wicipedia yma yn un da. Opsiwn arall oedd rhoi'r dewis i'r darllenydd i weld y testun neu beidio, fel y cytunaist, Rhys. Dw i wedi addasu'r adolygiad o Un Nos Ola Leuad gan ddileu llawer o'r gwlan cotwm, ond gadael rhywfaint sy'n ychwanegu at yr erthygl, ac yn ddiduedd! Gobeithio fod hyn yn gyfaddawd. Gyda llaw, mi fydd yr Adolygiadau crai yn cael eu huwchlwytho cyn bo hir ar Wicidestun gan y Bot. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:05, 14 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Dw i ddim yn bwriadu uwchlwytho 3200 adolygiadau; mae'n well gen i reilffyrdd! Awgrymodd ein tiwtor mod i'n dod a sawl adolygiad arall i'r wers yr wythnos nesaf, ac bod pawb yn mynd â nhw adref, ac yn gweithio arnynt erbyn y wers dilynol. Os oes diddordeb, efallai bydd 'na gyfle i ehangu'r gwaith. Ond doedd 'na ddim llawer o gyffro yr wythnos 'ma. Roedd 'na ganmoliaeth yn yr adolygiadau, ond dim gor-canmoliaeth, felly dim angen gwneud llawer. Efallai basai rhywbeth mwy creadigol yn well. Lesbardd (sgwrs) 16:51, 14 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Manylion coll gyda File:Backy Taylor01LL.jpg golygu

Annwyl uwchlwythwr: Mae manylion ar goll gyda'r ffeil a uwchlwythoch ([[:File:Backy Taylor01LL.jpg]]). Mae hi naill ai'n colli disgrifiad a/neu fanylion eraill, a/neu drwydded ar ei thudalen disgrifio. Os oes modd, ychwanegwch y wybodaeth hon. Bydd hwn yn cynorthwyo i olygyddion eraill wneud y defnydd gorau o'r ddelwedd, a bydd yn fwy addysgiadol i ddarllenwyr.

Os na roddir y wybodaeth, dilëir y ffeil ymhen tri diwrnod i ddyddiad gosod y tag hwn, sy'n sefyllfa annymunol, a sefyllfa y gellir ei hosgoi'n hawdd.

Os oes cwestiynu gennych, ymwelwch â'r dudalen hon. Diolch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:32, 25 Chwefror 2014 (UTC)Ateb
Les - paid a phoeni am y Nodyn uchod. Oes gen ti ganiatad gan Llinos ar ebost? Mi wneith hyn ateb y broblem efo'r system OTRS.
Glenn - dw i wedi cyfarfod Les a Llinos sawl tro; felly rho mwy na thridiau i ni gael hyn yn ei le! A chroeso'n ol!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:24, 25 Chwefror 2014 (UTC)Ateb
Fedri di ddim rhoi CCBYSA gan nad y ti dynnodd y llun. OND mi fedrwn ni roi ei holl luniau ar docyn OTRS. Gad i mi chwilio i mewn i hynny drosot ti. Oes gen ti ebost gan Llinos neu ti isio i mi ofyn iddi? Mae hwnna'n hanfodol i gofrestru'r drwydded OTRS. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:31, 25 Chwefror 2014 (UTC)Ateb
Dw i'n gwybod bod Llinos wedi rhoi caniatâd ar gyfer lluniau Tegeingl, ond does gen i ddim byd ar ebost. Mae hi wedi symud i Gaerdydd erbyn hyn, ond na fydd ei chyfeiriad ebost wedi newid.Lesbardd (sgwrs) 22:42, 25 Chwefror 2014 (UTC)Ateb
Do, dw i'n cofio hi'n son yn y pwyllgor. Ta waeth - dw i newydd ddanfon ebost ati! Pob hwyl a chofion Les! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:49, 25 Chwefror 2014 (UTC)Ateb
Diolch. Yn ôl at y cynganeddu rŵan; mae'n dal yn broses araf. Ac mae gen i ddiddordeb arall erbyn hyn; dw i newydd brynu coedwig yn ymyl Maeshafn.Lesbardd (sgwrs) 09:08, 26 Chwefror 2014 (UTC)Ateb

