Agor y brif ddewislen
Afon Conwy yn llifo trwy Ddyffryn Conwy ger Tal-y-cafn.
Aber yr afon o Gastell Conwy.

Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Conwy. Enwir Bwrdeistref Sirol Conwy ar ei hôl am ei bod yn llifo trwy ganol y sir. Mae tref Conwy yn dwyn ei henw hefyd, er mai Aberconwy oedd ei henw gwreiddiol.

Cwrs yr afonGolygu

 
Llyn Conwy
 
Afon Conwy yn llifo dan y ddwy bont yn nhref Conwy tua'r môr

Mae'n tarddu tua 1,550 troedfedd uwch lefel y môr yn Llyn Conwy, sydd bellach yn gronfa dŵr, ar Y Migneint. Filltir i'r de o'r llyn mae'n rhedeg dan y B4407 ac yn troi i'r gogledd i ddilyn y ffordd fel ffrwd fach trwy weundir corsiog y Migneint cyn llifo trwy Ysbyty Ifan.

O Ysbyty Ifan ymlaen mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng hen siroedd Caernarfon a Dinbych am y rhan fwyaf o'i chwrs. Ger Pentrefoelas mae hi'n cwrdd â'r A5 ac yn rhedeg heibio i erddi rhododendron y Foelas a thrwy chwm cul coediog rhwng y bryniau i'w haber ag Afon Machno, sy'n dod i mewn iddi o'r gorllewin o gyfeiriad Penmachno. Fymryn uwchlaw'r aber honno ceir rhaeadrau ar Afon Machno a mymryn islaw ar Afon Conwy ei hun mae: Rhaeadr y Graig Lwyd [1] yn gorwedd mewn ceunant werdd ddofn; mae ystol eogiaid yma i gynorthwyo'r eogiaid ar eu taith i fyny'r afon. Fymryn islaw eto ceir Ffos Noddyn (y Fairy Glen yn Saesneg) lle rhed yr afon trwy ceunant greigiog a choedwig pinwydd cyn derbyn dŵr Afon Lledr i'w llif.

Cyn cyrraedd pentref Betws-y-Coed mae Afon Llugwy yn ymuno â hi yn ogystal. Llyn yr Afanc yw'r enw ar y pwll mawr o ddŵr tawel tywyll ger aber y ddwy afon ac mae yna chwedl werin am yr anghenfil oedd yn byw yno a gafodd ei swyno allan o'r llyn gan eneth ifanc a'i llusgo i fyny'r dyffryn i Lyn Cwm Ffynnon Las, ger Dolwyddelan. Mae'r afon yn llifo wedyn dan bont haearn enwog Pont Waterloo, sy'n cludo'r ffordd A5 drosti.

Mae Afon Conwy yn awr yn llifo'n arafach o lawer tua'r gogledd, heibio i ddolydd eang a phorthfa bras i lawr i Lanrwst a than pont dri bwa Inigo Jones. Yn is i lawr mae'n llifo heibio i bentrefi Trefriw, Dolgarrog a Thal-y-bont ac yn mynd heibio i Gaerhun a safle'r gaer Rufeinig Canovium a'i hen eglwys. Mae pont yn cysylltu Tyn-y-Groes a Tal-y-cafn dros yr afon ac i'r gogledd i Dyn-y-Groes mae hi'n llifo wrth droed hen gaer Geltaidd Bryncastell.

Ffilm fer o'r ardal rhwng y Migneint a Dyffryn Conwy

Mae'r afon yn ymledu ar ôl Tal-y-cafn ac yn mynd heibio i Glan Conwy cyn cyrraedd y môr yn ymyl tref Conwy. Yng Nghonwy mae ei llif yn cael ei chyfyngu i redeg dan dair pont ger muriau'r castell: Pont Grog Conwy gan Telford, Pont Rheilffordd Conwy gan Stephenson, a phont ffordd a adeiladwyd ym 1958. Mae'r bont honno, a'r dref, bellach wedi eu hosgoi gan yr A55, sy'n rhedeg mewn twnnel dan yr afon. Wrth ymyl y pontydd hefyd y mae Afon Gyffin yn ymuno â hi. Mae Afon Conwy yn afon lanwol ar ran olaf ei thaith a gall effaith y llanw gyrraedd cyn belled â Llanrwst ar lanw mawr.

Mae ei haber, Aberconwy yn llydan rhwng Conwy a Deganwy ac yn boblogaidd gan berchnogion cychod hwylio, fel y mae'r marina newydd ger Morfa Conwy yn tystio. Yn y gorffennol Aberconwy oedd yr enw brodorol am dref Conwy ei hun. Mae'r banciau tywod eang yn yr aber yn enwog am eu gwelyau cregyn gleision a bysgotir o hyd o harbwr Conwy.

PysgodfeyddGolygu

Mewn hanesGolygu

  • Yn hanesyddol, Afon Conwy oedd y ffin oedd yn rhannu Teyrnas Gwynedd yn ddwy ran, sef Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy (neu Y Berfeddwlad) ac mae hi'n aros yn ffin ddiwyllianol a thafodieithol heddiw.
  • Y mae William Williams (1738-1818) o Landygai yr hanesydd Cymreig a ysgrifennodd ‘History of Caernarvonshire’ yn sôn am ddamwain a ddigwyddodd yn Afon Conwy yn amser Cromwell h.y. yn y cyfnod 1649-60 pan fu i un o gychod y fferi suddo ac 80 o deithwyr ar ei bwrdd. Boddwyd y teithwyr i gyd ond un ferch ifanc — Anne Thomas oedd ar ei ffordd i gyfarfod ei darpar ŵr, Sion Humphries o Lanfairfechan. Trwy gyd- ddigwyddiad fe syrthiodd o o ben craig ym Mhenmaenmawr, ond cafodd ei achub! Mae diwedd hapus i’r hanes. Priododd y ddau a symud i fyw i Lanfairfechan. Nid dyna ddiwedd y stori. Pan fu Anne farw ar Ebrill 11eg 1744 roedd yn 116 mlwydd oed, ond bu Sion fyw am bum mlynedd arall ac fe’i claddwyd o ar Ragfyr 10fed 1749. ‘Does dim cyfeiriad at oed Sion pan fuo fo farw ond y tebyg yw ei fod yn llawer ieuengach na’i wraig. Y mae’r beddau i’w gweld ym mynwent hen eglwys Llanfairfechan. Tybed ai gwyntoedd cryfion fu’n gyfrifol am y ddwy ddamwain?[2]

LlednentyddGolygu

LlyfryddiaethGolygu

  • Wilson MacArthur, The River Conway (Llundain, 1952). Hanes daith i lawr yr afon ar ei hyd ar ddechrau'r 1950au.
  • E.D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)

Gweler hefydGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan Llên Natur; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012
  2. Stan Wicklen, Papur Bro 'Y Pentan'