Dyblygiad golygu

Rwy newydd weld eich erthygl Gorsaf Reilffordd St David's, Caerwysg; fel mae'n digwydd mae 'na erthygl ar yr orsaf honno yn barod, Gorsaf reilffordd St Davids Caerwysg. A fyddai'n iawn gennych chi pe bawn i'n symud cynnwys eich erthygl i'r un hŷn a throi'r un newydd yn dudalen ailgyfeirio iddo? Ham (sgwrs) 19:00, 24 Ebrill 2014 (UTC) Wnes i ddim sylweddoli bod 'na un yn barod; croeso i chi uno'r tudalennau a chreu ailgyfeiriad.Lesbardd (sgwrs) 08:50, 25 Ebrill 2014 (UTC)Ateb

Gorsafoedd tren y gorffennol golygu

Haia Les; nodyn o ddiddordeb i ti, efallai yn fama?

Croeso o'r Unol Daleithiau; cyrhaeddais neithiwr, felly byddaf yn ganolbwyntio am ffotograffiaeth am y pythefnos nesaf, yn gyntaf yn Efrog Newydd, wedyn Philadelphia, gan gynnwys Cynwyd, Bala, Brynmawr ac ati.

Mae cyn-orsafoedd wedi bod ar fy rhestr, er bod nhw heb gyrraedd y brig eto. Mae 'na wefan ardderchog, sef http://www.disused-stations.org.uk/sites.shtml a does dim diffyg ohonynt yn ein ardal ni. Gwnaf edrych ar rai ohonynt ar ol imi gyrraedd adref eto.

Mae'r gwaith geiriadur yn symud ymlaen hefyd; mae fy ffrind wedi penderfynu creu meddalwedd sy'n canfod gwallau cynganeddol, sy wedi hefyd wedi ei effro i ddiffygion ein geiriadur ac odliadur; erbyn hyn, mae'n bosib gwahanieithu rhwng y ffurfiau 'ng', e.e. angau ac ariangar. geiriau acennog nesaf! Lesbardd (sgwrs) 11:18, 10 Hydref 2014 (UTC)Ateb

Whaw! Bendigedig! Y ddau beth. Ydy'r geiriadur a'r odliadur arlein? Danfon ddolen os ydy. en:Bala Cynwyd, Pennsylvania, nid en:Bala, Kansas, dw i'n cymryd? Dwy dref yn un, ond dwy orsaf reilffordd! Cofia hefyd am y trefi: North Wales, Lower Merion, Upper Merion, Radnor a Haverford Township. Hefyd: Tredyffrin or Uwchlan. Os gelli gael llun o rai o'r arwyddion, mi fedran greu erthygl ar bob un. Neu gherrig beddau efo ysgrifen Cymraeg. Ond yn fwy na dim: mwynha dy hun! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:47, 10 Hydref 2014 (UTC)Ateb

Delwedd:Cincinnati01LB.jpg golygu

Haia. Roedd y llun gwych a dynaist, sef   yn rhy dda i'w adael! Dw i wedi ei sythu ychydig a'i ail-lwytho. Mi drois i'r contrast i fyny fymryn hefyd. Gobethio fod hyn yn iawn gen ti - galli ddileu y fersiwn diweddaraf os wyt ti am, wrth gwrs! Dal i daflyd nhw atan ni - yn enwedig yr enwau Cymraeg! Mae nhw'n dangos fod na berspectif arall, gwahanol i'r Gymraeg - ac yn dileu'r meiopia sydd arnom fel cenedl! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:58, 3 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Croeso i unrhyw un newid unrhyw beth mod i'n gwneud. Does dim byd cysegredig am fy ngwaith i. Mae'r orsaf yn anhygoel; cais (llwyddianus) i greu darn enfawr o gelf yn hytrach na ddarn enfawr o elw. Mae'n bwysig i mi bod Wicipedia'n rheswm ymarferol a phositif dros ddefnyddio'r iaith; dw i wedi gweld gormod o negyddoldeb Caniwtaidd ynglyn a'r dyfodol.Lesbardd (sgwrs) 09:08, 4 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Wicipedia:Ar y dydd hwn golygu

Haia Les. Oes na ddyddiadau perthnasol i Gymru (a gweddill y byd) sy'n gerrig milltir pwysig? Rheilffordd Tal y Llyn er enghraifft? Mae croeso i ti eu gosod ar y dudalen Wicipedia:Ar y dydd hwn. Cofion fil. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:51, 11 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Dw i'n sicr bod 'na ddyddiadau bwysig; gwna' i feddwl, ac yn gofyn i ffrindiau.82.69.8.75 23:37, 11 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
:-) - Llywelyn2000 (sgwrs) 23:50, 11 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

David Thompson (mapiwr) golygu

Cofia fod hwn gennym ni'n barod, Les: David Thompson (mapiwr). Uno, efallai? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:56, 21 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

Wnes i ddim sylweddoli; gwnaf i orffen fy narn i ac yn ychwanegu'r cwbl i'r un sy'n bodoli yn barod.Lesbardd (sgwrs) 23:02, 21 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

lluniau Da!!! golygu

Tri o'th luniau wedi eu hanrhydeddu ar Comin!!! Bril! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:28, 23 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

Calan golygu

Haia Les. Dw i'n siwr i mi weld delwedd gen ti o'r grwp Calan? Neu ai fi sy'n anghofus o hen? Llywelyn2000 (sgwrs) 21:22, 25 Tachwedd 2015 (UTC)Ateb

Cymerodd Llinos Lanini luniau o'r band yn ystod Tegeingl 2010; Calan01LL.jpg a Calan02LL.jpg ydyn nhw. Wrth gwrs mae aelodau'r band yn hyn erbyn hyn, a rhai aelodau wedi newid erbyn hyn. Dw i ddim wedi cymryd lluniau ohonynt, ond mae gen i ffrind sy'n debyg o gael lluniau mwy diweddar.Lesbardd (sgwrs) 22:17, 25 Tachwedd 2015 (UTC)Ateb
Ew, go dda! Byddai hynny'n wych! Mi gychwynai erthygl arnyn nhw fory. Nos da! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:38, 25 Tachwedd 2015 (UTC)Ateb

Dw i wedi ychwanegu lluniau'r aelodau. Croeso i ti dacluso popeth. Cas Smith oedd y ffotograffydd ac wedi rhoi caniatad. Yn anffodus, mae hi wedi tynnu cymaint o luniau ohonynt bod hi ddim wedi tynnu unrhywbeth yn ddiweddar.Lesbardd (sgwrs) 16:33, 26 Tachwedd 2015 (UTC)Ateb

Deffro'r Ddraig golygu

Helo 'na Lesbardd. A hoffech chi gymryd rhan yng nghystadeluaeth Deffro'r Ddraig, ar gyfer creu a gwella erthyglau am Gymru, ym mis Ebrill? Mae cyfle i ennill tocynnau rhodd gwerth hyd at £200 oddi wrth Amazon. Mae llwyth o erthyglau posib i'w creu o'r newydd ar y rhestr o erthyglau hanfodol, ac mae'n werth edrych ar adran Transport y fersiwn Saesneg o'r rhestr yn arbennig. Efallai bydd rhywbeth ac eich dant yno. Gallwch gofrestru fan hyn. Ham II (sgwrs) 15:49, 31 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

Deffro'r Ddraig golygu

Haia Les! Fl rhan o'r prosiect Wicipedia:Deffro'r Ddraig/Cyfraniadau tybed a wnei di roi'r erthygl Borth-y-Gest, ac unrhyw un arall ti di sgwennu am Gymru yn ystod mis Ebrill? Mae na dros 400 wedi'u sgwennu ar en, a da ni'n ddiawl o ara deg ar cywici! Diolch. ON Mi wna i gysylltu cyn hir -mae angen cyfarfod arnom! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:17, 16 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Dw i wedi ychwanegi Borth-y-Gest ond dw i ddim yn siwr os bydda' i'n ysgrifennu llawer mwy am Gymru yn ystod i mis; mae gen i 2 reilffordd ar y rhestr sy'n rhannol yng Nghymru ond dim llawer arall. Mae'n hen bryd i ni gyfarfod eto; mae wedi bod yn amser hir.Lesbardd (sgwrs) 19:07, 17 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
Rhy hir! A diolch am Borth-y-Gest! Rhyw ysfa ynof i sgwennu 'Porth-y-Gest', ond mi wn yn well! Cofion - Llywelyn2000 (sgwrs) 07:28, 18 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Dull syml o enwi'r canrifoedd golygu

Fel un sydd wedi dysgu Cymraeg, les, mi hoffwn yn fawr glywed dy farn ar y drafodaeth yma, am newid yr hen ddull o enwi'r canrifoedd i ddull mwy modern ee "yr ail ganrif ar bymtheg ar hugain CC" --> "canrif 37 CC". Diolch o galon! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:02, 9 Mai 2016 (UTC)Ateb

Ers i mi ddechrau dysgu, dw i wedi meddwl bod 'yr ail ganrif ar bymtheg' yn ffordd rhy hir i ddweud rhywbeth sy'n cael ei dweud mor aml.Baswn croesawu ffordd ferrach o'i dweud.Lesbardd (sgwrs) 08:10, 9 Mai 2016 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr Les! Cytuno! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:19, 9 Mai 2016 (UTC)Ateb

Helo Mr Pop golygu

Helo Les! Fuest ti wrthi'n uwchlwytho cannoedd o luniau da o'r byd gwerin ar Wicipedia tua dwy flynedd yn dol. Oes gen to chwaneg? Mae na brosiect bach da ar y byd canu pop gan y Llyfrgell Genedlaethol - yn fama! Dim ond mis mae'n para, a mi fyddai'n rili gwd pe gallem gael rhagor i ymuno! PS Cawn gwrdd ryw dro! Licio dy waith ar y trenau stem! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 22:27, 31 Ionawr 2017 (UTC)Ateb

Lluniau ar Comin? golygu

Mae'r lluniau yma'n rhy dda i cywici yn unig! Beth am eu huwchlwytho i Comin, Les? Gallem eu defnyddio yma ac ym mhob iaith arall wedy? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:45, 25 Ebrill 2017 (UTC)Ateb

You are invited! golygu

 
You are invited...
 

The Celtic Knot: Wikipedia Language Conference - Programme now live.

  • Hosts: The University of Edinburgh and Wikimedia UK
  • Supporting: Celtic & Indigenous Languages.
  • Objective: The main objective for Celtic Knot 2017 is the coming together of practitioners in the same room at same time; strengthening the bonds of those working to support language communities into a 'knot' and leading into action. Attendees can expect to learn about and discuss innovative approaches to open education, open knowledge and open data that support and grow language communities.
  • Date: 6 July 2017 - Booking is now open.

Stinglehammer (sgwrs) 22:46, 22 Mai 2017 (UTC)Ateb

Angen help plis golygu

Helo @Lesbardd: Dw i wedi gadael neges tebyg ar dudalen Pwyll, ond dydy o ddim ar Wicipedia mor amal y dyddia hyn, felly dw i hefyd yn troi atat ti. Diolch am roi dy enw ar y prosiect newydd i gynorthwyo datblygu Wicipedia Cymraeg. Mae angen tri i roi eu henwau a chyfeiriad, er mwyn i'r cais fynd ymlaen! Mae dau wedi gwneud hynny, fel ti'n gweld ar waelod y dudalen yma. Fedra i ddim gwneud am resyma personol - plis nei di wneud? Neu bydd hi'n amen ar y cynlluniau. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:59, 21 Medi 2017 (UTC)Ateb

Diolch Les! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:35, 21 Medi 2017 (UTC)Ateb

Whow! Lluniau da gen ti! golygu

Neno'r tad mae dy luniau di'n fantastic! Mae angen eu rhoi nhw ar yr erthyglau rwan! O le dynaist ti Delwedd:EfrogNewydd09LB.jpg? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 20:03, 15 Hydref 2017 (UTC)Ateb

Diolch. Mi wna' i ychwanegu oriel i erthygl Manhattan cyn bo hir. Dw i'n sicr bydd gen pobl eraill lluniau da o'r lle. tynnais i'r llun o adeilad Chrysler o adeilad Empire State.Lesbardd (sgwrs) 08:30, 16 Hydref 2017 (UTC)Ateb

Amgueddfa Celf Philadelphia golygu

helo @Lesbardd:, mae Amgueddfa Gelf Philadelphia yn bodoli'n barod - ydi'n bosib i ti gyfuno yr erthygl Amgueddfa Celf Philadelphia gyda hwnna? Hwyl! --Dafyddt (sgwrs) 10:44, 22 Tachwedd 2017 (UTC)Ateb

Dw i wedi ychwanegu llun a pharagraff i'r amgueddfa gelf. Oes modd o ddileu'r amgueddfa celf?Lesbardd (sgwrs) 11:35, 22 Tachwedd 2017 (UTC)Ateb

Diolch! Wnai ail-gyfeirio'r llal am nawr dwi'n meddwl. --Dafyddt (sgwrs) 15:29, 22 Tachwedd 2017 (UTC)Ateb

Share your experience and feedback as a Wikimedian in this global survey golygu

WMF Surveys, 18:40, 29 Mawrth 2018 (UTC)Ateb

Reminder: Share your feedback in this Wikimedia survey golygu

WMF Surveys, 01:39, 13 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Your feedback matters: Final reminder to take the global Wikimedia survey golygu

WMF Surveys, 00:48, 20 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Rhoi lluniau ar Comin yn hytrach na Wicipedia Cymraeg? golygu

Haia Les. Mae dy luniau'n fendigedig! Yn rhy dda i'w cadw i ni ein hunain! Tybed a wnei di ystyried eu huwchlwytho i Comin, er mwyn iddynt gael eu rhoi ar ieithoedd eraill, a Wicidata. fel y gweli o dy erthygl ar Camlas Peak Forest, mae'r ddelwedd yn dod o Comin, ac yn salach llun na'r ddau sydd gen ti. Ond fedra i ddim rhoi dy luniau ar Wicidata ar hyn o bryd gan eu bod yn gyfyngedig i'r WP Cymraeg! Os cytuni, uwchlwytha nhwyn y dyfodol i Comin. A dweud y gwir, mae ychydig yn haws gan y medri uwchlwytho hyd at 50 efo un clic! os tisio cyfarfod i drafod, rho ffonsan i mi! Cofion cynnes... Robin aka Llywelyn2000 (sgwrs) 20:48, 30 Ionawr 2019 (UTC) Gwna'i drio cofio'r tro nesaf. Lesbardd(sgwrs) 14:40, 31 Ionawr 2019 (UTC)Ateb

Gwerthfawrogiad! golygu

    Gwerthfawrogiad o'th Waith Arbennig!
Carwn gyflwyno'r seren hon i ti, rhen gyfaill, fel gwerthfawrogiad o'th waith arbennig, a diflino, yn enwedig am greu erthyglau newydd ac uwchlwytho ffotograffau fantastig! Cyflwyniad personol ydy hwn, ond gwn hefyd fod dy waith yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned a'r darllenwyr! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:06, 28 Mawrth 2019 (UTC)Ateb

Wel, diolch am y seren. Dw i'n jyst trio cyfrannu at ddyfodol yr iaith.Lesbardd (sgwrs) 15:11, 28 Mawrth 2019 (UTC)Ateb

Enwau Mwynglawdd a Choedpoeth golygu

Les, gweler y drafodaeth yma i gadarnhau ffurfiau cywir Coedpoeth a Mwynglawdd: https://cy.wikipedia.org/wiki/Sgwrs:Y_Mwynglawdd --Cymrodor (sgwrs) 08:10, 26 Mai 2019 (UTC)Ateb

Gwybodlen Lle golygu

Heo Les! Dw i wedi rhoi'r llun gwych ar Wicidata ac yna, mi wnes i gopio'r cod i'r wybodlen newydd ar y dudalen, fel bod y llun a'r map yn ymddangos. Gobeithio fod hyn yn iawm gen ti. Cell Danwydd (sgwrs) 10:14, 24 Ebrill 2020 (UTC)Ateb

Diolch yn fawr Lesbardd(sgwrs) 14:40, 31 Ionawr 2019 (UTC).Ateb

Universal Code of Conduct golygu

Hi Lesbardd

I was asked by Wikimedia Foundation to promote this call for participation on the planned Universal Code of Conduct.

Best regards --Holder (sgwrs) 04:35, 14 Awst 2020 (UTC)Ateb

At times, our contributor communities and projects have suffered from a lack of guidelines that can help us together create an environment where free knowledge can be shared safely without fear.

There has been talk about the need for a global set of conduct rules in different communities over time. Recently, Wikimedia Foundation Board of Trustees announced a Community Culture Statement, asking for new standards to address harassment and promote inclusivity across projects. [1]

The universal code of conduct will be a binding minimum set of standards across all Wikimedia projects, and will apply to all of us, staff and volunteers alike, all around the globe.. It is of great importance that we all participate in expressing our opinions and thoughts about UCoC and its values. We should think about what we want it to cover or include and what it shouldn’t include, and how it may create difficulties or help our groups.

This is the time to talk about it. Before starting drafting the code of conduct, we would like to hear from you and to solicit the opinions and feedback of your colleagues.

In order for your voice to be heard, we encourage and invite you to read more about the universal code of conduct (UCoC) [2] and then write down your opinions or feedback on the discussion page [3]. To reduce language barriers during the process, you are welcomed to translate the universal code of conduct english main page into your respective local language [4]. You and your community may choose to provide your opinions/feedback using your local languages.

Deeside Halt - Glandyfrdwy or Glanddyfrdwy? golygu

Hi, apologies for writing in English, but my Welsh isn't up to it. I was categorising the photos of Deeside Halt that you've added to Commons, and thought at first you'd misidentified the station as Glyndyfrdwy, which is the next station down the line. I renamed one to Deeside Halt, but then realised that you had correctly identified in the English description, but labelled it as 'Glandyfrdwy in the Welsh description. I then looked at Rheilffordd Llangollen, and realised that according to the article, Deeside Halt in Welsh is Glanddyfrdwy (with double d, presumably a mutation). I'll move the file back, but which spelling is correct? Sorry for the confusion - I'll try to sort it out as soon as possible. Voice of Clam (sgwrs) 21:19, 8 Medi 2020 (UTC)Ateb

We sent you an e-mail golygu

Hello Lesbardd,

Really sorry for the inconvenience. This is a gentle note to request that you check your email. We sent you a message titled "The Community Insights survey is coming!". If you have questions, email surveys@wikimedia.org.

You can see my explanation here.

MediaWiki message delivery (sgwrs) 18:48, 25 Medi 2020 (UTC)Ateb

FileImporter golygu

Hi! I have set up FileImporter so now it is easy to move files like Delwedd:Adelaide04LB.jpg to Commons. If you want to move your photos just go to the photo and click the tab "Export to Wikimedia Commons" and click "Import" to confirm.

I do not speak the language but Google Translate told me that you were the photographer of this great photo! Perhaps you can help me with Delwedd:Mwynfeydd copr - cymylog.jpg. There are many uploads with the text "lluniau gwp" and "gwp". Do you know what that mean? --MGA73 (sgwrs) 10:35, 6 Mehefin 2021 (UTC)Ateb

Wici'r Holl Ddaear golygu

Haia Les. Dwn i'm os ti di cael cyfle i weld wefan ar hyn yn fama? Mae gynnon ni tan ddiwedd y mis i uwchlwytho fel rhan o'r gystadleuaeth. Cofia ddefnyddio'r botwm gwyrdd, neu wna nhw ddim cyfri! Golygfeydd, natur, planhigion neu anifeiliaid - just up your street fel mae nhw'n dweud! 'At dy ddant' yn Gymraeg! Cofion cynnes... Robin - Llywelyn2000 (sgwrs) 06:48, 10 Mehefin 2021 (UTC)Ateb

Diolch am dy gyfraniadau gwerth chweil, Les! Gwych iawn iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:19, 5 Gorffennaf 2021 (UTC)Ateb

Nodyn:Lle golygu

Haia Les! Dw i wedi ychwanegu:

{{Lle | gwlad = {{banergwlad|Yr Alban}} | ynganiad  = {{wikidata|property|P443}} }} 

ar frig dy erthygl ar Ant-Sailean. Mae hyn yn creu gwybodlen otomatig. Weithiau mae angen creu cyswllt i erthgl debyg mewn iaith arall, felly rhaid mynd i Wicidata a gwneud un peth bach: chwilio am y pentref drwy roi'r enw (neu'r enw Saesneg) yn y blwch chwilio. Rol i ti ffindio'r statement cywir, rho'r enw Cymraeg i fewn (ar y top) ac eto yn y gwaelod lle mae'n gofyn am enw'r erthygl ar Wicipedia. Mae'n reit hawdd unwaith ti di dallt! Pob lwc! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:06, 11 Medi 2021 (UTC)Ateb

Diolch am y cyngor; sylweddolais fod ti ar waith ddoe tra o'n i'n gwneud pethau eraill! Ro'n i i ffwrdd yn Colchester yn gynharach yn yr wythnos, felly ro'n i'n trio dal i fyny efo fy ngwaith wici ddoe.Lesbardd (sgwrs)

Rheilffyrdd Treftadaeth Cambriɑ golygu

Helo ers talwm, Les. Ar ddiwedd erthyl Rheilffyrdd Treftadaeth Cambrian mae'n dweudː

 Sefydlwyd ymgyrch newydd yn Cyffwrdd Llandu ar gangen Nantmawr

dwi wedi ei newid i

 Sefydlwyd depo newydd yng nghyffordd Llandu ar gangen Nantmawr

ydy hyn yn gywir? Diolch.--Rhyswynne (sgwrs) 10:41, 2 Medi 2022 (UTC)Ateb

Helo Rhys. Hyd y gwn i, does dim byd ynLlandu; mae trenau'n mynd yn achlysurol rhwng Croesoswallt a Chei Weston, a dw i wedi gweld trên yn symud ychydig o lathenni yn Llynclys. Penderfynais bod y gair 'ymgyrch' yn ddigon haniaethol. Dw i'n crynhoi'r erthygl yn y Wicipedia saesneg cyn symud ymlaen at ffynnonellau eraill. .Lesbardd (sgwrs) Lesbardd (sgwrs) 11:45, 2 Medi 2022 (UTC)Ateb

Marwolaeth golygu

Tan rhyw dair wythnos yn ol roedd Les yn dal i greu erthyglau ar Wicipedia. Bu farw lai nag wythnos yn ol, ar 14 Ionawr 2023. Creu pennawd ar Reilffyrdd Treftadaeth Cambrian - ar ei dudalen Defnyddiwr - oedd ei gyfraniad olaf. Nid rhestr ymffrostgar o'r hyn roedd wedi'i gyflawni ar wici sydd ar ei hafan ei hun, ond rhestr ymarferol o bethau i'w gwneud. Typical Les - gweithio'n ddyddiol, yn dawel bach, ar ei ddiddordebau ei hun (natur a rheilffyrdd cledrau cul) - heb ymffrostio, heb geisio clod, y burm yn y bara a oedd a gwên dawel barhaus yn llenwi'i wyneb.

Yn 2012 mi ffoniais Les, ar ôl clywed ei fod yn cyd-drefnu Gŵyl Tegenigl a chawsom sgwrs ffôn awr a hanner am drwyddedau agored ei ffotograffau ac am Wicipedia. Doedd rioed wedi meddwl am y syniad o gyfranu mewn modd torfol ac roedd y syniad o rannu a thorfoli gwybodaeth yn ei gyffroi. Bu wrthi'n ddyddiol ers hynny: mae ei luniau'n fantastig, roedd ei gyfraniad i Wicipedia'n fantastig, roedd yn berson fantastig. Diolch am gael ei nabod! Dysgais lawer ganddo: ei wyleidd-dra, ei amynedd, ei ddyfalbarhad.

Cysga'n dawel. Robin Llywelyn2000 (sgwrs) 07:48, 20 Ionawr 2023 (UTC)Ateb